Cyhoeddwyd 02/04/2015
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Cyhoeddodd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig 2 Ebrill yn Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Awtistiaeth y Byd er mwyn tynnu sylw at yr angen i wella ansawdd bywyd y plant a’r oedolion hynny y mae awtistiaeth yn effeithio arnynt.
Mae'r gair
'awtistiaeth' yn cael ei ddefnyddio yma i ddisgrifio pob diagnosis ar y sbectrwm awtistig, gan gynnwys awtistiaeth glasurol,
syndrom Asperger ac
awtistiaeth gweithredu lefel uchel.
[youtube https://www.youtube.com/watch?v=d4G0HTIUBlI&w=560&h=315]
Yn y DU, mae awtistiaeth ar tua 700,000 o bobl - mae hynny'n fwy nag 1 o bob 100. O gynnwys eu teuluoedd, mae awtistiaeth yn effeithio ar fywydau bob dydd 2.7 miliwn o bobl.
Am ragor o wybodaeth, darllenwch
How many people have autism spectrum disorders? (Saesneg yn unig) I ddysgu mwy am Awtistiaeth ewch i
Wefan y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn falch o fod wedi ennill Gwobr Mynediad y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol. Gwobr am arfer da o ran cynllunio adeiladau a chyfleusterau mewn modd sy'n ystyried anghenion pobl ag awtistiaeth, a'u teuluoedd a'u gofalwyr. Mae'n dangos bod y cyfleusterau'n ystyriol o bobl ag awtistiaeth, a bod ymrwymiad i sicrhau eu bod yn hygyrch i'r bobl hyn.
Gweler y datganiad i'r wasg drwy glicio yma.
Dyma rai o'r pethau y mae'r Cynulliad wedi eu gwneud i gael achrediad:
- Creu adran ar ei Wefan yn benodol ar gyfer ymwelwyr ag awtistiaeth. Yn yr adran hon, mae lincs i wybodaeth mewn fformatau gwahanol am adnoddau pwrpasol.
- Sefydlu mannau tawel penodol i bobl ag awtistiaeth gael gorffwys a bwrw straen ynddynt.
- Sicrhau bod staff perthnasol yn cael hyfforddiant hyder anabledd, sy'n cynnwys adran ar awtistiaeth.
- Nodi 28 o Hyrwyddwyr Awtistiaeth ledled y sefydliad, gan gynnwys Diogelwch a Chyswllt Cyntaf, sydd ar hyn o bryd yn ymgymryd â hyfforddiant.
- Sefydlu cysylltiadau â grwpiau lleol y Gymdeithas Awtistiaeth a chasglu adborth ganddynt.
- Creu ffurflen adborth, er mwyn cael adborth cyson gan ymwelwyr ag awtistiaeth.
Ydych chi'n bwriadu ymweld â'r Cynulliad?
Edrychwch ar ein gwefan neu cysylltwch â ni dros y ffôn ar 0300 200 6565, neu anfonwch neges e-bost at
cysylltu@cynulliad.cymru.