- Gweinidogion y Llywodraeth / Gweision Sifil, y mae angen iddynt gael eu hargyhoeddi ynghylch dilysrwydd argymhellion (gyda thystiolaeth o’u plaid / yn eu herbyn);
- Pobl sy’n cymryd rhan mewn ymchwiliad, sydd eisiau gwybod pa wahaniaeth y mae eu tystiolaeth / fewnbwn wedi’i wneud i gasgliadau’r Pwyllgor. Gall fod yn werth gofyn i bobl o’r fath sut y maent am i’r wybodaeth hon gael ei chyflwyno. Efallai y bydd rhai pobl am gael y wybodaeth wedi’i chyflwyno mewn fformat Hawdd i’w Ddarllen;
- Y cyhoedd yn ehangach - a allai fod â mwy o ddiddordeb gwybod ‘beth sy’n digwydd nesaf,’ na gwybod am yr hyn yr argymhellodd/ adroddodd y Pwyllgor. Bydd y bobl hyn yn gweld bod jargon yn anodd iawn i’w ddeall. Eu prif ddiddordeb fydd darganfod sut y gall ymatebion y Llywodraeth i waith craffu pwyllgor effeithio ar eu bywydau hwy. Efallai y bydd ateb y cwestiwn hwn yn gofyn am well rhwydwaith / cyswllt rhwng "y bobl sy’n ysgrifennu adroddiadau" a’r "bobl sy’n cyflawni’r argymhellion."
GovCampCymru 2015 #gccy15, Pierhead
Cyhoeddwyd 05/10/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/10/2015
Eleni, cynhaliodd GovCampCymru ei ail ddigwyddiad yn y Pierhead, sy’n rhan o ystâd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mae Caerdydd.
https://twitter.com/Sasha_Taylor/status/647691841966620672
Mae GovCamp yn ddigwyddiad lle mae pobl yn dod at ei gilydd i drafod, i greu ac arloesi, ac i edrych yn benodol ar sut y gall technoleg, syniadau modern a gwasanaethau cyhoeddus wella cymdeithas.
Cynhelir y digwyddiad GovCamp ar sail ‘anghynhadledd’, lle y penderfynir ar yr agenda gan bobl sy’n cynnig pynciau ar gyfer gweithdai neu drafodaethau ar y diwrnod.
Mae’r digwyddiad yng Nghymru yn cael ei gydlynu gan y Satori Lab, gyda chymorth ugeiniau o wirfoddolwyr a noddwyr.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cael trosolwg o’r hyn a drafodwyd ar y diwrnod, edrychwch ar Nodiadau’r Sesiwn Google Doc .
Os ydych yn gweithio yn y sector cyhoeddus a bod diddordeb gennych mewn cadw’r fflam arloesi a thrafodaeth i danio rhwng digwyddiadau blynyddol, mae Satori Lab wedi trefnu Sesiwn Bara Brith (a ddeilliodd o ganlyniad i un o’r sesiynau).
Roedd nifer o staff y Cynulliad yn bresennol yn y digwyddiad eleni - pob un â diddordeb mewn agweddau gwahanol ar ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Dyma eu sylwadau am y diwrnod.
Dean George, Rheolwr y Cyfryngau Digidol
Dyma fy mhrofiad cyntaf o ‘anghynhadledd’, ac fe wnes i fwynhau rhyddid y drafodaeth sydd ar gael i bawb sydd yno yn fawr. Mae’n sicrhau mai dim ond pobl sydd â gwir ddiddordeb sy’n cynnal deialog â chi a’ch bod, o ganlyniad, yn cael rhai syniadau rhyfeddol. Y peth gwych am anghynhadledd yw y gall y sgyrsiau gorau ddigwydd rhwng sesiynau, efallai wrth siarad dros baned o goffi. Nid yw’r rhain yn ‘seibiannau rhwydweithio’ a gaiff eu gorfodi, ond maent yn hamddenol braf ac yn ddadleuon difyr, ysgogol y bydd yn rhaid eich tynnu i ffwrdd oddi wrthynt ar adegau. Mae’n werth nodi hefyd bod pobl sy’n aberthu eu dydd Sadwrn yn sicr o deimlo rhywfaint o angerdd dros yr achos hwn.
Treuliais sesiwn y bore yn siarad am dechnoleg lleferydd-i-destun Cymraeg. Cysylltwch â Gareth Morlais (@melynmelyn) os oes gennych syniadau am hyn. Hefyd bûm yn gwrando ar sesiwn, dan arweiniad y Cynulliad, ar sut y gallem wneud cynnyrch pwyllgorau’r Cynulliad yn fwy deniadol i gynulleidfa ehangach. Mae’n ymddangos fod cael cyfrifon ar wahân ar gyfer Pwyllgorau gyda gwahanol gylchoedd gwaith ar Twitter yn cael ei groesawu’n fawr, ond mae angen i ni wneud rhagor i wneud yr ochr gofnodi hyd yn oed yn fwy deniadol. Efallai bod ein hadroddiadau yn y Llechen yn gam yn y cyfeiriad cywir.
Yn bendant mae ‘anghynhadledd’ o’r math hwn yn ffordd dda o wneud yn fawr o’ch amser i ffwrdd o’r ddesg, a byddwn i’n hoffi ei weld yn cael ei fabwysiadu’n eang ar draws y sector cyhoeddus. Beth am ddefnyddio’r dull ar gyfer eich diwrnod cwrdd i ffwrdd nesaf i staff!
Helia Phoenix, Uwch Reolwr y Cyfryngau Digidol
Hwn oedd fy nhrydydd digwyddiad GovCamp. Rydw i wedi bod i un yn Llundain a dau yng Nghymru. Efallai fy mod yn rhagfarnllyd, ond mae wedi bod yn llawer gwell gen i’r cynadleddau a gynhaliwyd yng Nghymru. Roedd cynnwys y digwyddiadau yn ddigon amrywiol i annog pobl i fynychu sesiynau ar bethau efallai na fyddant yn gwybod amdanynt, ac yn ogystal maent, wrth gwrs, yn ymdrin â’r cyd-destun Cymreig, sy’n eu gwneud yn wahanol i gynadleddau GovCamp yn Lloegr/y DU.
Mae siarad am sut i wella pethau, gyda phobl o Gymru a thu hwnt, yn ffordd wych o dreulio’r diwrnod!
Bûm yn bresennol mewn sesiynau diddorol drwy gydol y dydd, a sesiwn arbennig eleni oedd yr amser a dreuliwyd yn y dafarn ar ôl y sesiynau ffurfiol, yn cael eglurhad ar y blockchain gan Sym Roe o’r Clwb Democratiaeth a James Cattell o Swyddfa’r Cabinet.
Kevin Davies, Rheolwr Ymgysylltu â’r Cyhoedd
Aeth Helia a minnau i GovCampCymru y llynedd, a’i hoffi’n ddigon, nid yn unig i fynd eto, ond roeddem yn teimlo hefyd y byddai’n fuddiol iawn i gynnal GovCamp yn y Cynulliad Cenedlaethol, a chael mwy o bobl o’r Cynulliad i fod yn rhan o’r diwrnod. Y tro hwn, ymunodd un neu ddau o bobl o’r tîm ar-lein a thîm y cyfryngau cymdeithasol yn ein hadran, a chynrychiolwyr o’r timau Cyfieithu a Chofnodi, a Deddfwriaeth.
Roedd yn wych i fod yn rhan o’r digwyddiad unwaith eto. Y peth a oedd yn fy nharo y llynedd oedd pa mor wych ydoedd i gael cynifer o bobl gadarnhaol a gwybodus yn yr un ystafell ar yr un pryd, pobl a oedd yn ddigon angerddol i roi o’u hamser ar ddydd Sadwrn. Mae’n ffordd wych o rannu syniadau ymarferol - yn ogystal ag o fynd i ddadleuon ideolegol enfawr! Roedd yr awyrgylch yr un fath eleni, ac fel y llynedd, cafodd cymysgedd da iawn o faterion eu trafod, gan gynnwys hygyrchedd cynnyrch cofnodi pwyllgorau, sut i wneud cynnydd o ran yr agenda digidol yng Nghymru, hyrwyddo etholiadau, a dyfodol democratiaeth ... llawer o bethau i fynd i’r afael â hwy mewn gweithdai a barodd gwta bedair awr!
Tom Jackson, Clerc Tîm Cymorth Craffu
Roeddwn i’n cynnal gweithdy ar ‘Gofnodi Gwell? Gwella hygyrchedd o ran cynnyrch pwyllgorau. ‘ Nod gwreiddiol y sesiwn hon oedd ceisio cael amrywiaeth o syniadau ynglŷn â sut y gallem sicrhau bod cynnyrch craffu pwyllgorau yn fwy hygyrch / deniadol /yn haws ei ddefnyddio, gyda ffocws arbennig ar ffyrdd mwy arloesol o gyhoeddi gwybodaeth, a sut y mae llwyddiant y dulliau hynny’n cael eu gwerthuso. Fodd bynnag, yn unol â natur GovCamp, ni ddilynodd y drafodaeth y trywydd hwn yn benodol. Yn hytrach, un o themâu’r sesiwn oedd, mai problem fwy ar gyfer y Cynulliad oedd sut yr ydym yn dewis deunydd ar gyfer cynulleidfaoedd penodol, yn hytrach na sut y byddwn yn ei gyflwyno.
Awgrymodd y rhai a oedd yn bresennol bod tair cynulleidfa wahanol ar gyfer cynnyrch pwyllgorau: