Dy Gynulliad di – dy lais di, dy ffordd di. Y Llywydd yn cyhoeddi Siarter y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer ymgysylltu â phobl ifanc

Cyhoeddwyd 16/07/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/07/2014

Heddiw (16 Gorffennaf), bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gwneud ymrwymiad i bobl ifanc Cymru. Bydd y Fonesig Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad, yn ogystal ag arweinwyr pedair plaid wleidyddol y Cynulliad, yn llofnodi Siarter Pobl Ifanc. Bydd yn ymrwymo'r Cynulliad i sicrhau bod pob person ifanc yng Nghymru yn cael y cyfle i gyfrannu at waith y Cynulliad. Y Fonesig Rosemary sy'n egluro pam fod hwn yn gam mor bwysig wrth ddatblygu datganoli yng Nghymru. Ni ddylai unrhyw un ohonom edrych ar bobl ifanc Cymru a'u gweld fel oedolion y dyfodol yn unig. Dylid gwrando ar eu hanghenion a'u profiadau cyfredol, a dylai'r anghenion hynny chware rôl bwysig wrth ddylanwadu ar y rhai sy'n gwneud penderfyniadau sy'n effeithio ar fywydau pob un ohonom. Dywedodd 86% o'r bobl ifanc a ymatebodd i'n hymgynghoriad fod ganddynt ddiddordeb yn y pethau sy'n effeithio arnyn nhw neu eu cymuned. Er hynny, rydym wedi gweld gormod o etholiadau lle mae'r demograffig o bobl ifanc wedi dewis, mewn niferoedd mawr, eithrio eu hunain o'r broses ddemocrataidd. Credaf fod hynny'n wir oherwydd, o bosibl, nid yw gwleidyddiaeth o ddiddordeb i bobl ifanc. Dyma'r cam lle ymddengys bod llawer yn dod i'r casgliad nad yw'r rheini sy'n gwneud y penderfyniadau allweddol sy'n effeithio ar eu bywydau yn gwrando ar eu safbwyntiau - ac na fyddant fyth yn gwneud hynny. Rwy'n awyddus i weld Cymru lle mae pob plentyn a pherson ifanc yn teimlo bod ganddo'r cyfle i gymryd rhan yng ngwaith Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Fel Llywydd y Cynulliad, rwyf wedi sicrhau bod cynyddu lefel ymgysylltiad pobl ifanc â'r gwaith yr wyf i a'm cydweithwyr yn ei wneud yn y Senedd yn un o fy mhrif flaenoriaethau ar gyfer y Pedwerydd Cynulliad. A dyna pam, ynghyd ag arweinwyr y pedair blaid yn y Cynulliad, fy mod yn gwneud yr ymrwymiad pwysig hwn i bobl ifanc Cymru heddiw. Yn ddiweddar, ymgynghorodd y Cynulliad Cenedlaethol â phobl ifanc o bob cwr o Gymru, ynghylch sut y gallwn eu hannog a'u cefnogi i gymryd rhan yn yr hyn rydym yn ei wneud yma yn y Cynulliad. Cawsom ymateb gwych i'r ymgynghoriad, sef tair mil o ymatebion - yr ymateb mwyaf erioed i unrhyw ymgynghoriad gan y Cynulliad. Yn ôl yr ymatebion, mae awydd mawr gan bobl ifanc ledled Cymru i gael dweud eu dweud ar y materion sy'n bwysig iddyn nhw. Gallwn eu helpu drwy sicrhau eu bod yn cael y cyfleoedd i wneud hyn drwy gymryd rhan ym musnes y Cynulliad. Mewn ymateb i'r ymgynghoriad, mae'r Cynulliad wedi cytuno ar weledigaeth newydd ar gyfer ymgysylltu â phobl ifanc. Rydym am i'r Cynulliad gael ei weld fel sefydliad sydd ar flaen y gad o ran ymgysylltu â phobl ifanc. Mae'n bwysig y gall pobl ifanc gael eu safbwyntiau eu hunain ar y materion sy'n bwysig iddyn nhw, ac y cânt eu clywed a'u gwerthfawrogi wrth wraidd democratiaeth Cymru. Mae tair rhan i'r dull hwn:
  • Estyn allan - bydd y Cynulliad yn sicrhau, lle bynnag maen nhw, a beth bynnag yw eu cefndir, bod pobl ifanc yng Nghymru yn gallu dod o hyd i wybodaeth am y gwaith mae'r Cynulliad yn ei wneud, fel y gallan nhw benderfynu sut y mae'n berthnasol i'w dyheadau a'u diddordebau nhw;
  • Galluogi trafodaeth - bydd y Cynulliad yn darparu amrywiaeth o ffyrdd i bobl ifanc gymryd rhan yn ein gwaith, sy'n hwyl, yn ysbrydoli ac wedi'u teilwra i'w hanghenion;
  • Adborth - bydd y Cynulliad yn egluro i bobl ifanc sut y mae eu cyfraniadau yn gwneud gwahaniaeth, fel eu bod nhw ac eraill yn cael eu hysbrydoli i ymgysylltu rhagor.
Byddwn yn gwneud hyn drwy adeiladu ar gyflawniadau gwych tîm o bobl sydd gennym sy'n rhoi gwybodaeth i bobl ifanc am y Cynulliad, sut mae'n gweithio a sut y gallan nhw gymryd rhan. Rydym yn gweld hyd at 20,000 o bobl ifanc y flwyddyn, ac rydym am weld mwy. Yn ganolog i'n hymdrechion, bydd ein penderfyniad i gynnwys pobl ifanc o grwpiau anodd eu cyrraedd a chynnig rhagor o gyfleoedd i ymgysylltu y tu allan i amgylchedd yr ysgol. Er mwyn sicrhau hyn, rydym yn cydnabod yr angen i gryfhau ein cydberthynas â sefydliadau sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc y tu allan i'r ystafell ddosbarth. Yr her fewnol yw sicrhau, ym mhopeth a wnawn fel Cynulliad, ein bod yn gwneud yr iaith, y fforymau a'r llwyfannau a ddefnyddir gennym i gyfleu ein gwaith yn ddifyr, yn ddefnyddiol, ac yn hygyrch i bobl ifanc. Mae hyn yn golygu, ymhlith pethau eraill, manteisio i'r eithaf ar ein presenoldeb ar y we gan ddefnyddio ein gwefan ieuenctid a'n sianelau cyfryngau cymdeithasol fel canolbwynt ar gyfer gwybodaeth a thrafodaeth pan fo'n briodol. Ategir y gwaith hwn gan Siarter newydd sy'n gontract rhyngom ni â phobl ifanc Cymru. Mae'n amlinellu'r hyn y gall pobl ifanc ei ddisgwyl gan y Cynulliad a'r hyn yr ydym yn ei ddisgwyl ganddyn nhw. Roeddwn wrth fy modd o glywed bod arweinwyr pleidiau gwleidyddol y Cynulliad wedi cytuno i ymuno â mi i lofnodi'r Siarter. Credaf fod y dull yr wyf yn ei lansio heddiw yn gam hanfodol tuag at sicrhau bod ein gwaith yn cyrraedd dinasyddion Cymru y dyfodol a sicrhau eu bod yn teimlo bod eu llais yn bwysig. Y Siarter Ymgysylltu â Phlant a Phobl Ifanc http://www.dygynulliad.org/