Diwrnod Pensaernïaeth y Byd 2016: ymweliad yr Athro Thomas Herzog â'r Senedd

Cyhoeddwyd 28/09/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 28/09/2016

Lucy Hodson, Arbenigwr Gwybodaeth Adeilad eiconig y Senedd yw cartref democratiaeth yng Nghymru ac mae ar flaen y gad o ran cynaliadwyedd.  Mae wedi ennill sawl gwobr am bensaernïaeth a hefyd  wedi cyflawni’r sgôr Dull Amgylcheddol y Sefydliad Ymchwil Adeiladu (BREEAM) uchaf a gyflawnwyd erioed yng Nghymru. Yn gynharach eleni, cafodd y Senedd ymweliad gan yr Athro Thomas Herzog, pensaer enwog o'r Almaen sy'n diddori mewn technolegau cyfoes a chyflenwi ynni o ffynonellau ecogyfeillgar. Mae wedi cael ei anrhydeddu ar hyd ei yrfa am ei waith, gan gynnwys gwobr PLEA 2013 am ragoriaeth ym maes pensaernïaeth ynni goddefol ac ynni isel a'r Wobr Fyd-eang am Bensaernïaeth Gynaliadwy yn 2009. [caption id="attachment_1753" align="alignnone" width="2000"]herzog-full1 Ch - Dd Matthew Jones (Rheolwr Cynaliadwyedd) , Thomas Herzog (Pensaer, Thomas Herzog Architects), Ester Coma Bassas (Pensaer, Ysgol Pensaerniaeth Cymru), Werner Lang (Pensaer, Prifysgol Munich), Richard Gwyn Jones (Rheolwr Teithiau i Ymwelwyr)[/caption] Cafodd yr Athro Herzog daith o amgylch y Senedd gan Matthew Jones, ein Rheolwr Cynaliadwyedd. Ar ôl y daith, dywedodd: "Dros y degawdau diwethaf, anaml y mae darn o bensaernïaeth fodern fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mae Caerdydd wedi creu cymaint o argraff arnaf. Mae'n adeilad sydd wedi'i ddiogelu rhag y tywydd sy'n defnyddio'r panorama amlwg o'i gwmpas, sef porthladd y ddinas, fel cefndir i ddiffinio'r gofod. Mae'r gofod cyhoeddus sydd i fyny lefel - sy'n cael ei fywiogi a'i ddefnyddio gan ddinasyddion a gwleidyddion - yn cyferbynnu â Siambr y Cyfarfod Llawn, sy'n ofod geometrig â threfn gofodol ac sy'n llawn golau. Er bod yr ystafell ymgynnull yn llwyfan i archwilio cyhoeddus, mae'n sicrhau bod pellter priodol ac yn cael ei ddiffinio gan y golau naturiol cryf sy'n dod o'r canol oddi uwch. Mae'r adeilad yn wers - hyd yn oed mewn democratiaeth hunan-hyderus sy'n canolbwyntio ar y dinesydd - ac yn wych o ran ei gysyniad gofodol clir a'r sylw at fanylion technegol. Mae'r Senedd yn dangos pa mor ystyrlon y gall pensaernïaeth fod yn ein bywyd modern, mae'n bensaernïaeth sy'n cyfathrebu drwy dryloywder ar raddfeydd gwahanol rhwng agor a chanolbwyntio. Strôc o lwc ar gyfer y wlad a'i phobl."   [caption id="attachment_1746" align="alignnone" width="1024"]untitled-design-6 Enter a caption[/caption] I ddathlu Diwrnod Pensaernïaeth y Byd, 3 Hydref 2016, mae’r Senedd yn cynnal taith bensaernïol arbennig a fydd yn arddangos y Senedd yn ei holl ogoniant. Bydd y daith newydd hon yn cyflwyno manylion ynghylch y cysyniad o un o adeiladau mwyaf eiconig Richard Rogers, a dylunio’r Senedd, a byddwch yn darganfod nodweddion cynaliadwy anhygoel y Senedd sy’n ei wneud yn un o’r adeiladau mwyaf cynaliadwy yng Nghymru. Bydd y tywysydd yn eich arwain i rannau o’r Senedd nad ydynt, hyd yma, wedi bod yn weledig, er mwyn ychwanegu at y profiad ‘untro’ hwn. Fel rhan o’r ymweliad, rhoddir llyfr y Senedd am ddim i bawb ar y daith, sy’n wobr werthfawr ar gyfer y rhai sydd â diddordeb mewn pensaernïaeth ac adeiladu. Os hoffech fod yn bresennol ar gyfer un o’n teithiau, sydd wedi’u teilwra’n arbennig, cysylltwch â ni ar 0300 200 6565 neu anfonwch neges e-bost at: cysylltuâ@cynulliad.cymru Am fwy o wybodaeth, gan gynnwys ein horiau agor a sut i'n cyrraedd, ewch i wefan y Cynulliad. Rhagor o wybodaeth am y Senedd, gan gynnwys ei hanes, lluniau cysyniadol a'i nodweddion amgylcheddol.