Digwyddiad pêl-droed 24.5.12 – Stebonheath, Llanelli

Cyhoeddwyd 30/05/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 30/05/2012

http://vimeo.com/43106737 Digwyddiad pêl-droed 24.5.12 – Stebonheath, Llanelli Ddydd Iau 24 Mai, cynhaliodd aelodau o un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru sesiwn meic agored yn Stebonheath, Llanelli, er mwyn gwrando ar sylwadau pobl am Uwch Gynghrair Cymru. Roedd y digwyddiad yn rhan o ymchwiliad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i Uwch Gynghrair Cymru. Ar ôl y digwyddiad, dywedodd Ann Jones, Cadeirydd y Pwyllgor: “Roedd yn braf cael mynd allan a chyfarfod pobl sydd â diddordeb yn Uwch Gynghrair Cymru ac sydd wedi ymrwymo i sicrhau bod y gynghrair a’u clybiau yn llwyddiannus. Clywsom nifer o bwyntiau pwysig am sut y gellir datblygu Uwch Gynghrair Cymru, a byddwn yn cyflwyno’r pwyntiau hyn i Gymdeithas Bêl-droed Cymru pan fydd aelodau’r gymdeithas yn dod i siarad â ni yn y Senedd. Byddwn yn cwrdd â rhagor o gefnogwyr Uwch Gynghrair Cymru cyn bo hir, pan fyddwn yn ymweld â chlwb pêl-droed Llandudno (http://www.pitchero.com/clubs/llandudno/), ac rydym yn gobeithio clywed gan gefnogwyr ledled gogledd Cymru.” Mae’r fideos isod yn cynnwys eitemau gan Colin Staples o Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru, a Nigel Richards o glwb pêl-droed Llanelli, sy’n sôn am y prif faterion a drafodwyd yn ystod y digwyddiad. Diolch i Nigel ac i bawb yng nghlwb pêl-droed Llanelli am gynnal y digwyddiad. Cynhelir y digwyddiad yng nghlwb pêl-droed Llandudno ar 31 Mai am 19.30. Cliciwch ar y linc a ganlyn i gael rhagor o wybodaeth: http://www.pitchero.com/clubs/llandudno/news/welsh-premier-league-open-foru-589890.html