Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Llwyddiannau newydd o ran ymgysylltu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyhoeddwyd 04/10/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 04/10/2016

Am y tro cyntaf, mae’r Cynulliad wedi sefydlu Pwyllgor sydd â chyfrifoldeb penodol dros gyfathrebu, diwylliant, y celfyddydau, yr amgylchedd hanesyddol, darlledu a’r cyfryngau.

Mae’r materion hyn yn cyfoethogi ein bywydau, yn llywio ac yn egluro ein naratif fel cenedl, yn sail i’n diwylliant a’n treftadaeth unigryw, ac yn helpu i ddiffinio sut beth yw bod yn Gymry.

Mae’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu newydd yn cynnwys wyth o Aelodau’r Cynulliad o bob rhan o Gymru, sy’n cynrychioli’r pum plaid wleidyddol yn y Cynulliad. Yn ystod yr haf, rhoddodd y Pwyllgor gyfle i bobl gysylltu â ni i ddweud wrthym ba waith y dylai’r Pwyllgor ei flaenoriaethu. Aelodau'r Pwyllgor Ym mis Gorffennaf, bu’r Cynulliad yn darlledu drwy gyfrwng Facebook Live am y tro cyntaf erioed. Gwyliodd dros 2,700 o bobl Bethan Jenkins AC, Cadeirydd y Pwyllgor, yn siarad am ei gobeithion ar gyfer y Pwyllgor. Cawsom lawer o syniadau drwy’r ffrwd Facebook Live, drwy Twitter a thrwy e-bost. Hefyd, cynhaliodd y Pwyllgor ddigwyddiad yn yr Eisteddfod i’r sawl a oedd yn bresennol gyflwyno eu syniadau a’u blaenoriaethau. Un o’r awgrymiadau hynny oedd y dylai’r Pwyllgor edrych ar y defnydd o’r Gymraeg ymhlith pobl ifanc, gan ystyried y cyhoeddiad a wnaethpwyd gan y Prif Weinidog a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes o ran sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Gan ddiolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd yr amser i gysylltu, dyma’r blaenoriaethau a nodwyd gennych... Y Gymraeg
  • Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050, gan gynnwys y defnydd o’r Gymraeg ymhlith pobl ifanc
  • Y Gymraeg mewn addysg uwchradd, gan gynnwys cynnig i gael gwared ar y cysyniad o addysg ail iaith a’i ddisodli gydag un continwwm o ddysgu Cymraeg
  • Annog pobl i barhau i ddefnyddio’r Gymraeg ar ôl gadael yr ysgol
  • Cymorth dwyieithog ar gyfer pobl fyddar a thrwm eu clyw
Diwylliant
  • Cyllid ar gyfer addysg cerddoriaeth a mynediad at yr addysg honno
  • Strategaeth i ddatblygu’r diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru
  • Ffioedd a thelerau ar gyfer y celfyddydau gweledol a chymhwysol
  • Ariannu’r celfyddydau ar lawr gwlad ac yn lleol, a mynediad at y celfyddydau hynny
  • Sut y mae Cymru yn cefnogi ei chelfyddydau diwylliannol traddodiadol ac unigryw
  • Datblygu’r Adolygiad Arbenigol i’r adroddiad Amgueddfeydd Lleol
  • Brand Cymru
Treftadaeth
  • Cadw treftadaeth leol yng Nghymru
  • Addysg ddiwylliannol a hanesyddol yng Nghymru
Cyfathrebu
  • Beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i fynd i’r afael â’r diffyg democrataidd yng Nghymru
  • Cyflwr newyddiaduraeth leol yng Nghymru
  • Cynrychiolaeth Cymru yn y cyfryngau ar lefel y DU
  • Cyllid ar gyfer y cyfryngau yng Nghymru
  • Goblygiadau Siarter y BBC i S4C
  • Cyfranogiad dinasyddion a mynediad at wybodaeth wleidyddol
Bu’r Pwyllgor yn ystyried yr awgrymiadau hyn wrth drafod y materion mawr y maent yn awyddus i fynd i’r afael â nhw yn ystod y 5 mlynedd nesaf. Roedd llawer o dir cyffredin rhwng yr awgrymiadau a ddaeth i law a rhai o flaenoriaethau’r Pwyllgorau, gan gynnwys:
  • Sut y gellir cyflawni’r uchelgais o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg
  • Pryder am y dirywiad parhaus yn y cyfryngau lleol a newyddiaduraeth leol
  • Diffyg portread o Gymru ar rwydweithiau darlledu’r DU
  • Rôl radio yng Nghymru
  • Cylch gwaith, cyllid ac atebolrwydd S4C
Rydym wedi grwpio’r syniadau sy’n weddill gyda’i gilydd, ac rydym am i’r cyhoedd benderfynu pa faterion yr ydych chi’n credu y dylai’r Pwyllgor ymchwilio iddynt yn ystod y misoedd nesaf, unwaith y bydd y Pwyllgor wedi gorffen ei waith ar strategaeth y Gymraeg. Dyma’r tro cyntaf i un o Bwyllgorau’r Cynulliad alluogi’r cyhoedd i benderfynu ar ei raglen waith mewn modd mor uniongyrchol. Cymerwch ran drwy gwblhau a rhannu’r arolwg hwn. Fodd bynnag, ni fyddwn yn anwybyddu’r holl ymatebion heblaw am y materion mwyaf poblogaidd.   Bydd yr holl ymatebion yn ein helpu i benderfynu ar ein blaenoriaethau yn y tymor hwy, boed hynny drwy ymchwiliad ffurfiol, drwy ofyn cwestiynau i Weinidogion neu drwy geisio dadleuon yn y Cyfarfod Llawn. Mae’r Pwyllgor wedi ymrwymo i gynnwys ystod o unigolion, grwpiau, busnesau a sefydliadau yn ei waith, yn y gobaith ei fod yn cynrychioli diddordebau Cymru a’i phobl yn effeithiol drwy gynnig cyfleoedd i effeithio’n uniongyrchol ar y gwaith hwn. Mae rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar gael yma.