Fy mhrofiad gwaith yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru gan Tooba Naqvi

Cyhoeddwyd 14/04/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/04/2014

Ble ddechreua i? Mae wedi bod yn freuddwyd gen i erioed cael gweithio mewn amgylchedd ffurfiol ond cyfeillgar. Ar ôl gweithio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru am 5 diwrnod, gallaf ddweud bod fy mreuddwyd wedi’i gwireddu. Rwyf mor ffodus fy mod i wedi cyfarfod â Mari Wyn Gooberman y llynedd pan oeddwn yn ymweld â’r Senedd. Awgrymodd y dylwn ddod i’r Cynulliad am gyfnod o brofiad gwaith, ac roeddwn i mor falch o’i chlywed hi’n dweud hynny. Anfonais gais i ddod ar brofiad gwaith gan obeithio am y gorau a chyn pen dim cefais ateb yn dweud y byddai croeso i mi ddod i’r Cynulliad i weithio. Dewisais ddwy adran, sef yr adran Gyfathrebu a’r swyddfa Polisi a Deddfwriaeth. Roeddwn yn awyddus nid yn unig i ddysgu sut y mae cyfraith newydd yn cael ei phasio a sut y mae polisïau’r Cynulliad yn gweithio, ond hefyd i ddeall sut y mae system gyfathrebu’r Cynulliad yn gweithio. http://www.youtube.com/watch?v=WtwH9uGAExU Ar fy niwrnod cyntaf, cefais groeso cynnes gan Daniel yn y dderbynfa. Rhoddodd syniad i mi o’r hyn y byddwn yn ei wneud am weddill yr wythnos a sut y byddai popeth yn cael ei drefnu. Cefais fy nghyflwyno i’r tîm cyfathrebu cyfan gan Janette a theimlais yn gyfforddus â’r modd roedd y staff yn fy nhrin i, a theimlais i mi gael fy nerbyn ar unwaith fel aelod o’r tîm. Ar ddechrau fy niwrnod yn y swyddfa, cefais sgwrs gan Robert Orr a Josh Paines am Gyhoeddiadau a Dylunio Graffig. Dysgais am gyhoeddiadau’r Senedd a sut y mae’n rhaid i bob darn a gyhoeddir adlewyrchu gwir natur Cynulliad Cenedlaethol Cymru. O bethau bach fel y palet lliwiau i’r broses o ddylunio taflenni, sylweddolais fod popeth yn bwysig a bod yn rhaid rheoli popeth yn dda. Rhaid dweud i mi fwynhau gweithio yn yr adran Gyfathrebu’n fwy na dim. Cefais y fraint o gyfarfod â dau Aelod Cynulliad yn bersonol, sef Aled Roberts AC a Keith Davies AC, ac roedd yn bleser cyfarfod â nhw. Roedd y drafodaeth ar ffurf holi ac ateb yn Siambr Hywel hefyd yn ddifyr. Daeth disgyblion chweched dosbarth o wahanol ysgolion drwy Gymru i drafod gwahanol bynciau’n amrywio o’r posibilrwydd i’r Alban gadw’r bunt os bydd y wlad yn gwahanu oddi wrth yr DU, i’r posibilrwydd y bydd Cymru yn cael annibyniaeth yn y dyfodol. Rhoddodd y cyfan fwynhad mawr i mi. Yn y Swyddfa Polisi a Deddfwriaeth, cefais gyfle i gyfarfod â phobl ysbrydoledig iawn eto ac roedd yn wych gweithio ochr yn ochr â nhw fel cydweithiwr. Rhea fu’n fy nhywys o amgylch y swyddfa i’m cyflwyno i aelodau’r tîm. Roedd mor gyfeillgar a phrynodd latte i mi hefyd ar fy niwrnod cyntaf sydd bob amser yn plesio. Roeddwn yn ddigon ffodus i gael mynd i mewn i’r Siambr a gweld y byrllysg a’r ystafelloedd pwyllgora. Cefais gyfle i helpu Linda i osod yr ystafelloedd pwyllgora ar gyfer yr Arglwydd Hall a gweddill yr Aelodau a ddaeth i drafod dyfodol y cyfryngau yng Nghymru. Byddwn yn dweud mai fy mhrif ddiddordeb oedd y modd y caiff Biliau eu troi’n Ddeddfau a rhan y gwahanol weithdrefnau fel Cydsyniad Brenhinol yn y broses o ddeddfu. Hefyd, dysgais gryn dipyn am y Swyddfa Gyflwyno a’i harwyddocâd i’r Aelodau. Roedd Adam yn gymorth mawr i mi ddeall yr hyn a oedd yn digwydd yn y Swyddfa Gyflwyno a rhoddodd lawer o gyngor da i mi am y gwahanol swyddi sydd ar gael yn y maes gwleidyddol yr hoffwn weithio ynddo. Es i rai o sesiynau’r Cyfarfod Llawn a chyfarfodydd pwyllgor. Yn gyffredinol, byddwn yn dweud bod fy mhrofiad yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru wedi bod o fudd i mi ac mae’n bendant wedi fy helpu i benderfynu ar y math o yrfa wleidyddol yr hoffwn ei dilyn yn y dyfodol. Cefais gyfle i gyfarfod â phobl gyfeillgar ac ysbrydoledig iawn yn ystod fy mhrofiad gwaith a chefais gymaint o gyngor gan fy nghydweithwyr a fydd yn gymorth i mi yn ystod y blynyddoedd nesaf. Hoffwn ddiolch i fy holl gydweithwyr am fod mor garedig ac am wneud fy nghyfnod yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru mor gofiadwy.