Ennyn mwy o ddiddordeb yn y Cynulliad...

Cyhoeddwyd 16/01/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/01/2017

Ym mis Medi, bydd ugain mlynedd wedi mynd heibio ers i bobl Cymru bleidleisio, o fwyafrif bychan, i gael eu Cynulliad Cenedlaethol eu hunain. Dyma'r unig sefydliad gwleidyddol y mae pobl Cymru wedi pleidleisio o'i blaid. Ers iddo ddod i fodolaeth ym 1999, mae'r Cynulliad wedi tyfu o ran pŵer a chyfrifoldeb. Chwe blynedd yn ôl, pleidleisiodd pobl Cymru o fwyafrif llethol dros roi pŵer i'r Cynulliad i wneud deddfau yng Nghymru. Ond pa mor ymwybodol yw pobl o'r gwaith a wneir gan y Cynulliad Cenedlaethol fel sefydliad, a chan ei aelodau unigol fel ACau? Rydym ni'n gwybod bod pobl weithiau'n drysu rhwng y ddeddfwrfa, sef y Cynulliad Cenedlaethol, a'r weithrediaeth, sef Llywodraeth Cymru. Ddiwedd y flwyddyn y llynedd, crëodd Llywydd y Cynulliad grŵp bach i drafod sut y gall y Cynulliad gyflwyno newyddion a gwybodaeth am ei waith mewn modd diddorol a hygyrch. Tasg fawr yw hynny, yn enwedig ar adeg pan mae sefydliadau newyddion o dan bwysau cynyddol ac yn canolbwyntio'n llai ar roi sylw i wleidyddiaeth. Mae ein tasglu yn cynnwys pobl sy'n meddu ar arbenigedd yn y meysydd a ganlyn: y cyfryngau, prosiectau democratiaeth agored megis mySociety, sefydliadau cyhoeddus blaengar sydd wedi mynd ati i hybu cyfathrebu digidol, ac arbenigwyr mewn dysgu digidol a chyfathrebu gwleidyddol. Gofynnwyd i ni edrych ar y ffordd orau o gynyddu lefelau o ddealltwriaeth ac ymgysylltiad gan y cyhoedd ymhlith cynulleidfaoedd sydd ar hyn o bryd wedi ymddieithrio o wleidyddiaeth a materion Cymreig. Mae'r tasglu yn ystyried y ffordd orau o gyflawni'r hyn a ganlyn:
  • sicrhau ei bod yn haws i ddefnyddwyr gwasanaethau'r Cynulliad ddefnyddio'r fath wasanaethau, megis y wefan, neu Senedd TV, sef y darllediadau byw ac wedi'u recordio o drafodion y Cynulliad, neu'r fersiwn argraffedig o Gofnod y Trafodion, yn ogystal â chymryd a defnyddio data oddi wrthynt, addasu cynnwys fideo a chynnwys arall at eu dibenion eu hunain, a rhoi gwell profiad i ddefnyddwyr yn gyffredinol;
  • sicrhau bod gwasanaethau ar-lein, gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol, yn gallu helpu'r Cynulliad i ddiwallu anghenion gwahanol gynulleidfaoedd a chwsmeriaid;
  • sut y mae pwyllgorau'r Cynulliad yn rhoi gwybod am y gwaith y maent yn ei wneud.
Mae llawer o bobl yn ymddiddori yn y materion a drafodir yn y Cynulliad, sy'n amrywio o faes iechyd i dai, ac o faes addysg i'r amgylchedd – ond o bosibl nid yw'r Cynulliad yn cyflwyno'r materion hyn mewn ffordd sy'n galluogi pobl i ddarganfod pethau mewn modd syml a hygyrch. Yn rhy aml, mae'r Cynulliad yn ymddangos yn sefydliadol wrth gyflwyno materion, yn hytrach na rhoi'r materion yn gyntaf. Y dyddiau hyn, mae pobl yn poeni'n fwy am faterion nag y maent yn poeni am sefydliadau. Efallai bod pethau eraill y mae angen i'r Cynulliad eu gwneud i sicrhau ei fod yn cyfathrebu'n effeithiol â phobl Cymru. Mae pobl bellach yn cael gwybodaeth a newyddion am wleidyddiaeth mewn ffyrdd gwahanol ac arloesol, yn bennaf drwy lwyfannau digidol. Mae'r rhan fwyaf o bobl erbyn hyn yn cael eu newyddion ar-lein ac ar eu ffonau symudol, ac yn fwyfwy aml drwy ffrydiau newyddion megis Facebook. Mae pobl ifanc gan amlaf yn cael eu newyddion ar lwyfannau symudol,  drwy gyfryngau cymdeithasol megis Snapchat. Sut all y Cynulliad gyflwyno ei newyddion mewn modd mwy cyfleus gan ddefnyddio'r llwyfannau hyn - neu alluogi eraill i wneud hyn? Mae holl sefydliadau'r cyfryngau o dan bwysau, ac mae un o'r papurau newydd a fu'n gohebu ar faterion y Cynulliad, drwy gyflogi gohebydd penodedig, erbyn hyn wedi dileu'r swydd honno. Mae'r rhan fwyaf o bobl Cymru yn cael eu newyddion teledu a radio gan sianeli a ddarlledir drwy'r DU ac sy'n rhoi ychydig iawn o sylw i Gymru. Yn anaml iawn maent yn egluro am y gwahaniaethau sy'n bodoli rhwng polisïau yng Nghymru ac yn Lloegr, ar wahân i grybwyll y ffaith yma ac acw. Yn anaml iawn mae'r papurau newydd Llundeinig, sy'n cael eu darllen yn eang yng Nghymru, yn sôn am wleidyddiaeth Cymru neu'r Cynulliad. Felly, a oes angen i'r Cynulliad ddarparu ei lwyfan newyddion digidol ei hun drwy greu tîm bach o newyddiadurwyr i ddarparu newyddion am y straeon sydd yn dod allan o'r Cynulliad? Gallai llwyfan o'r fath hefyd ddarparu deunydd ar gyfer ugeiniau o gyhoeddiadau newyddion lleol a hyperleol o amgylch Cymru. Ni fyddai'n gweithredu fel llefarydd y 'llywodraeth' - i'r gwrthwyneb. Byddai'n llwyfan ar gyfer yr hyn sy'n digwydd yn y man lle gwneir y gwaith o graffu ar Lywodraeth Cymru – y Cynulliad Cenedlaethol - ac o dan arweiniad golygydd diduedd. Bwriad dyluniad ffisegol y Senedd oedd bod yn symbol o'i rôl fel man cyhoeddus tryloyw ar gyfer pobl Cymru. Mae'n un o'r adeiladau sy'n cael y nifer mwyaf o ymwelwyr yng Nghymru, sef mwy na 80,000 o ymwelwyr bob blwyddyn. Sut gellir gwella profiad yr ymwelydd, a sut all pobl gadw mewn cysylltiad â'r hyn sy'n digwydd yn y Cynulliad ar ôl eu hymweliad? Mae miloedd o fyfyrwyr ysgol yn ymweld â'r Cynulliad bob blwyddyn: sut ddylai'r Cynulliad gysylltu â myfyrwyr, athrawon ac ysgolion, o bosibl gan ddefnyddio llwyfan dysgu dwyieithog Llywodraeth Cymru, sef Hwb+, sy'n hynod o lwyddiannus ac yn  cynnal 580,000 o athrawon a dysgwyr? Dyna rywbeth rydym ni'n gofyn i'r Cyngor Dysgu Digidol Cenedlaethol roi sylw iddo. Mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn ceisio deall barn a safbwyntiau pobl Cymru drwy ddefnyddio dulliau gwahanol – ceisio cael ymatebion torfol i Brexit a materion eraill, cynnal arolygon barn ynghylch ymholiadau a chael miloedd o ymatebion. Bydd gwaith y tasglu yn ategu hyn, gan geisio sicrhau bod y Cynulliad yn ymddwyn fel fforwm democrataidd arloesol. Yn y pen draw - eich Cynulliad chi ydyw. Rydym ni'n awyddus i glywed eich barn ar sut y gall y Cynulliad gyfathrebu orau â phobl Cymru. Anfonwch e-bost atom ni ar digisenedd@assembly.wales gan roi eich barn. Rydym yn awyddus i glywed gennych - wedi'r cyfan, mae'n flwyddyn fawr ar gyfer y Cynulliad. Ym mis Mai, bydd y Cynulliad yn dathlu ei ben-blwydd yn 18 oed. Dyna garreg filltir mewn unrhyw fywyd. Mae Leighton Andrews yn cadeirio Tasglu Newyddion Digidol y Llywydd.