Digwyddiad i randdeiliaid ar sefydlu Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i Gymru

Cyhoeddwyd 12/12/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 12/12/2016

Ar 17 Tachwedd 2016, estynodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau wahoddiad i ystod eang o randdeiliaid i drafod rhai o'r materion allweddol o ran sefydlu Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru. Mae'r Comisiwn - a fydd yn cael ei sefydlu y flwyddyn nesaf - yn destun ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd i gadarnhau ei drefniadau o ran cylch gorchwyl a llywodraethiant. Bwriedir i waith Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau lywio'r ymgynghoriad ar y Comisiwn, a chyfrannu ato. Argymhellwyd bod y Pwyllgor yn cynnal y gwaith hwn gan nifer o wahanol gyrff yn ystod ymgynghoriad yr haf ar ei flaenraglen waith. picture10 Beth ddigwyddodd? Bu aelodau'r Pwyllgor a rhanddeiliaid - o'r sectorau busnes, amgylchedd a chymdeithasol - yn trafod tri maes allweddol y bydd y Pwyllgor yn canolbwyntio arnynt:
  • Sut ddylai'r Comisiwn gael ei sefydlu? Beth ddylai trefniadau'r Comisiwn fod o ran strwythur, statws, cylch gorchwyl a llywodraethiant?
  • Sut ddylai'r Comisiwn weithredu'n ymarferol? Sut ddylai'r Comisiwn weithio â Llywodraeth Cymru, a beth yw natur y berthynas rhwng y DU a'r Comisiwn?
  • Sut ddylai'r Comisiwn fynd i'r afael â datblygu cynaliadwy a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol? A ddylai'r Comisiwn fabwysiadu datblygu cynaliadwy fel ei brif egwyddor drefniadol, yn unol â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru? Sut ddylai Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol effeithio ar waith y Comisiwn?
picture6

Diolch i bawb a gymerodd ran

Diolchodd Russell George AC, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, i bawb a gymerodd ran am rannu eu profiad a'u harbenigedd. Dywedodd:
"Yn yr ymgynghoriad y gwnaethom ei gynnal yn ystod yr haf, roedd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru'n rhywbeth a gododd yn aml ac, o'r herwydd, rydym ni fel Pwyllgor wedi dewis mai hwnnw fydd testun ein gwaith sylweddol cyntaf. “Rydym yn awyddus i edrych ar enghreifftiau o arferion da yn rhyngwladol, ond rydym hefyd am glywed beth yw'r anghenion penodol sydd gennym yng Nghymru, a sut y gall y Comisiwn ddiwallu'r anghenion hynny orau. Bydd gan y Comisiwn ddylanwad mawr ar ddatblygiad Cymru, felly rydym wedi cydamseru gwaith y Pwyllgor i fwydo i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru.”
picture1

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y sectorau adeiladu a pherianneg ar 17 Tachwedd, ac mae wrthi'n clywed gan Gomisiwn Seilwaith y DU, cynrychiolwyr o ranbarthau dinasoedd, a'r Gweinidog Ken Skates y mis hwn. Mae'r Pwyllgor hefyd wedi ysgrifennu at gyrff seilwaith eraill o bob cwr o'r byd yn gofyn am enghreifftiau o arferion da. Mae'r Pwyllgor yn bwriadu cyfrannu at ymgynghoriad Llywodraeth Cymru (sy'n dod i ben ar 9 Ionawr), a bydd yn cyhoeddi adroddiad yn fuan yn y Flwyddyn Newydd.