Diwrnod yn y Senedd gyda Lora Lewis, Enillydd Cystadleuaeth yr Urdd

Cyhoeddwyd 21/08/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 21/08/2017

Cafodd Lora Lewis ymuno â Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi’r Cynulliad am ddiwrnod ar ôl ennill cystadleuaeth cyfieithu’r Urdd. Yma, mae’n sôn am ei phrofiad y tu ôl i’r llenni...

A minnau wedi ystyried gyrfa ym maes cyfieithu, roedd cystadlu yng nghystadleuaeth yr Urdd yn gam naturiol wedi imi ddarganfod mai’r wobr oedd diwrnod yn y Cynulliad. Heb os, roedd hyn yn apelio’n syth ac felly dyma fi’n mynd ati i gyfieithu’r darn. Yn ffodus, cefais y newyddion fy mod wedi dod yn gyntaf ac felly bu Aoife, aelod o staff y gwasanaeth cyfieithu a chofnodi yn y Cynulliad, mewn cysylltiad â mi yn fuan wedyn, a dyna ddechrau ar y trefnu. Ymhen dim roeddwn i yn gosod fy holl eiddo i fynd drwy’r camerâu fel y taswn i mewn maes awyr ac yn mynd i mewn i’r adeilad. I ddechrau, cefais gwrdd ag Elin Jones, Llywydd y Cynulliad a chael sgwrs gyda hi ynghylch y gwaith sydd yn digwydd yn y Senedd, yn ogystal â chyflwyno fy hun iddi. Roedd y Llywydd yn groesawgar iawn a chawsom funud i dynnu llun hyd yn oed. urdd Wedi hynny, roedd modd dechrau ar y profiad gwaith go iawn. Cefais gyfarfod â Rhiannon a roddodd gyflwyniad manwl i mi o’r gwaith ar y Cofnod a’r modd y maent yn defnyddio meddalwedd briodol wrth ysgrifennu a golygu cofnodion y Senedd. Cefais gyfle i wneud hyn fy hun drwy ddefnyddio’r agwedd leisiol ar y feddalwedd a oedd yn gallu cofnodi'r hyn yr oeddwn yn ei ddweud ar lafar drwy’r meicroffon. Heb os, roedd hyn yn wych ac yn dangos imi pa mor bwysig yw technoleg o fewn byd gwaith i hwyluso’r profiad. Yr hyn roeddwn i â diddordeb ynddo fwyaf oedd cyfieithu ar y pryd, ac roeddwn yn ffodus iawn o gael cyflwyniad i’r agwedd hon yn benodol gan Cai, cyfieithydd yn yr adran. Mae’r agwedd hon ar gyfieithu yn un sy’n sicr yn ofni llawer iawn o gyfieithwyr, a dyma’r agwedd o’r gwaith mae’n siŵr sy’n fy mhryderu innau – ond roedd Cai yn barod i dawelu fy meddwl ynghylch y mater gan gynnig cyngor defnyddiol. Cefais gyflwyniad i gyfieithu ar y pryd gan ymweld â’r bythau cyfieithu yn yr ystafelloedd cyfarfod a’r Siambr. Ar ben hynny, cefais fynychu’r Cyfarfod Llawn gyda’r Prif Weinidog ac roedd y cyfieithu ar y pryd yno yn gyffrous iawn ac yn rhoi mewnwelediad i mi o ba mor anodd yw’r agwedd hon o’r swydd, yn ogystal â’r sgìl anhygoel a ddaw yn ei sgil. Roeddwn yn hapus o weld bod gwersi Cymraeg ar gael i aelodau staff o bob gwasanaeth hefyd a chefais ymuno â grŵp am gyfnod. Roedd y gwersi yn hwyl ac roedd pawb yn dangos ymdrech a brwdfrydedd i ddysgu’r iaith. Dyma agwedd gadarnhaol iawn ar fy mhrofiad yn y Cynulliad yn fy marn i. Er gwaetha’r ffaith fy mod i’n fwy awyddus i ddysgu am gyfieithu ar y pryd, cefais gyflwyniad trylwyr i gyfieithu peirianyddol hefyd gan Gruff. Dangosodd imi pa mor rhwydd oedd cyfieithu drwy ddefnyddio’r rhaglenni priodol, ac erbyn heddiw mae’r rhan fwyaf o’r gwaith wedi’i gadw yn y cof cyfieithu sydd yn hwyluso gwaith y cyfieithwyr ac yn arbed llawer o amser. Drwy ddefnyddio’r feddalwedd mae modd cyfieithu mwy mewn llai o amser - heb os, mae hyn yn ddatblygiad cadarnhaol iawn! Ar ben hynny, cefais gyngor ganddo ar sut i olygu a defnyddio’r Gymraeg ar y cyfrifiadur bob dydd, megis gwefannau â therminoleg angenrheidiol wrth weithio drwy gyfrwng yr iaith, megis Byd Term Cymru. Rwy’n hoffi’r elfen o olygu sydd yn amlwg iawn yn y swydd ymhob agwedd ar y gwaith ac roedd cael blas ar wneud hynny yn brofiad defnyddiol iawn. Braf oedd clywed hefyd fod cwmni mor fawr a llwyddiannus â Microsoft yn buddsoddi amser ac arian i mewn i gyfieithu peirianyddol ac yn gweithio ar y cyd i ddatblygu meddalwedd cyfieithu gyda’r Cynulliad. Yn sicr, cefais flas ar gyfieithu ynghyd â chael darganfod sut brofiad ydyw i gyfieithu yn y Cynulliad. Ni chefais fy siomi o gwbl. Diolch i’r holl aelodau o staff a fu mor groesawgar o’r cychwyn cyntaf, ond yn bennaf mae’r diolch i Aoife am fod yn gyfrifol amdanaf ac am drefnu amserlen imi ar gyfer y diwrnod. Ar nodyn ysgafnach, hoffwn ddiolch yn uniongyrchol i Cai – feddyliais i erioed mai scallop fishing ydy ‘pysgota cregyn bylchog’ yn y Gymraeg! Diolch i’r Urdd mewn perthynas â Chymdeithas Cyfieithwyr Cymru am roi’r cyfle arbennig hwn i mi – os rydych yn darllen hwn, o dan 25 oed ac yn mwynhau cyfieithu, ewch ati i gystadlu'r flwyddyn nesaf! Gobeithiaf y byddaf ryw ddiwrnod yn dychwelyd i’r gwasanaeth yn bendant – boed hynny ar brofiad gwaith neu hyd yn oed yn ddigon ffodus o gael gweithio yno fel cyfieithydd.