Diffyg Democrataidd - neges o ddiolch oddi wrth y Llywydd

Cyhoeddwyd 14/02/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/02/2014

Rosemary Butler Hoffwn ddiolch i'r holl flogwyr a'r newyddiadurwyr hyperleol a aeth i'r grŵp ffocws Diffyg Democrataidd (#DemDef) ar 5 Chwefror. Rydych yn chwarae rôl bwysig iawn yn ymgyrch Cynulliad Cenedlaethol Cymru i fynd i'r afael â'r diffyg democrataidd yng Nghymru - diffyg democrataidd sydd wedi'i achosi, yn fy marn i, gan fethiant cyfryngau'r DU, a rhannau mawr o gyfryngau traddodiadol Cymru, i gyfleu gwaith y Cynulliad yn iawn i'w cynulleidfaoedd. Mae'r Cynulliad yn awyddus i ymgysylltu â llwyfannau cyfryngau a digidol newydd er mwyn dileu'r diffyg hwn a rhoi gwybodaeth am waith y Cynulliad i bobl Cymru. Yn ystod yr haf y llynedd cynhaliais gynhadledd gyda llwyfannau digidol a chyfryngau cymunedol yng Nghymru, i ganfod sut y gallem weithio gyda hwy. Un o'r prif bwyntiau a gododd oedd yr angen am fwy o ddata agored. Y grŵp ffocws hwn yw dechrau'r broses o'i gwneud yn haws cael gafael ar ddata'r Cynulliad. Ar hyn o bryd rydym yn adnewyddu ein gwefan a Senedd TV (ein sianel ffrydio fideos) ac rydym am i flogwyr, safleoedd newyddion hyperleol, sianeli radio a theledu cymunedol fod yn rhan o'r broses hon. Cafodd llawer o syniadau diddorol ac arloesol eu crybwyll yn y grŵp ffocws a bydd tîm TGCh a gwefan y Cynulliad nawr yn ystyried eu datblygu ymhellach. Ymhlith rhai o'r meysydd allweddol a ystyriwyd roedd:
  • Rhoi defnyddwyr wrth wraidd ein gwefan
  • Gwneud Senedd TV yn haws i'w ddefnyddio
  • Defnyddio ffrydiau RSS, a sut y gall blogwyr eu defnyddio i gael gwybodaeth gennym
Nid yw'r sesiwn hon yn ddiwedd y broses. Fy nod yw cynnal digwyddiad mwy yn yr haf a'r gobaith yw trafod rhai o'r gwelliannau rydym yn eu cynllunio ar gyfer ein gwefan a'n sianeli eraill ar-lein, a gwrando ar ragor o syniadau ynghylch sut y gallwn wella ymhellach. I gael manylion am y digwyddiad hwn ac i gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr holl ddatblygiadau yn yr ymgyrch Diffyg Democrataidd (#DemDef), dilynwch @CynulliadCymru.