Fy Wythnos Profiad Gwaith: Iwan Kellett

Cyhoeddwyd 03/07/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 03/07/2019

Fy enw yw Iwan Kellett a dwi’n fyfyriwr chweched dosbarth yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch. Dros yr wythnos o’r 17eg i’r 21ain o Fehefin cefais gyfle i fynd ar brofiad Gwaith i Swyddfa Etholaeth Rhun ap Iorwerth AC Ynys Môn, a roeddwn yma am 3 diwrnod o’r wythnos. Am y ddau ddiwrnod arall cefais fynd i Swyddfa Rhun ap Iorwerth yn Nhŷ Hywel, Caerdydd.

Felly, ar fy niwrnod cyntaf roeddwn yn y Swyddfa Etholaeth yn Llangefni. Yn syth bin synnais wrth weld yr amrywiaeth o waith a oedd yn digwydd. Yn y bore, aethom i ymweld ag arddangosfa wych yn Hwb MENCAP yn dangos portreadau o ddefnyddwyr yr Hwb. Wedyn yn ôl yn y swyddfa dysgais sut mae’r swyddfa yn rhoi cymorth a helpu etholwyr. Yn y pnawn fe aethom i Gors Goch yn Llanbedrgoch i ddysgu mwy am waith Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yno. Roedd yn anhygoel dysgu fy mod yn byw mor agos i ardal sydd mor bwysig o ran ei natur, ac erioed wedi bod yno o'r blaen!

Am y ddau ddiwrnod nesaf, hedfanais lawr i Gaerdydd o Fali i fynd i’r swyddfa yn Nhŷ Hywel, Bae Caerdydd.  Roedd yna ddyn arall ar fentoriaeth o’r enw Mo felly ar ôl cyrraedd aethom am tour o’r safle a chael gwybod mwy am sut mae'r Senedd a Thŷ Hywel yn gweithio. Ar ôl cyrraedd yn ôl i’r swyddfa cyfieithais ddogfen i’w rhyddhau i’r wasg yna yn syth wedyn aethom i ymweld â’r BBC a oedd yn rhedeg digwyddiad i drafod materion darlledu yng Nghymru. Yna ar ôl cinio es i eistedd a gwrando ar FMQ’s. Mae’n rhaid dweud, o’n i ychydig bach yn ‘starstruck’ yn cerdded o gwmpas yn gweld yr Aelodau’r Cynulliad gwahanol. Ges i hyd yn oed fy llyfr wedi ei lofnodi gan Adam Price! Lawr yng Nghaerdydd mi wnes i helpu ysgrifennu araith hefyd a mynd i gyfarfod i gymryd nodiadau.

Am weddill yr wythnos roeddwn yn ôl yn Llangefni yn ymateb i boenau etholwyr ac yn trio eu helpu ac ysgrifennu e-bostion i drio rhoi cymorth a helpu nhw ynglyn ag amrywiaeth mawr o faterion.

Mae’r wythnos wedi bod yn anhygoel! Dwi wedi dysgu cymaint o bethau ac mae’r profiad go wir wedi bod yn wych! Mae wedi bod yn agoriad llygaid i’r holl waith mae’r swyddfa yn ei wneud ac wrth gwrs yr Aelod Cynulliad. O wrando ar faterion cenedlaethol yn y siambr i glywed problemau lleol yn y swyddfa. I unrhyw un sydd yn meddwl am fynd ar brofiad Gwaith i’r swyddfa, gwnewch! Mae wedi bod yn brofiad anhygoel, diolch i Rhun ap Iorwerth a Non ap Gwyn (Rheolwr y Swyddfa) am wythnos grêt.