Efallai eich bod wedi clywed y bydd etholiad nesaf Senedd Cymru yn wahanol i rai’r gorffennol.
Gan ddechrau yn 2026, bydd newidiadau i sut rydych chi'n pleidleisio yn yr etholiad a'r hyn rydych chi'n pleidleisio drosto.
Dyma gip ar bopeth sy'n digwydd.
Beth sy'n newid?
O 2026, fe welwch nifer o newidiadau yn digwydd i’r Senedd. Dyma'r pethau pwysicaf y mae angen i chi wybod amdanynt:
- 96 o Aelodau: O etholiad mis Mai 2026, bydd gan y Senedd 96 o Aelodau yn lle 60.
- System bleidleisio newydd: Bellach bydd gan bawb dros 16 oed un bleidlais i ddewis plaid wleidyddol neu ymgeisydd annibynnol.
- Etholaethau newydd: Bydd gan Gymru 16 o etholaethau newydd. Bydd pob etholaeth yn ethol chwe Aelod.
- Rheolau newydd: Mae'n rhaid i unrhyw un sy'n sefyll mewn etholiad fod yn byw yng Nghymru.
Pam mae’r newid hwn yn digwydd?
Yn 2024, pasiwyd deddf i gynyddu maint y Senedd adeg etholiad nesaf Cymru yn 2026.
Y Senedd yw'r senedd leiaf yn y DU ac un o'r lleiaf yn Ewrop. Bydd cynyddu nifer yr Aelodau i 96 yn ei gwneud yn debycach i wledydd eraill o faint tebyg i Gymru, fel yr Alban sydd â 129 o Aelodau a Gogledd Iwerddon sydd â 90.
Mae hefyd yn bwysig cofio bod y Senedd wedi newid llawer dros y chwarter canrif diwethaf o ddatganoli. Bellach mae ganddi fwy o bwerau i basio deddfau mewn llawer mwy o feysydd sy’n effeithio ar eich bywyd bob dydd yng Nghymru, a gosod rhai trethi i Gymru.
Er bod ganddynt lawer mwy i’w wneud, nid yw nifer yr Aelodau wedi newid ers 1999. Bydd yr etholiad yn 2026 yn ethol yr Aelodau sydd eu hangen i ystyried cyfreithiau newydd yn fwy effeithiol ac archwilio gwariant Llywodraeth Cymru yn fwy manwl.
Bydd hyn yn golygu gwell cynrychiolaeth i chi, eich teulu a’ch cymuned, gyda mwy o Aelodau etholedig i edrych dros waith a gwariant Llywodraeth Cymru.
Pam bod hyn yn bwysig?
Y Senedd yw lle caiff penderfyniadau eu gwneud am faterion pwysig fel ysbytai, addysg, a thrafnidiaeth. Dyma lle caiff deddfau Cymru eu pasio a lle caiff rhai o drethi Cymru eu gosod.
Gallwch weld beth sydd wedi'i ddatganoli a beth sydd heb ei ddatganoli yma.
Mewn etholiad, rydych yn pleidleisio i ddewis cynrychiolwyr ar gyfer eich ardal leol – eich etholaeth. Wedi iddiynt gael eu hethol, bydd Aelodau o’r Senedd yn edrych ar waith Llywodraeth Cymru ac yn gofyn cwestiynau am ei phenderfyniadau a’i gwariant yn y Senedd.
Gallwch weld mwy am sut mae’r Senedd yn gweithio yma.
Mae pob Aelod hefyd yn cynrychioli eu hetholaeth leol ac yn cefnogi’r bobl sy’n byw yno mewn perthynas ag amrywiaeth o faterion. Gallant helpu i ddatrys y mater eu hunain, awgrymu’r lle gorau i fynd am ragor o wybodaeth, neu’n godi’r mater yn y Senedd er mwyn iddo gael sylw ehangach.
Pam mae hyn yn well?
Un o'r gwelliannau mwyaf fydd sut, gan y bydd gan bawb yng Nghymru chwe Aelod yn eu cynrychioli, y bydd gennych fwy o ddewis o ran pwy yr ydych am gysylltu â hwy ynglŷn â mater.
Er enghraifft, os ydych am godi mater am rywbeth yn ymwneud â’r GIG, gallwch gysylltu ag Aelod penodol rydych chi’n gwybod sy’n angerddol am y pwnc. Os oes gennych bryderon am faterion amaethyddol neu bolisïau busnes, efallai y byddwch yn dewis cysylltu ag Aelod gwahanol.
Neu efallai bod Aelod wedi eich helpu gyda rhywbeth yn y gorffennol ac rydych yn ymddiried yn y person dan sylw i fwrw ymlaen â mater newydd yn y ffordd gywir.
Gallwch hefyd gysylltu â phob un o’r chwe Aelod am y mater. Chi sydd â’r dewis.