Dod o hyd i Galon Cymru yn y Senedd

Cyhoeddwyd 24/07/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 30/09/2024   |   Amser darllen munudau

Cefais y fraint o gwblhau lleoliad profiad gwaith gyda’r Tîm Ymgysylltu â Dinasyddion yn Senedd Cymru. Yn sgil y profiad hwn, cefais olwg fanwl ar y modd y mae’r Senedd yn gweithredu fel “senedd y bobl,” gan gynnig llwyfan i bawb yng Nghymru gymryd rhan mewn democratiaeth. Fe wnes i ddarganfod sut mae’r Senedd yn lle croesawgar a chynhwysol, lle gall pawb deimlo bod eu cyfraniadau o bwys.

Gweld democratiaeth ar waith: Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith 

Un o’r adegau mwyaf cofiadwy yn ystod fy mhrofiad gwaith oedd mynd i sesiwn o’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith, dan gadeiryddiaeth Llyr Gruffydd AS. Mae’r Pwyllgor yn craffu ar bolisïau a deddfwriaeth amgylcheddol hollbwysig, sy’n llywio dyfodol ein gwlad. Wrth wylio’r sesiwn o’r oriel gyhoeddus, cefais weld dros fy hun pa mor hygyrch yw’r Senedd i’r cyhoedd, gan ganiatáu i bawb ymgysylltu â gwaith eu cynrychiolwyr etholedig.

Cyflwyno fy Monitor Llygredd i Aelodau o’r Senedd 

Cefais gyfle, hefyd, i gyflwyno fy Monitor Llygredd i Llyr Gruffydd AS a Carolyn Thomas AS. Mae'r ddyfais yn asesu ansawdd aer mewn ysgolion ac ardaloedd preswyl, gan ddefnyddio emojis i gyfathrebu ynghylch lefelau llygredd. Fe wnaeth y naill Aelod a’r llall ddangos ddiddordeb brwd, gan ofyn cwestiynau craff am ei effaith bosibl ar iechyd y cyhoedd a chodi ymwybyddiaeth o ansawdd aer.

Trafod daearyddiaeth gydag Ymchwilwyr y Senedd

Yn ogystal â’r profiadau hyn, fe fues i’n sgwrsio ag ymchwilwyr y Senedd. Mae eu harbenigedd mewn meysydd fel bioamrywiaeth, tai, a materion amgylcheddol yn sicrhau bod Aelodau o’r Senedd yn wybodus ac yn gallu gwneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth, gan ddefnyddio’r wybodaeth fwyaf diweddar a diduedd. Mae’r gwaith hwn y tu ôl i’r llenni yn hollbwysig i sicrhau bod y Senedd yn gweithredu’n effeithiol, ac yn amlygu pwysigrwydd ymchwil trylwyr wrth lunio dyfodol Cymru.

Ymgysylltu â sefydliadau Cymreig: Y Farchnad 

Fel rhan o’m profiad, fe fues i hefyd yn archwilio rai o’r cyfleoedd a ddarperir gan Wasanaeth Ymgysylltu’r Senedd. Fe wnes i ymweld ag Y Farchnad, sef menter sy'n dwyn amrywiol sefydliadau o bob rhan o Gymru ynghyd. Mae’r lle bywiog hwn yn galluogi’r cyhoedd i ryngweithio’n uniongyrchol ag Aelodau o’r Senedd, a chyfrannu at drafodaethau polisi.

 

Roedd cwrdd ag unigolion sy’n ymwneud â phrosiectau amrywiol, megis cadwraeth morwellt a materion amaethyddol, yn ysbrydoledig ac yn dangos y modd y mae’r Senedd yn ymgysylltu’n weithredol â phryderon ei dinasyddion. At hynny, fe wnes i gyfarfod ag unigolion o’r Gwasanaeth Addysg, a Senedd Ieuenctid Cymru.

Ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf: Addysg a Senedd Ieuenctid Cymru 

Mae’r Gwasanaeth Addysg yn chwarae rhan hollbwysig wrth sicrhau bod pobl ifanc ledled Cymru yn gallu ymgysylltu â’r Senedd, gan gynnig amrywiaeth o raglenni ac adnoddau addysgol. Gwahoddir ysgolion a grwpiau ieuenctid i ymweld â’r Senedd i ddysgu am ei rôl yn nemocratiaeth Cymru, cymryd rhan mewn gweithdai, a hyd yn oed cymryd rhan mewn dadleuon o fewn siambr Senedd ffug. Diben yr ymweliadau hyn yw ysbrydoli pobl ifanc i ddod yn ddinasyddion gweithgar, a deall pwysigrwydd eu llais wrth lunio dyfodol Cymru.

Mae Senedd Ieuenctid Cymru, ar y llaw arall, yn cynnig llwyfan i bobl ifanc 11 i 18 oed gynrychioli eu cyfoedion ar faterion sydd o bwys iddynt. Mae gan aelodau etholedig Senedd Ieuenctid Cymru gyfle unigryw i ddylanwadu ar benderfyniadau ar y lefelau uchaf, gan weithio ochr yn ochr ag Aelodau o’r Senedd i ddod â safbwyntiau ieuenctid i’r amlwg. Mae’r fenter hon yn grymuso pobl ifanc o bob rhan o Gymru i gymryd rhan weithredol mewn democratiaeth, gan sicrhau bod eu barn a’u pryderon yn cael eu clywed a’u hystyried gan lunwyr polisi.

Pwyllgorau ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd: Pont tuag at Ddemocratiaeth 

Wrth adlewyrchu ar fy amser gyda’r Tîm Ymgysylltu â Dinasyddion, fe wnaeth ymroddiad Aelodau etholedig i gynnwys y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd ar bob lefel argraff arbennig arnaf. Mae’r tîm yn gyfrifol am gefnogi pwyllgorau drwy hwyluso rhaglenni ymgysylltu â’r cyhoedd i sicrhau bod pobl yn gallu cael eu clywed, gan gynnwys cymunedau nad ydynt yn cael eu clywed yn aml, a’r rheini sydd, o bosib, yn teimlo nad ydynt yn gysylltiedig â gwleidyddiaeth.

Maent yn sicrhau bod pawb, waeth beth fo’u cefndir neu eu lleoliad, yn cael y cyfle i gyfrannu at drafodaethau polisi ar faterion sy’n effeithio arnynt, o ofal iechyd ac addysg, i newid hinsawdd a chyfiawnder cymdeithasol. Mae’r modd y mae Pwyllgorau’n ymgysylltu â’r cyhoedd yn pontio’r bwlch rhwng y Senedd a phobl Cymru, gan ei gwneud yn fwy hygyrch ac ymatebol i anghenion a lleisiau ei dinasyddion.

Myfyrio ar fy mhrofiad gwerthfawr yn y Senedd 

Roedd fy mhrofiad gwaith yn Senedd Cymru yn werthfawr iawn. Tynnodd sylw at bwysigrwydd ymgysylltu â’r cyhoedd mewn democratiaeth, a dangosodd fod y Senedd yn wirioneddol yn fan lle mae pob llais yn bwysig. At hynny, amlygodd fy mhrofiad, er bod gwaith y Senedd yn aml yn creu penawdau, yr ymdrechion cyson, bob dydd sy’n ysgogi newid ystyrlon. Rwy’n ddiolchgar am y cyfle i gael profiad uniongyrchol o’r ymrwymiad hwn i gynhwysiant a chyfranogiad.

Ynghylch yr awdur: Pacha Pritchard 

Mae Pacha yn fyfyriwr Safon Uwch yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern, lle mae’n astudio Bioleg, Mathemateg, Daearyddiaeth, a Dylunio Cynnyrch. Mae Pacha yn bwriadu astudio Daearyddiaeth yn y brifysgol, gan ganolbwyntio ar faterion amgylcheddol a chadwraeth adnoddau naturiol. At hynny, Pacha yw Peiriannydd y Flwyddyn, Big Bang UK.

Os ydych wedi cwblhau eich TGAU a bod gennych ddiddordeb mewn ymgysylltu â’r cyhoedd neu ddemocratiaeth, rydym yn eich gwahodd i wneud cais am brofiad gwaith gyda’r Tîm Ymgysylltu â Dinasyddion. Anfonwch eich CV at rhayna.mann2@senedd.cymru  ynghyd ag esboniad byr o pam fod gennych ddiddordeb yn y cyfle hwn a'ch argaeledd. Edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais.