#GofynPrifWein - Hoffai’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog glywed gennych

Cyhoeddwyd 09/09/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/01/2021   |   Amser darllen munudau

#GofynPrifWein– Cyfle i holi Carwyn Jones, y Prif Weinidog blogheaderfinalcy Hoffai’r Pwyllgor glywed gan sefydliadau, busnesau a chi – mae rhagor o wybodaeth am sut i gymryd rhan ar-lein ar gael isod. Mae’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn cyfarfod yn Abertawe am 10.30 ar 16 Hydref yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Y prif bwnc trafod fydd ‘Cymru yn y Byd Ehangach’. Dyma enghreifftiau o’r materion y bydd yn cael eu trafod:
Beth yw strategaeth gyffredinol Llywodraeth Cymru ar gyfer  marchnata a hyrwyddo Cymru i’r byd? Beth yw brand Cymru? Pa mor llwyddiannus yw ymdrechion i hyrwyddo atyniadau yng Nghymru i dwristiaid? A yw Llywodraeth Cymru yn gwneud digon i ddenu buddsoddwyr?
A yw Llywodraeth Cymru yn llwyddo I gyfleu delwedd o Gymru sy’n apelio i dwristiaid o’r DU ac o dramor? A yw diwylliant Cymreig yn ddigon gweladwy y tu allan i Gymru? Pa farchnadoedd neu nwyddau ddylid eu blaenoriaethu?
COLLAGE Caiff agenda lawn ei llwytho i dudalen y Pwyllgor ar y we unwaith iddi gael ei chadarnhau. Mae’r rhan fwyaf o Bwyllgorau’r Cynulliad yn cyfarfod yn wythnosol i graffu ar waith Llywodraeth Cymru yn fanwl, ond mae’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn canolbwyntio ar bynciau eang ynghylch unrhyw weledigaeth strategaeth ganolog yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru. Sut ydw i’n cymryd rhan ar-lein? Gallwch gyflwyno eich cwestiwn neu sylw i’r Pwyllgor ynghylch ‘Cymru yn y Byd Ehangach’ fel a ganlyn:
Twitter Ar Twitter – Dilynwch @CynulliadCymru ar Twitter ac ymatebwch i unrhyw negeseuon ynghylch y pwnc hwn gan ddefnyddio’r hashnod #GofynPrifWein. Hefyd, mae croeso ichi anfon neges uniongyrchol os hoffech i’ch neges fod yn gyfrinachol.
Facebook Ar Facebook – ‘Hoffwch’ dudalen y Cynulliad ar Facebook a gadewch neges ar unrhyw ddiweddariad statws perthnasol. Os nad ydych yn gweld diweddariad statws perthnasol, gallwch ysgrifennu neges ar y dudalen gyda’r hashnod #GofynPrifWein.
Email E-bost– Gallwch ddweud eich dweud drwy anfon e-bost at: Craffu.PW@Cynulliad.Cymru
Youtube Ar YouTube – Beth am ffilmio eich hun yn gofyn eich cwestiwn ac anfon linc i’r fideo drwy unrhyw un o’r sianeli uchod?
Instagram Ar Instagram – Os gallwch fynegi’ch barn mewn ffordd greadigol weledol, carwn weld eich cyflwyniadau. Tagiwch gyfrif Instagram y Senedd yn eich llun neu ddefnyddiwch yr hashnod #GofynPrifWein. Fel arall, gallwch wneud sylwadau ar unrhyw un o’n cyflwyniadau ar Instagram, eto gan ddefnyddio’r hashnod #GofynPrifWein.
Wordpress Sylwadau – Beth am adael neges ar y blog hwn yn awr?
Beth sy’n digwydd nesaf? Byddwn yn coladu’r ymatebion a’u trosglwyddo at David Melding AC, Cadeirydd y Pwyllgor. Bydd y Pwyllgor wedyn yn eu cynnwys yn ei gwestiynau i Carwyn Jones, y Prif Weinidog. Gallwch ddod i wylio’r cyfarfod yn fyw, ei wylio ar-lein ar Senedd.TV neu ddarllen y trawsgrifiad. Byddwn yn rhoi gwybod ichi os atebwyd eich cwestiwn. Cynhelir y cyfarfod yn Abertawe am 10.30 ar 16 Hydref yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Edrychwn ymlaen at glywed eich barn!
"You can see the extraordinary beauty, the wonderful people and great hospitality, so I'd encourage everybody in the States to come and visit Wales.” - Yr Arlywydd Barack Obama
Ymchwilio i’r pwnc – ‘Cymru yn y Byd Ehangach’ Gallai’r pwnc hwn ymddangos yn gymhleth, ond gall cymryd cam yn ôl i ystyried mater yn ei gyfanrwydd fod yn werthfawr. Hoffwn glywed syniadau arloesol a sylwadau o safbwyntiau gwahanol gan bobl o wahanol gefndiroedd. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn craffu ar waith Llywodraeth Cymru yn fanwl bob dydd, ond dyma gyfle i fod yn uchelgeisiol. Sut ydych chi’n marchnata gwlad? Sut mae Llywodraeth Cymru yn ceisio gwneud hynny? A allai wneud yn well? Dyma rai mannau cychwyn:
Gwaith gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn y gorffennolNAFW-Logo-portrait-Slate Ymchwiliad i dwristiaeth (2014) Tudalen ar y wefan | Rhestr o glipiau YouTube | Llwythwch yr adroddiad llawn (PDF 785 KB)
“I would like to see a multilevel brand [for Wales], ―so that we are, first and foremost, Anglesey, then we are Welsh, and then we are British.” - Alison Lea Wilson, Ffatri Halen Môn
Cynhaliodd Pwyllgor Menter a Busnes Cynulliad Cenedlaethol Cymru ymchwiliad i dwristiaeth yng Nghymru. Cafodd yr adroddiad ei gyhoeddi ym mis Tachwedd 2014. [caption id="attachment_1671" align="alignright" width="300"]Enterprise and Business Committee visit Lechwedd Slate Caverns Y Pwyllgor Menter a Busnes yn ymweld â Cheudyllau Llechi Llechwedd[/caption] Dyma rai pwyntiau diddorol o’r adroddiad i’w hystyried:
  • Mae twristiaeth yn werth £6.9 biliwn y flwyddyn i Gymru, neu 13.2% o GYC. Fel sector, mae’n cefnogi tua 206,000 o swyddi ac mae’n un o’n tri chyflogwr mwyaf.
  • Mae twristiaeth hefyd yn un o’n diwydiannau allforio mwyaf, gydag 80% o wariant ymwelwyr yn dod o’r tu allan i Gymru. Ers 2005, hwn fu’r sector â’r twf cyflymaf yn ein heconomi.
  • Un mater hanfodol a godwyd gyda ni oedd maint buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn twristiaeth. Clywsom fod y gwariant ar farchnata twristiaeth yng Nghymru yn cyfateb yn fras i wariant Glasgow, a theimlai sawl rhanddeiliad fod angen mwy o arian i hyrwyddo’r hyn a gynigir gan ein diwydiant twristiaeth.
  • Dro ar ôl tro clywsom fod angen brand mwy gweladwy a chydlynol ar Gymru y gallai busnesau twristiaeth o bob maint fanteisio arno – yn enwedig drwy wefan Croeso Cymru, a ddylai fod yn ganolbwynt i’n gweithgarwch marchnata.
  • Dywedwyd wrthym: “the Wales tourism brand is almost non-existent and compared to Scotland and Ireland we are way off the mark”
  • Mae ‘brand’ Cymru yn dechrau magu cryfder. Fodd bynnag, mae natur y wlad a’r hyn sydd ganddi i’w gynnig yn ei gwneud hi’n anodd iawn creu un brand cynhwysfawr.
  • Dylai Croeso Cymru gynnwys busnesau twristiaeth yn fwy agos yn ei ymgyrchoedd hysbysebu er mwyn iddynt ddeall yn well yr hyn y mae Croeso Cymru yn ceisio ei gyflawni, a gallant gydgysylltu eu gwaith eu hunain yn unol â hynny.
  • Dylai Llywodraeth Cymru wneud rhagor i annog hyrwyddo asedau treftadaeth ar y cyd, an gynnwys y rhai y tu allan i’w gofal, ac adeiladu ar enghreifftiau o arfer da.
  • Dylai Llywodraeth Cymru wneud rhagor i sicrhau effaith fwyaf bosibl digwyddiadau mawr ar dwristiaeth a sicrhau bod llwyddiant Cymru i gynnal digwyddiadau mawr yn bwydo i mewn i frand twristiaeth cryf i Gymru.
  • Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru wneud rhagor i gynyddu a gwella’r ffordd y mae VisitBritain yn hyrwyddo Cymru.
  • O ystyried gwerth twristiaeth i economi Cymru a’r amrywiaeth cyfoethog o asedau naturiol, asedau diwylliannol ac asedau eraill yng Nghymru, credwn y dylai Llywodraeth Cymru, gan weithio’n agos gyda rhanddeiliaid allweddol ledled Cymru, sicrhau bod cymorth wedi’i deilwra ar gael i fanteisio i’r eithaf ar arian yr UE er mwyn helpu i dyfu’r diwydiant yng Nghymru.
Ymchwiliad i agwedd Llywodraeth Cymru tuag at hybu masnach a mewnfuddsoddi (2014) Tudalen ar y wefan | Rhestr o glipiau YouTube | Llwythwch yr adroddiad llawn (PDF 435 KB)
“I certainly believe that, ultimately, the brand is Wales. One of the things that I passionately believe in, in terms of the advice that we give to other places, is that it does not matter whether the aim of the communication is to encourage inward investment, to encourage tourism, or to promote a nation‘s food: ultimately, it is the same place that is being talked about.” – Roger Pride, cyn Gyfarwyddwr Marchnata Llywodraeth Cymru
Erthyglau blog Caiff y blog ‘Pygion’ ei ysgrifennu gan Wasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Clipiau fideo o Senedd.TVSENEDDTV Senedd.TV yw sianel ddarlledu ar-lein Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae’n dangos popeth sy’n digwydd yn Siambr y Senedd a’r ystafelloedd pwyllgora, gan ddarlledu’n fyw a chreu archif fideo. Cyfarfodydd Pwyllgor ar Senedd.TV Y Cyfarfod Llawn ar Senedd.TV Mynychir y Cyfarfod Llawn gan holl Aelodau’r Cynulliad. Y Cyfarfod Llawn yw un o’r prif ffyrdd y gall Aelodau ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.
Cynnwys perthnasol gan Lywodraeth CymruWG_positive_40mm
“Gwneir rhagor o farchnata yn Llundain a De-ddwyrain Lloegr, Canolbarth Lloegr a Swydd Efrog, yn ogystal ag yng Nghymru ei hun am y tro cyntaf. Dramor, y tair prif farchnad yw Iwerddon, yr Almaen a’r UDA.” – Llywodraeth Cymru, Partneriaeth ar gyfer Twf: Strategaeth ar gyfer Twristiaeth 2013-2020

Wales.com – Gelwir y wefan hon yn ‘Borth Swyddogol i Gymru’, ac mae wedi’i dylunio i roi trosolwg ar Gymru fel gwlad i’r byd.

Visit Wales - Mae tîm twristiaeth Llywodraeth Cymru yn hybu twristiaeth yng Nghymru ac yn cefnogi diwydiant twristiaeth Cymru. Gwefan | Sianel YouTube

Just Ask Wales Ymgyrch i annog rhagor o gwmnïau o dramor sydd am dyfu ac ehangu i ystyried dyfodol yng Nghymru. Mae’r ymgyrch yn nodi’r sgiliau, cefnogaeth, lleoliadau posibl a chyflymder gwneud penderfyniadau yng Nghymru.

Datganiad Ysgrifenedig - Hyrwyddo a Marchnata Cymru dramor gan Edwina Hart, Y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Cymru 2016: Blwyddyn Antur - “Yn y blynyddoedd canlynol, cynhelir ymgyrchoedd ar themâu a fydd yn hyrwyddo cryfderau mwyaf Cymru gyda digwyddiadau, gweithgareddau ac atyniadau  a fydd yn canolbwyntio ar y pethau gorau a gynigir gan dwristiaeth Cymru. I ddilyn Blwyddyn Antur 2016 cynhelir

Partneriaeth ar gyfer Twf: Strategaeth ar gyfer Twristiaeth 2013-2020 – “Strategaeth newydd sy’n cyflwyno gweledigaeth lle mae’r diwydiant a Llywodraeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth i gynyddu gwariant ymwelwyr yng Nghymru.”

Cymru yn y Byd: Agenda Ryngwladol Llywodraeth Cymru


Brandio gwledydd – Sut maent yn cymharu?
“Journey to the ancient Celtic kingdom of Wales, land of castles.” – gwefan Visit Britain
visitwales logo discover ni visit scotland
visit-britain1 tourismireland[1] htz_en-GB[1]
nz pure

Canfyddiadau o Gymru headlines I gael syniad gwrthrychol o’r ffordd y caiff Cymru ei marchnata a’i thrafod, gallwch edrych ar ganfyddiadau yng nghyfryngau Cymru, y DU a gweddill y byd. Mae rhai o’r enghreifftiau hyn yn cynnwys erthyglau marchnata a gomisiynwyd ac mae’r rhai eraill yn dangos sylw naturiol yn y cyfryngau yn cyflwyno safbwyntiau amrywiol.
"Back in the old days travelling to the UK usually meant a trip to just London. The modern tourist now knows better. A weekend in Wales can be a very exhilarating experience." - The India Tribune
Seven must see Welsh locations (Wales Online) Dyffryn Gardens wis votes as nation’s most Special Place (Wales Online)
An Australian went to Barry Island for the first time and this is what happened (Wales Online) Dramatic rise in foreign investment projects in Wales (BBC Wales)
Welsh MPs unite to press for a VAT for cut for the tourism industry (Wales Online) Michael Sheen hails project to reopen Wales' longest disused tunnel with 'huge potential for tourism' (Wales Online)
Welsh Tories call for major overhaul in Welsh tourism (Wales Online) Can you guess the Welsh landmarks, celebrities and foods Chinese tourists came up with these bizarre names for? (Wales Online)
Take a look at five of Wales’ most exciting archaeological discoveries in recent years (Wales Online) The 45 best beaches in Wales: The stunning sands you must visit this summer (Wales Online)
In Wales, a Toast to Dylan Thomas on His 100th Birthday (The New York Times) At the Hay Festival, Democratizing Inspiration (The New York Times)
The Welsh Strive to Keep Their Language (The New York Times) As Scots Weigh Independence, Wales Takes Note (The New York Times)
Following Trails at the Welsh Countryside: The British Cop Show ‘Hinterland’ Comes to Netflix (The New York Times) Napoleonic castle off the Welsh coast to be joined to mainland for the first time thanks to 330ft footbridge (Mail Online)
How Celtic Manor is the perfect venue to create your own piece of Ryder Cup magic (Mail Online) Is INLAND WALES the best surf spot on the planet? (Mail Online)
A mountain-biking escape in Carmarthenshire where you can wash off the mud in chalet comfort (Mail Online) Welsh Castle Appoints First Jester Since 13th Century (Huffington Post)
A town gone to the dog: The legend of a dog is an interesting diversion on a trip to a small town in Wales (The India Tribune) Watch: U.S. ambassador to Britain struggles to speak Welsh (The Washington Post)
Galleries: Wild weather lashes Welsh coast (The Adelaide Advertiser) Hop to it: a craft beer tour of north Wales (The Guardian)

Rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog Sefydlwyd y Pwyllgor ar 2 Mai 2012, a’i gylch gwaith yw craffu ar waith y Prif Weinidog ynghylch unrhyw fater sy’n ymwneud ag arfer swyddogaethau Llywodraeth Cymru. Prif dudalen y wefan Aelodaeth committee members cy Pynciau diweddar

Rôl Llywodraeth Cymru wrth Ddiogelu a Hyrwyddo’r Iaith Gymraeg (13 Mawrth 2015)

Gweld Trawsgrifiad | Gwylio ar Senedd.TV

Goblygiadau cyfansoddiadol y refferendwm yn yr Alban (09 Hydref 2014)

Gweld Trawsgrifiad | Gwylio ar Senedd.TV

Strategaeth 2010 Llywodraeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd (26 Mehefin 2014)

Gweld Trawsgrifiad | Gwylio ar Senedd.TV

Beth yw pwyllgor? Mae’r pwyllgorau yn un modd o alluogi’r Cynulliad i gyflawni ei swyddogaethau statudol a chyfansoddiadol. Mae craffu’n effeithiol ar waith y llywodraeth yn ganolog i waith unrhyw gorff democrataidd. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ymgymryd â’r gwaith hwn drwy nifer o bwyllgorau, sy’n cynnwys Aelodau o’r holl bleidiau gwleidyddol. Bydd Pwyllgorau’n argymell sut (er enghraifft) y gall polisiau Llywodraeth Cymru fod yn fwy cadarn a sut y gall ei gwariant fod yn fwy effeithiol, effeithlon a darbodus. Bydd Pwyllgorau hefyd yn gweithio gydag unigolion a sefydliadau mewn ffordd ragweithiol ac arloesol, a rheini’n unigolion a sefydliadau sy’n gallu mynegi safbwyntiau a phrofiadau pobl Cymru. Rhestr lawn o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Rhagor o wybodaeth am Brif Weinidog Cymru Y Gwir Anrh Carwyn Jones AC yw Prif Weinidog Cymru. Prif Weinidog Cymru yw pennaeth Llywodraeth Cymru, ac fe'i penodir gan Ei Mawrhydi y Frenhines yn unol ag enwebiad Aelodau'r Cynulliad. Mae cyfrifoldebau'r Prif Weinidog yn cynnwys:
  • Penodi'r Cabinet o Weinidogion Cymru, Dirprwy Weinidogion Cymru a'r Cwnsler Cyffredinol (gyda chymeradwyaeth Ei Mawrhydi) sy'n ffurfio Llywodraeth Cymru;
  • Cadeirio cyfarfodydd y Cabinet ac arfer swyddogaethau Llywodraeth Cymru;
  • Arwain y broses o ddatblygu a chyflenwi polisïau;