Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2012

Cyhoeddwyd 02/03/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 02/03/2012

Cynulliad Cenedlaethol Cymru Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2012 08 Mawrth 2012 Fel Llywydd benywaidd cyntaf y Cynulliad Cenedlaethol, rwyf wedi ymrwymo i sicrhau y caiff pawb yng Nghymru ddweud eu dweud am y modd y rheolir ein gwlad. Yn benodol, rwyf am i lais menywod yng Nghymru gael ei glywed ac i werth gael ei roi ar eu safbwyntiau. Felly hoffwn eich gwahodd i ymuno â mi ddydd Iau, 08 Mawrth 2012 i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn y Cynulliad yng Nghaerdydd. Eleni bu’r Cynulliad yn gweithio gyda’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, y Sefydliad Materion Cymreig, Sefydliad y Merched a’r Cyngor Prydeinig i lunio rhaglen o weithgareddau yn y Senedd a’r Pierhead. Bydd gweithgareddau’r dydd yn dechrau gyda chyfarfod dros frecwast yn y Pierhead rhwng 8.30 a 10.30 y bore, y cyntaf o nifer o gyfarfodydd o’r fath a gynhelir ledled Cymru eleni. Byddaf finnau hefyd yn cynnal darlith a gaiff ei chyflwyno mewn partneriaeth â’r Cyngor Prydeinig a fydd yn dechrau am 12.00. Yna bydd cinio am 13.00. Trwy gydol gweddill y dydd cynhelir trafodaethau a dadleuon yng nghwmni menywod nodedig o Gymru yn ogystal â gweithdai a gweithgareddau o dan arweiniad Sefydliad y Merched. Mae lleoedd yn gyfyngedig felly byddem yn ddiolchgar pe bai modd i chi gadarnhau eich bod yn dod i’r brecwast, y ddarlith amser cinio neu’r rhaglen gyflawn o weithgareddau. Edrychwn ymlaen at eich gweld yno. RSVP: Ffoniwch 0845 010 5500 neu anfonwch e-bost at Archebu@cymru.gov.uk. Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2012