Dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

Cyhoeddwyd 05/03/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/03/2020

Blog gan Ann Jones AC.

Ann Jones AC a'r panel

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal digwyddiad blynyddol bob mis Mawrth i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Thema eleni yw #EachforEqual, ac rwy'n teimlo'n falch iawn ein bod wedi ymrwymo i gymryd cydraddoldeb o ddifrif yn y Cynulliad ers ei sefydlu 20 mlynedd yn ôl.

Rwy'n un o'r Aelodau Cynulliad gwreiddiol a etholwyd am y tro cyntaf ym 1999. Mae hyn wedi rhoi trosolwg da i mi o'r Cynulliad a'r ffordd y mae'n gweithio. Gallaf wir ddweud ei fod yn ymrwymo i egwyddorion #EachforEqual. Mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i hyrwyddo cydraddoldeb ac mae wedi dod yn rhan annatod o’n diwylliant i wneud hynny, nid oherwydd bod yn rhaid i ni wneud hynny, ond am ein bod am wneud hynny.

Cydnabyddiaeth ryngwladol

Yn 2003, enillodd y Cynulliad gydnabyddiaeth ryngwladol am fod y ddeddfwrfa gyntaf ledled y byd i sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau, ac am fod y gyntaf i gael mwy o fenywod na dynion yn 2006. Ar hyn o bryd mae gennym 47 y cant o Aelodau benywaidd ac rydym yn parhau i ymdrechu i sicrhau cydbwysedd cyfartal.

Pan gefais fy ethol gan fy nghymheiriaid ar gyfer rôl y Dirprwy Lywydd yn 2016, gwelais gyfle i ddangos y gwaith a wneir gan fenywod. Mae cynnal digwyddiadau fel ein dathliadau Diwrnod Rhyngwladol y Menywod a chlywed gan fenywod mor ysbrydoledig bob amser yn fy atgoffa pam fy mod i mor angerddol am hyrwyddo a chefnogi menywod mewn gwleidyddiaeth. Nid yw bob amser yn hawdd, ac mae thema #EachforEqual eleni yn pwysleisio pwysigrwydd cydraddoldeb ledled ein cymdeithas.

Siaradwyr ysbrydoledig

Roedd hi’n bleser clywed siaradwyr mor ysbrydoledig yn ein digwyddiad. Ein siaradwyr oedd Charlie Morgan, cyd-sylfaenydd Warrior Women Events; Angel Ezeadum, Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru a Sophie Rae, sylfaenydd Ripple Living.

Charlie Morgan, cyd-sylfaenydd Warrior Women Events
Angel Ezeadum, Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru
Sophie Rae, sylfaenydd Ripple Living

Roedd eu geiriau nhw’n ddiddorol iawn ac yn hynod rymusol, ac rwy’n ddiolchgar iddyn nhw am rannu eu straeon gyda ni. Roeddwn i’n falch o groesawu Betsan Powys i gadeirio’r digwyddiad hefyd.

Gwnaethom ni groesawu amrywiaeth o bobl i’r Pierhead ac roedd yn gyfle da i siarad â phobl efallai nad oedden nhw wedi ymgysylltu â ni o’r blaen. Rwy’n eich annog i gadw mewn cysylltiad. Siaradwch â’ch Aelodau Cynulliad am y materion sy’n bwysig i chi. Dewch i ymweld â ni yn y Senedd a dilynwch ni ar Twitter, Facebook ac Instagram

Beth sydd nesaf?

Wrth i ni ddathlu 20 mlynedd o ddatganoli yng Nghymru, mae'n anhygoel gweld pa mor bell yr ydym wedi dod. Wrth i etholiadau nesaf y Cynulliad gael eu cynnal yn 2021, byddwn yn gweld yr hawl i bleidleisio’n cael ei hestyn am y tro cyntaf i bobl 16 a 17 oed fel rhan o’r Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru). Rydw i mor gyffrous am ganiatáu i hyd yn oed mwy o bobl Cymru gael lleisio eu barn. Byddwn hefyd yn newid ein henw o Gynulliad Cenedlaethol Cymru i Senedd Cymru, neu Welsh Parliament, wrth i ni adlewyrchu ei chyfrifoldebau sy’n datblygu drwy’r amser.