Diwrnod Gwelededd Deurywiol, 23 Medi 2014

Cyhoeddwyd 23/09/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 23/09/2014

Nid yw’n ffaith hysbys i bawb mai pobl ddeurywiol yw’r rhan helaethaf o’r gymuned Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol. Yn anffodus, pan ddaw’n fater o siarad am broblemau pobl LHDT, anaml y caiff profiadau’r grŵp hwn eu cynrychioli neu’u hystyried o gwbl. Dyna pam y mae’r Diwrnod Gwelededd Deurywiol mor bwysig. Nodir y diwrnod ers 1999, pan ddaeth grŵp bychan o ymgyrchwyr ymroddedig at ei gilydd i wyntyllu barn am faterion deurywiol. Roedd y grŵp yn gweithio’n galed i ddileu’r rhwystrau y mae pobl deurywiol yn eu hwynebu, gan gynnwys rhagfarn o fewn cymunedau LHDT, yr her o orfod egluro eich rhywioldeb dro ar ôl tro wrth ffrindiau a phartneriaid, ac yn syml, y broblem o gael eich anwybyddu, ac maent yn parhau i wneud hynny. Ond roeddent hefyd yn awyddus i ddathlu, a bod yn falch o garu pwy y maent yn ei garu. BiPlacards (Llun o Stonewall Cymru) "Yr hyn y mae bod yn ddeurywiol yn ei olygu i mi" - safbwyntiau aelod o’n rhwydwaith staff LHDT. Cwestiynau cyson. Os byddwch yn dweud wrth bobl eich bod yn hoyw, naw gwaith allan o bob deg, bydd pobl yn dweud: ‘O, iawn, diolch am roi gwybod imi,’ a dyna ddiwedd y sgwrs. Ond os ydych yn dweud wrth bobl eich bod yn ddeurywiol, fe glywch nifer o ddatganiadau anwybodus fel: ‘Hoyw wyt ti, ond nad wyt ti’n gwybod hynny eto’, neu gwestiynau personol busneslyd am eich bywyd rhywiol: ‘Ydych chi wedi cysgu gyda mwy o ddynion neu o fenywod?’ Gwelir pobl ddeurywiol fel jôc gan y gymuned hoyw a chan bobl heterorywiol, sy’n fy mrifo, ac felly pan fydd pobl yn cymryd yn ganiataol fy mod yn hoyw neu’n heterorywiol anaml iawn y byddaf yn teimlo’n gyfforddus yn eu cywiro. Yn ddiweddar, daeth y berthynas rhyngof fi a ‘nghariad (fenywaidd) i ben, a’r sylw cyntaf a wnaed gan rywun oedd: ‘Ai dyn fydd dy gariad nesaf?’ - Beth allwn i’i ddweud?! Rwy’n credu bod pobl yn gweld deurywioldeb fel cyfnod o bontio neu gyfnod arbrofol ym mywyd person, ac i lawer mae hynny’n wir, ond nid i bawb, ac mae’n bwysig cydnabod hynny. Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut y gallwn gefnogi ein staff deurywiol ar gael yng nghanllaw Stonewall ar y gweithle - Pobl ddeurywiol yn y gweithle: Cyngor ymarferol i gyflogwyr. Mae rhagor o wybodaeth a chefnogaeth ar gael i bobl ddeurywiol gan Bi Cymru. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn falch iawn o gael ei restru ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall fel y Cyflogwr Sector Cyhoeddus gorau yng Nghymru ar gyfer pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol. I gael rhagor o wybodaeth am ein rhwydwaith staff LGBT cysylltwch â Craig Stephenson.