Dathlu Dydd Miwsig Cymru

Cyhoeddwyd 09/02/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/02/2018

Heddiw, rydym yn dathlu Dydd Miwsig Cymru (Welsh Language Music Day), sef digwyddiad blynyddol a gynhelir ledled Cymru i godi ymwybyddiaeth am gerddoriaeth o Gymru. Eleni, bydd aelodau o staff Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn manteisio ar y cyfle i ddathlu Dydd Miwsig Cymru, a hynny fel rhan o'n hymrwymiad parhaus i hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg yn y sefydliad. Drwy gydol yr wythnos ddiwethaf, mae dysgwyr Cymraeg yn y Cynulliad wedi bod yn dysgu'r geiriau i Hen Wlad fy Nhadau, sef yr anthem genedlaethol.

Rhestr o hoff ganeuon Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Fel rhan o'n dathliadau ar gyfer Dydd Miwsig Cymru, mae Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wedi creu rhestr o'i hoff ganeuon Cymraeg er mwyn rhoi blas o'r arlwy cyfoethog sy'n bodoli yn y diwydiant. [youtube https://www.youtube.com/watch?v=X4o_YdpxPbE?rel=0] 1. Ethiopia Newydd – Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr 2. Tyrd Olau Gwyn – Cowbois Rhos Botwnnog 3. Sebona Fi – Yws Gwynedd 4. Cymru, Lloegr a Llanrwst – Y Cyrff 5. Cwcwll – Beganifs 6. Rhedeg i Paris – Yr Anhrefn 7. Harbwr Diogel – Elin Fflur 8. Julia Gitar – Jess 9. Cân i Gymry – Datblygu 10. Coffi Du – Gwibdaith Hen Frân [spotify id="spotify:user:ajddfoiww4ezyk7huhzhg8cwl:playlist:3d2Y4k8FTe5OWeM6CV8gAy" width="300" height="380" /] Wrth siarad am ei detholiad, dywedodd y Llywydd: "Rwy'n hynod falch o gefnogi'r ymdrech hon i sicrhau y gall pobl Cymru glywed y gerddoriaeth amrywiol sydd ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Tyfais i fyny yn gwrando ar fandiau Cymraeg, ac rwyf wedi llunio detholiad o'm hoff gerddoriaeth Gymraeg, gan gynnwys rhai o'r caneuon yr oeddwn yn gwrando arnynt pan oeddwn yn ifanc iawn, a rhai o'r caneuon mwy diweddar yn niwydiant bywiog cerddoriaeth bop Cymru".

Y Senedd yn paratoi i gynnal gig arbennig ar Ddydd Gŵyl Dewi

[youtube https://www.youtube.com/watch?v=3oTu74jMRJY] Gan barhau â thema Dydd Miwsig Cymru, rydym yn cyfri'r dyddiau tan 1 Mawrth, pan fydd y Senedd yn cynnal gig arbennig iawn i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi. Bydd GDSD yn gyfle gwych i ddathlu talent gerddorol orau Cymru, gyda pherfformiadau gan: Adwaith Hannah Grace Mellt Reuel Elijah a Mace Roughion (set DJ) Cynhelir y digwyddiad mewn partneriaeth â phrosiect Horizons y BBC a'r Selar. I gael rhagor o wybodaeth am y gig, cliciwch yma. Bydd mynediad i'r gig yn RHAD AC AM DDIM, ac mae tocynnau ar gael yma.