Diwrnod Gwenyn y Byd: Gwenyn y Pierhead

Cyhoeddwyd 20/05/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 20/05/2019

Haf 2018

Yn ystod blwyddyn gyntaf y gwenyn yn y Pierhead, nid ydym yn disgwyl llawer o fêl, ond maent wedi ymgartrefu ac maent yn iach.  Mae gwirfoddolwyr staff yn monitro'r cychod unwaith yr wythnos, ac rydym hefyd yn ddigon ffodus bod gennym gwpl o aelodau o staff sydd â'u gwenynfeydd eu hunain a all gynnig cyfoeth o wybodaeth er mwyn cynnal y cychod gwenyn.

Er mai dim ond ers ychydig o fisoedd mae'r prosiect wedi bod ar waith, mae'r ddau gwch eisoes yn dangos eu bod yn gwbl unigryw, gyda gwenyn yr ail gwch yn bendant yn llawer mwy terfysglyd!

Gwanwyn 2019

Treuliodd y gwenyn yr hydref yn lleihau niferoedd a'n cynyddu eu stoc bwyd er mwyn sicrhau bod y broses aeafu mor effeithlon â phosibl.

Ar ôl bwrw golwg arnyn nhw'r tro diwethaf ym mis Tachwedd, roedd hi'n bwysig peidio ag agor y cwch gwenyn fel na fyddai'n oeri gormod.  Treuliodd y gwenyn y gaeaf yn defnyddio'r bwyd yr oedden nhw wedi'i storio yn y celloedd, sef mêl blasus gan fwyaf.  Mewn haid glos yn y cwch gwenyn, yn ysgwyd eu hadenydd i gadw'n gynnes, maen nhw'n llwyddo i gadw tymheredd craidd o 35 gradd!  Bydd y gwenyn hyd yn oed yn troi mewn cylch fel grŵp – i gadw'r frenhines yn gynnes yn y canol a sicrhau bod pob gwenynen yn treulio cyfnod teg o amser ar y tu allan.

Er mwyn helpu'r gwenyn drwy'r gaeaf hir a dechrau'r gwanwyn pan nad oes digon o fwyd naturiol ar gael, rhoesom rywfaint o ffondant iddyn nhw, sef math o fwyd siwgwraidd sy'n debyg i siwgr eisin .  Gallwch weld yn y lluniau isod sut y gwnaethon nhw ei ddefnyddio drwy fis Chwefror, mis Mawrth a dechrau mis Ebrill.

Cymerwyd rhai camau eraill hefyd i ofalu am y cychod gwenyn dros y gaeaf.  Yn ogystal â gwneud yn siŵr bod digon o fwyd, clymwyd y cychod yn sownd yn eu lle i'w amddiffyn rhag gwyntoedd uchel, a gosodwyd gardiau llygod hefyd.  Byddai llygod wrth eu bodd mewn cwch gwenyn sych a chynnes yng nghanol y gaeaf, yn enwedig os yw'n llawn mêl!

Oherwydd ein hymdrechion bach ni a sgiliau naturiol y gwenyn, mae'r ddau gwch wedi goroesi'n ddiogel i fwynhau'r gwanwyn.  Rydym ni wedi bwrw golwg i wneud yn siŵr bod y gwenyn yn iach a bod ganddyn nhw ddigon o fwyd, gan aildrefnu rhywfaint ar y fframiau i sicrhau bod digon o le.  Maen nhw allan yn chwilota o gwmpas y Bae nawr – yn mwynhau'r cyfoeth o goed blodeuog a blodau sydd wedi blaguro ers iddi gynhesu.