Digwyddiadau Gwibrwydweithio Pwyllgorau
Cyhoeddwyd 18/10/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 18/10/2012
Ym mis Medi, cynhaliodd nifer o bwyllgorau'r Cynulliad ddigwyddiadau a a gynlluniwyd i lywio eu gwaith o graffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-2014.
[caption id="attachment_208" align="aligncenter" width="450"] O'r chwith i'r dde: Sioned Hughes (Cartrefi Cymunedol Cymru), Ken Skates AC a Lee Cecil (Cymdeithas Genedlaethol y Landloriaid)[/caption]
Roedd y rhanddeiliaid yn cymryd rhan mewn sesiynau gwibrwydweithio yn y Pierhead a'r Senedd, a drefnwyd gan y Pwyllgor Menter a Busnes, y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd a'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, a roddai gyfle i'r rhai a oedd yn cymryd rhan i ddweud beth oedd eu barn, eu disgwyliadau a'u blaenoriaethau mewn cysylltiad â chynlluniau Llywodraeth Cymru o ran ei chyllideb ddrafft oedd i ddod, wrth aelodau'r pwyllgorau.
Mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi cynnal sesiynau gwibrwydweithio yn y gorffennol i annog rhanddeiliaid i ymgysylltu â phwyllgorau (gweler y linc isod)
[youtube=http://www.youtube.com/watch?v=wpppovDkSI4&feature=relmfu]
Hwn oedd y tro cyntaf i bwyllgorau'r Cynulliad gynnal digwyddiadau gwibrwydweithio i lywio eu gwaith o graffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru.
[caption id="attachment_210" align="aligncenter" width="450"] Russell George AC gyda Kate Cubbage ac Andrew Sutton o Gymdeithas Frenhinol Penseiri yng Nghymru.[/caption]
Mae rhagor o luniau o'r digwyddiadau hyn i'w gweld yma:
Digwyddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd
Digwyddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol
Digwyddiad y Pwyllgor Menter a Busnes
Gofynnodd pob un o'r pwyllgorau i'r rhai a oedd yn cymryd rhan i lenwi ffurflen werthuso ar ôl y digwyddiad ac mae rhai o'r sylwadau a gyflwynwyd i'w gweld isod:
“Ymgysylltu'n dda iawn â'n gilydd o amgylch y bwrdd a chwestiynau defnyddiol gan yr aelodau hefyd.”
“Ychydig yn fwy o amser ar gyfer y gwibrwydweithio o bosibl, dyweder 10 munud, yn hytrach na saith munud. Gwneud rhagor o bosibl i annog rhanddeiliaid i rwydweithio ar ôl y digwyddiad. Gwnaethom hyn ein hunain gydag un neu ddau o rai eraill, a rhoddodd gyfleoedd i ni gyd-weithio.”
“roedd hwn yn ddigwyddiad defnyddiol, ac yn anffurfiol braf. Diolch!”
[caption id="attachment_213" align="aligncenter" width="450"] Phil Fiander o Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn siarad â Nick Ramsay AC, cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes.[/caption]
Dywedodd Nick Ramsay, Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes, “Roedd sgwrsio â rhanddeiliaid am eu blaenoriaethau yn ddefnyddiol i arfogi Aelodau fy Mhwyllgor â chwestiynau i Weinidogion ynghylch eu cynigion o ran gwariant. Bydd hefyd yn llywio ein hadroddiad a'n hargymhellion ar y gyllideb.”
Defnyddir y wybodaeth a gasglwyd i lywio'r gwaith o graffu ar Weinidogion Llywodraeth Cymru ynghylch Cyllideb Ddrafft 2013-14 gan bwyllgorau'r Cynulliad dros yr wythnosau nesaf. Yna bydd y pwyllgorau'n cyflwyno adroddiadau i'r Pwyllgor Cyllid, a fydd yn cynhyrchu adroddiad cyffredinol ar Gyllideb Ddrafft 2013-14 ar ddechrau mis Tachwedd. Ystyrir yr adroddiad hwn fel rhan o drafodaeth y Cynulliad ar y Gyllideb Ddrafft yn y Cyfarfod Llawn, lle bydd y Cynulliad yn pleidleisio a yw'n derbyn Cynigion Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-14.
Mae Gwasanaeth Ymchwil y Cynulliad Cenedlaethol wedi llunio cyfres o hysbysiadau hwylus ar y gyllideb, sydd i'w gweld drwy ddilyn y linc:
Cyllidebau a Cyllid