Deddfwriaeth yn y Pedwerydd Cynulliad ... yr hanes hyd yn hyn

Cyhoeddwyd 17/09/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/09/2014

Mae’r darn pwysig cyntaf o ddeddfwriaeth ynghylch tai ar gyfer Cymru (a grëwyd drwy bwerau datganoledig) yn debygol o gael Cydsyniad Brenhinol y mis hwn. Bute_esplanade_by_Walt_Jabsco PHOTO: Walt Jabsco ar Flickr Deddf Tai (Cymru) yw'r unfed Ddeddf ar bymtheg ers 2011 i gael Cydsyniad Brenhinol ar ôl i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ei phasio. Mae ystod y ddeddfwriaeth a basiwyd gan y Cynulliad yn eang, yn amrywio o Deithio Llesol i Archwilio Cyhoeddus. Oherwydd y bleidlais 'ie' yn refferendwm 2011 ar ddatganoli pwerau i Gymru, mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru bwerau deddfu sylfaenol. Golyga hyn y gall ddeddfu ar bob pwnc oddi mewn i'w gymhwysedd, heb fod angen caniatâd Senedd y DU yn gyntaf. Rhagor o wybodaeth am y broses ddeddfu Cafodd pedair ar ddeg o'r Deddfau a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru hyd yn hyn eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru. Cyflwynwyd un Ddeddf gan Gomisiwn y Cynulliad (Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol)), ac un gan Aelod Cynulliad unigol (Deddf Cartrefi Symudol (Cymru)). Mae gwybodaeth am Ddeddfau unigol yn: http://www.cynulliadcymru.org/cy/bus-home/bus-legislation/Pages/assembly_acts.aspx Ar hyn o bryd, mae chwe Bil yn mynd trwy'r gwahanol Gyfnodau ym mhroses ddeddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Cyflwynwyd tri o'r Biliau hyn gan Lywodraeth Cymru, a thri gan Aelodau Cynulliad unigol. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi pasio un o'r Biliau hyn (y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos Bil (Cymru)) ond fe'i cyfeiriwyd at y Goruchaf Lys gan y Cwnsler Cyffredinol ar ran Llywodraeth Cymru. Dyma ragor o wybodaeth am y Biliau unigol y mae’r Cynulliad yn eu hystyried ar hyn o bryd: http://www.cynulliadcymru.org/cy/bus-home/bus-legislation/bus-legislation-progress-bills/Pages/bus-legislation-progress-bills.aspx. Cyn etholiadau nesaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Mai 2016, mae'n debyg mai cynyddu y bydd gwaith deddfwriaethol y Cynulliad. Rhagwelir y bydd Aelod Cynulliad unigol yn cyflwyno Bil, ac mae Rhaglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-15 yn nodi deg Bil pellach y mae'n bwriadu eu cyflwyno. Am y diweddaraf am ddeddfwriaeth y Cynulliad, ewch i’n Tudalennau Deddfwriaeth