Digwyddiadau Haf y Cynulliad: fy Sioe Frenhinol gyntaf

Cyhoeddwyd 09/10/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/10/2014

Croeso Gan Julian Price, Rheolwr Cyfryngau Cymdeithasol Nawr bod y digwyddiadau haf blynyddol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru wedi dod i ben, pa well amser i fyfyrio ar fy mhrofiad yn Sioe Frenhinol Cymru eleni yn Llanelwedd. Hwn oedd y tro cyntaf i mi fod yn y Sioe Frenhinol, ac roedd y tywydd yn hyfryd. Roedd hi’n gynnes iawn gyda’r tymheredd yn codi i ganol yr ugeiniau drwy gydol yr amser yr oeddem yno, felly roedd yn rhaid yfed digon o ddŵr. Roedd hi’n BOETH! Fel rhan o’r tîm cyfathrebu, rwy’n cofio trafod y digwyddiad yn y gwanwyn cynnar i drefnu pwy fyddai’n teithio i’r sioe a sut y gallem hyrwyddo ein presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol. Gwirfoddolais i deithio gyda fy nghydweithwyr i Lanelwedd. Roeddwn yn dal i fod yn yr ysgol gynradd pan ymwelais â maes y sioe y tro diwethaf, pan oedd Adam Ant a’r Human League ar frig y siartiau! Ie, dyna pa mor bell yn ôl oedd hi. Fe wnaethom gyrraedd ar y dydd Sul i baratoi’r stondin ar gyfer y diwrnod canlynol. Roedd yr adeilad yn edrych yn anhygoel. Roeddwn yn falch iawn o’r gwaith yr oedd y tîm Cyfathrebu wedi ei wneud i hyrwyddo ein presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol. (Gweler y llun) Fe wnaethom sicrhau bod yr holl lenyddiaeth, cadeiriau, byrddau a lluniaeth wrth law ar gyfer y diwrnod agoriadol. Roeddem yn rhagweld tynnu lluniau o Aelodau’r Cynulliad a Gweinidogion a fyddai’n ymweld â ni yn ystod y digwyddiad; fodd bynnag, ni allai dim fod wedi ein paratoi ar gyfer y llun cyntaf. Fore Llun, roeddem newydd agor drysau’r stondin i’r cyhoedd. Galwodd fy nghydweithiwr Rhian arnaf i fachu’r camera ar frys a rhedeg y tu allan. "Brysia" meddai, "Rwy’n meddwl bod y Prif Weinidog yn dod!" Rhedais y tu allan ac yn sicr ddigon roedd y Prif Weinidog, David Cameron, gydag Ysgrifennydd Gwladol newydd Cymru, Stephen Crabbe, yn pasio ein drws. Cerddais yn gyflym o’u blaen i gael llun wyneb yn wyneb. Roeddwn yn nerfus braidd gan fod staff diogelwch y Prif Weinidog yn amlwg wedi cymryd diddordeb ynof. Diolch byth roeddwn yn gwisgo crys-t brand llawn Cynulliad Cenedlaethol Cymru gyda thocyn swyddogol. Llwyddais i gael llun o’r Prif Weinidog a dim ond ar ôl edrych ar y lluniau wedyn y sylweddolais ei fod wedi edrych yn syth tuag at y camera. Fe wnaethom drydar y llun ar ein cyfrif Twitter @CynulliadCymru, a chredaf mai ni oedd y sefydliad neu’r unigolyn cyntaf i wneud hynny. Fel y gwyddoch efallai, ef yw’r Prif Weinidog cyntaf mewn grym i ymweld â’r Sioe Frenhinol. Hanes yn cael ei greu! Fy unig ofid oedd na wnes ei wahodd i mewn i stondin y Cynulliad ac mae hyn yn rhywbeth yr wyf yn wir ddifaru na wnes ei wneud.

[embed]https://twitter.com/CynulliadCymru/status/491153673691885568[/embed]

  Ar ôl dychwelyd i stondin y Cynulliad, bûm yn siarad â chyn Faer Castell-nedd Port Talbot, Marian Lewis, am gryn amser ynglŷn â’r bwriad i gau Cyffordd 41 o’r M4, campws newydd Prifysgol Abertawe ar Ffordd Fabian a’r stiwdios ffilm sydd wedi eu lleoli cau yn hen ffatri Ford / Visteon. Roedd yn sgwrs dreiddgar a dysgais lawer mewn cyfnod mor fyr am rai o’r problemau parhaus yn y rhanbarth hwnnw. Trwy gydol dydd Llun a dydd Mawrth ymwelodd amryw o Aelodau’r Cynulliad â stondin y Cynulliad ac roedd yn gyfle gwych i drafod hyrwyddo gwaith y Cynulliad ar y cyfryngau cymdeithasol. Achubais ar y cyfle i gael llun o bob Aelod Cynulliad a ymwelodd â ni, yn dal eu cardiau map etholaethol ac, yn ddiweddarach, fe wnaethom roi’r lluniau hyn ar y cyfryngau cymdeithasol. Ar fy niwrnod olaf yn Sioe Frenhinol Cymru, cynhaliodd y Cynulliad, mewn partneriaeth â Nominet, ddigwyddiad i godi proffil yr enwau parth ar y we (.Wales a .Cymru) sydd i ddod. Bydd y Cynulliad yn ddefnyddiwr cychwynnol (.Cymru) ac mae’n falch iawn o gael ddefnyddio’r proffil newydd hwn. Cafodd y digwyddiad ei gynnal yn adeilad S4C ger y Prif Gylch, a defnyddiais y cyfle hwn i dynnu lluniau o’n Llywydd, y Fonesig Rosemary Butler yn siarad am y lansiad sydd i ddod. Roedd yn ddigwyddiad gwych gyda phobl o bob cwr o Gymru yn bresennol yn y digwyddiad. Ieuan Evans oedd y gwesteiwr a siaradodd yn angerddol am fod yn Gymro a’r hyn y mae’n ei olygu iddo ef.   RosemaryButler I gael rhagor o wybodaeth am lansiad .Wales a .Cymru, cliciwch yma . Cadarnhaodd Sioe Frenhinol Cymru ei enw da fel y digwyddiad mwyaf o’i fath ym Mhrydain a’r gorau o ran presenoldeb hefyd. Rwyf eisoes yn edrych ymlaen at fynd i’r digwyddiad y flwyddyn nesaf a byddaf yn sicrhau y bydd ein sylw yn y cyfryngau cymdeithasol yn fwy ac yn fwy amrywiol nag erioed o’r blaen. Diolch yn fawr Llanelwedd. Julian Price yw’r Rheolwr Cyfryngau Cymdeithasol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae wedi rheoli’r cynnydd yn ein gweithgaredd ar-lein yn ystod y deuddeg mis diwethaf, gan ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo gwaith y Cynulliad. Mae Sioe Frenhinol Cymru yn enghraifft wych o gydweithredu ar-lein ac all-lein rhwng timau i hyrwyddo ein presenoldeb mewn digwyddiad. Am fwy o wybodaeth am y Cynulliad ar y cyfryngau cymdeithasol, gweler ein tudalen we: http://www.cynulliadcymru.org/en/help/Pages/Social-media.aspx