Gweithdy UNSAIN

Cyhoeddwyd 07/11/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/11/2012

Ddydd Sadwrn 3 Tachwedd, trefnodd Kevin Davies, Rheolwr Allgymorth De Cymru weithdy ar gyfer aelodau UNSAIN. Cymerodd yr aelodau ran mewn gweithgareddau a oedd â’r nod o egluro’r hyn sy’n dod o dan reolaeth awdurdodau lleol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a San Steffan. Cawsant hefyd gyflwyniad ar hanes y Cynulliad, eglurhad o bwy yw eu Haelodau a sut y gallant ddod ynghlwm â gwaith y Cynulliad a chodi materion. Ar ôl y sesiwn, dywedodd Ryan Williams, Trefnydd Ardal UNSAIN: "Roedd aelodau ifanc UNSAIN ledled Cymru’n falch o gael y cyfle i allu ymgysylltu a chael gwybodaeth am eu Llywodraeth a’u Cynulliad Cenedlaethol a’r ffordd y gall datganoli eu helpu yn eu gwaith a sut y mae’n chwarae rhan yn ein bywydau bob dydd. Roeddent yn teimlo bod y gweithdy’n ddiddorol, yn addysgiadol ac yn hawdd i’w ddeall a chawsant hwyl ar yr un pryd. Mae aelodau ifanc UNSAIN yng Nghymru’n edrych ymlaen at roi’r hyn y maent wedi’i ddysgu ar waith yn y flwyddyn newydd.” Mae Tîm Allgymorth y Cynulliad yn darparu’r gwasanaeth hwn ledled Cymru. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Kevin Davies, Rheolwr Allgymorth De Cymru ar 02920 898 145 / kevin.davies2@cymru.gov.uk, neu Lowri Williams, Rheolwr Allgymorth Gogledd Cymru ar 01492 523 220 / lowri.williams@cymru.gov.uk.