Dweud eich dweud ar ddemocratiaeth ddigidol yn y DU

Cyhoeddwyd 30/07/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 30/07/2014

Mae comisiwn Senedd y DU ar ddemocratiaeth ddigidol yn ymchwilio i'r cyfleoedd y gall technoleg ddigidol eu rhoi i ddemocratiaeth seneddol yn y DU. Bydd yn gwneud argymhellion ym mis Ionawr 2015 ac mae'n croesawu sylwadau gan bawb. Ar hyn o bryd mae'r Comisiwn yn gofyn am sylwadau ar ei drydedd thema: Cynrychiolaeth Cwestiynau maent yn eu gofyn: Cynrychiolwyr etholedig Sut fydd democratiaeth yn edrych mewn 15 - 20 mlynedd? A fydd yr oes ddigidol yn arwain at bwysau am ddemocratiaeth mwy uniongyrchol, fel dulliau torfol (crowdsourcing), refferenda a mentrau gan ddinasyddion? Sut y gall Aelodau Seneddol wneud gwell defnydd o'r rhyngrwyd a'r cyfryngau cymdeithasol i gynrychioli eu hetholwyr - a sut y gall etholwyr ddefnyddio'r arfau hyn i sicrhau eu bod yn cael eu cynrychioli yn y ffordd y maent yn dymuno? A yw'r cyfryngau cymdeithasol yn gwella'r cyswllt lleol ar gyfer Aelodau Seneddol, neu a yw'n ei danseilio drwy eu cynnwys mewn trafodaethau mwy cenedlaethol a rhyngwladol? Gwybodaeth am wleidyddiaeth Sut y gellir gwella'r ddarpariaeth ar-lein o wybodaeth am etholiadau, gan gynnwys manylion am ble i bleidleisio, sut i bleidleisio a'r canlyniadau? Mae'r cyfryngau newyddion yn newid yn gyflym - ac mae'r ffyrdd y mae pobl yn defnyddio gwybodaeth, gan gynnwys newyddion, yn newid yn gyflym hefyd. A fydd gwybodaeth wrthrychol am y broses wleidyddol yn parhau i fod ar gael yn hawdd? Hyd yn oed os bydd, a fydd dinasyddion yn barod i chwilio amdano? Ymgyrchu gwleidyddol A allwn ddisgwyl ymgyrchu etholiadol parhaus drwy sianeli digidol - sut fyddai dinasyddion yn teimlo am hynny ac a fyddai'n tanseilio neu'n cryfhau democratiaeth gynrychioliadol? Sylwer: Bydd y comisiwn yn cynnal ymgynghoriad ar wahân ar bleidleisio ar-lein mewn etholiadau ym mis Medi, ond os oes gennych syniadau yr hoffech eu rhannu cyn hynny, byddent yn dal yn falch o glywed oddi wrthych. I ddweud eich dweud, ewch i'w gwefan, anfonwch e-bost, neu gysylltwch drwy sianeli cyfryngau cymdeithasol cyn 31 Gorffennaf.   Beth sy'n digwydd yng Nghymru? Ers lansio ein strategaeth e-ddemocratiaeth yn 2010, mae'r Cynulliad wedi sicrhau bod defnydd effeithiol o dechnoleg wrth wraidd popeth rydyn ni'n ei wneud. Mae Aelodau'r Cynulliad yn defnyddio technoleg i gael gafael ar bapurau, i gyfathrebu â'i gilydd ac i fwrw eu pleidlais yn y Siambr. Maent yn rhoi gwybod am bron bopeth a wnânt drwy Twitter, Facebook, LinkedIn a YouTube! Gall pobl Cymru gyflwyno a llofnodi deisebau drwy ein gwefan a dweud eu barn wrthym drwy'r cyfryngau cymdeithasol a gwe-sgyrsiau. Gallant hefyd wylio'r trafodion yn fyw neu ar alw ar Senedd.TV, sef ein sianel benodedig ar gyfer darlledu busnes y Cynulliad, neu chwilio am eiriau allweddol yn ein cofnod dwyieithog o drafodion. A diolch i'n gwaith gyda Microsoft ar gyfieithu peirianyddol, gall pobl ledled y byd bellach gyfieithu testun rhwng Cymraeg a Saesneg yn Microsoft Office, dim ond drwy glicio 'cyfieithu'. Yn dilyn y digwyddiadau Diffyg Democrataidd a gynhaliwyd yng Nghymru y llynedd, fe wnaeth Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, y Fonesig Rosemary Butler AC, argymhellion ar gyfer y Cynulliad a oedd yn canolbwyntio ar y gefnogaeth y gellir ei darparu i lwyfannau digidol sy'n dod i'r amlwg wrth wneud ein gwaith. Gan edrych i'r dyfodol, mae'r Cynulliad yn bwriadu:
  • gweithio gyda'r cyfryngau digidol a hyperleol, a chyrff sy'n bartneriaid, i greu canolbwynt newyddiaduraeth yn y Senedd, a allai gynnwys y sianeli digidol newydd hyn;
  • ei gwneud yn haws i adrodd am waith y Cynulliad drwy ddarparu gwell cyfleusterau cyfathrebu ar ystâd y Cynulliad;
  • gwneud data'r Cynulliad yn fwy agored a hygyrch;
  • sicrhau bod Aelodau'r Cynulliad yn hollol hyddysg ynglŷn â'r ffordd orau i ddefnyddio'r offer cyfathrebu sydd bellach ar gael yn yr oes ddigidol hon.