Dydd Miwsig Cymru: Codi proffil lleisiau pobl ddu yng Nghymru

Cyhoeddwyd 03/02/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 04/02/2022   |   Amser darllen munudau

Heddiw, rydyn ni’n dathlu Dydd Miwsig Cymru!

Ar gyfer ein Hagoriad Swyddogol y llynedd, daeth artistiaid o bob cwr o Gymru at ei gilydd i ysgrifennu a pherfformio fel rhan o’r prosiect Tân Cerdd. Canlyniad hyn oedd 'Ymuno', sef cân drwm a bás ddwyieithog.

Dyma’r hyn yr oedd gan yr artistiaid yn y grŵp i’w ddweud am y broses greadigol a’r hyn yr oedd yn ei olygu iddyn nhw i fod yn rhan ohono.

 

Yn y Senedd, mae pobl Cymru yn greiddiol i’r hyn a wnawn. Dyna pam y dewiswyd y thema 'Eich Llais' ar gyfer Agoriad Swyddogol y Chweched Senedd. Dewiswyd y thema hon i ddathlu democratiaeth yng Nghymru, a'r cymunedau amrywiol y mae eu lleisiau'n cael eu cynrychioli o fewn ein hadeilad.

Wrth i'r seremonïau swyddogol ddechrau, fe wnaeth perfformwyr ac artistiaid o bob rhan o Gymru godi eu lleisiau trwy gyfrwng barddoniaeth, dawns a chân i nodi'r agoriad.

Cynhaliwyd un o’r perfformiadau gan Tân Cerdd, sef sefydliad nid-er-elw a sefydlwyd yn sgil protestiadau Mae Bywydau Du o Bwys i godi proffil lleisiau pobl ddu yng Nghymru. Gwnaethant berfformio cân o’r enw ‘Ymuno’ a gyfansoddwyd yn arbennig ar gyfer yr Agoriad Swyddogol.

Cyfansoddwyd y gân gan Eadyth a Lily Beau, ac mae hefyd yn cynnwys lleisiau nifer o artistiaid du amlwg o Gymru, sef Aleighcia Scott, Skunkadelic (Afrocluster), Vanity Jay (Baby Queens), Dionne Bennett a SZSW. Mae'n sôn am obaith ar gyfer y dyfodol a sut mae pob llais yn gryfach gyda'i gilydd.

Pan ofynnwyd i Aleighcia Scott sut roedd hi'n teimlo ynghych perfformio yn yr Agoriad Swyddogol, dywedodd:

“Fe wnes i fwynhau perfformio yn y Senedd, oherwydd i mi mae’n cynrychioli’r newidiadau cadarnhaol sydd i ddod i Gymru – mae’n anrhydedd cael bod yn rhan o hyn a chael fy newis i berfformio.”

Wrth drafod thema'r agoriad a'r broses greadigol y tu ôl i'r gân, eglurodd Lily;

“Dwi wastad wedi ei chael yn anodd darganfod fy llais, yn enwedig yn dod o Gymru fel menyw ddu. Fel artist, mae dod o hyd i'm llais yn siwrnai ynddo'i hun.”

Mynegodd cyd-ysgrifennwr y trac, Eädyth, mor falch yr oedd o gydweithio â Lily i greu eu 'hanthem drwm a bas newydd i'r Senedd';

“Roedd ysgrifennu gyda Lily fel merch ddu Gymraeg yn broses mor wych i mi, i deimlo fy mod yn cysylltu â menyw ddu arall yng Nghymru sydd hefyd yn siarad Cymraeg.”

Esboniodd Eädyth fod y cysylltiad hwn â Lily yn rhan o'r hyn a ffurfiodd y gân. “Mae bod o gwmpas pobl greadigol ddu eraill yng Nghymru yn beth mor bwysig i mi… rydw i wir yn teimlo fy mod i’n perthyn ar ôl hyn.”

"rwy’n teimlo fy mod wedi fy ngrymuso wrth imi gael cyfleoedd pellach fel hyn i ddweud fy nweud a pharhau i siarad am yr anawsterau rydyn ni'n eu hwynebu fel pobl groenliw.”

Wrth siarad am ei brofiad o weithio ar y gân, eglurodd Tumi, sy’n mynd yn ôl yr enw Skunkadelic, mai awr yn unig oedd ganddo i ysgrifennu ei ddarn ar gyfer ‘Ymuno’, ond ei fod wedi ei helpu i ganolbwyntio.

“Mae cyfyngiad amser bob tro’n dda... roedd yn rhaid i mi gau allan o'r sŵn y tu fas a meddwl yn ddyfnach am yr hyn roeddwn i eisiau ei ddweud."

“Dros y blynyddoedd, mae ceisio cael llwyfan i’m llais wedi bod yn heriol a dweud y lleiaf, ond yn fwy diweddar wrth weithio ar fwy o brosiectau yng Nghymru… rwy’n teimlo fy mod wedi fy ngrymuso wrth imi gael cyfleoedd pellach fel hyn i ddweud fy nweud a pharhau i siarad am yr anawsterau rydyn ni'n eu hwynebu fel pobl groenliw.”

Aeth Lily ymlaen i egluro sut mae hi'n ystyried y sîn gerddoriaeth Gymraeg yn “lle diogel i ddarganfod yr hyn rydw i eisiau ei ddweud a sut i'w ddweud”, ond siaradodd hefyd am yr heriau wrth ddefnyddio’r Gymraeg; “Yr hyn sydd angen newid fwyaf yw agwedd pobl tuag at y Gymraeg, yn enwedig ymhlith pobl ddu yng Nghymru. Mae angen i ni ddathlu pobl sy'n ceisio siarad Cymraeg.”

Gallwch wylio Tân Cerdd yn perfformio Ymuno a chlywed mwy gan Lily ac Eädyth yn y fideos isod.

Darganfyddwch fwy am yr artistiaid eraill a berfformiodd yn yr Agoriad Swyddogol.

 

Sut i Leisio Barn

Rydym yn eich cynrychioli chi. Felly os oes rhywbeth rydych yn teimlo'n angerddol yn ei gylch, neu os oes newid yr hoffech ei weld yng Nghymru, mae yna nifer o ffyrdd y gallwch leisio'ch barn yn y Senedd:

Fe allech chi greu deiseb newydd neu lofnodi deiseb rhywun arall. Mwy o wybodaeth am ddeisebau’r Senedd.

Fe allech chi helpu un o bwyllgorau'r Senedd gydag ymchwiliad. Mwy am weithio gyda phwyllgor.

Gallwch gysylltu ag un o’ch Aelodau o’r Senedd am y mater. Cynrychiolir pob person yng Nghymru gan bum Aelod etholedig. Darganfyddwch pwy sy'n eich cynrychioli chi.