Gwlad mewn Geiriau

Cyhoeddwyd 01/03/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/03/2017

Er mwyn dathlu Dydd Gŵyl Dewi, gwnaethom ofyn i gannoedd o bobl ddisgrifio beth y mae Cymru yn ei olygu iddyn nhw mewn dim ond un gair…

Gwnaethom wahodd ymwelwyr â’r Senedd i ysgrifennu eu geiriau ar gerdyn post a’i adael gyda ni. Gwnaethom hefyd ffilmio rhai gwirfoddolwyr hynod o wladgarol...

https://www.youtube.com/watch?v=vv26uQxNj5g Mae wedi bod yn wych gweld cymaint o eiriau yn dangos ystod o emosiynau, cysylltiadau a safbwyntiau. Mae’n ein hatgoffa am yr holl leisiau gwahanol y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn eu cynrychioli. Gwlad mewn geiriau / Wales in your words

Efallai ei fod hefyd wedi cadarnhau ambell beth yr oeddem ni’n ei wybod yn barod...

Nid yw’r tywydd yn dda iawn yng Nghymru... 

Roedd llawer o eiriau yn cyfeirio at hinsawdd enwog Cymru, gydag oer, llwyd, glawiog a gwlyb oll yn cael eu cynnig. Roedd un cerdyn post yn nodi’r gair cynnes, gyda nodyn ar ôl hynny’n egluro ‘ond nid y tywydd’. Rhag ofn i ni gamddeall. warmcard rainy-grey-cards

…ond mae’n brydferth ac rydych yn falch ohoni.

Ymhlith y geiriau mwyaf poblogaidd roedd amrywiadau ar y geiriau prydferth a balchder. Rhoddwyd geiriau fel trawiadol, golygfaol, mynyddoedd a gwyrdd hefyd, gan gyfeirio at dirwedd unigryw’r wlad. stunning-green pride-balchder

Mae Cymru yn wlad llawn hanes, diwylliant a chân... 

Roedd llawer o eiriau’n adlewyrchu treftadaeth gyfoethog Cymru, gyda nifer ohonoch yn dewis diwylliant, hanes, iaith, chwedlau, rygbi a cherddoriaeth. Er na ddewisodd neb pêl-droed, fe ddewisodd rhywun Bale! culture-rugby

Cymru yw eich cartref…

Cartref, adref a home yn Saesneg oedd y gair mwyaf poblogaidd ym mhob iaith. Cawsom lawer o eiriau cysylltiedig sy’n creu ymdeimlad o gartref a pherthyn, gan gynnwys: cymuned, hiraeth, ynghyd, croeso, etifeddiaeth, unedig, cariad, undod a gwreiddiau. home-circle

Roedd ambell syniad annisgwyl... 

Geiriau mwyaf anghyffredin a gafwyd... 'Heartbreak' – a oes stori y tu ôl i’r dewis yma? heartbreak card.png Llun o forfil  – i gynrychioli’r genhedlaeth emoji whale-drawing Ansbaradigaethus – gair doniol i’w dysgu yn Gymraeg sy’n golygu rhywbeth na allwch chi ei egluro! ansbaradiaga Mae’r cyfraniadau fideo arbennig hyn ar gael hefyd balchder-gif tardis-gif urdd-gif chef-gif

Mae Cymru yn sicr yn wlad beirdd...

Cawsom cymaint o wahanol eiriau. Edrychwch... wordgrid Cyfieithiadau o’r geiriau a gafwyd mewn ieithoedd eraill:
Gair Iaith Ystyr
 gujarati-word Gwjarati Goddefgar
 arabic-word Arabeg Paradwys
 greek-word Groegaidd Gonest y tu hwnt i onestrwydd
 hebrew-word Hebraeg Gartref
 chinese-word Tsieineeg Gwych
 hindi-word Punjabi Gartref

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynrychioli pawb sy’n byw yng Nghymru. Dysgwch fwy am sut y gallwch gymryd rhan yng ngwaith y Cynulliad a dweud eich dweud yng Nghymru. 

 Cysylltu â’ch Aelod Cynulliad 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnwys 60 Aelod Cynulliad. Mae pob person yng Nghymru yn cael ei gynrychioli gan bum Aelod Cynulliad: un Aelod etholaethol—sef eich ardal leol—a phedwar Aelod rhanbarthol. Dysgwch pwy sy’n eich cynrychioli chi drwy ddefnyddio ein hadnodd i chwilio am Aelod Cynulliad.

Cymryd rhan yn ymgynghoriadau’r pwyllgorau 

Mae gan y Cynulliad sawl pwyllgor sy’n cynnwys Aelodau Cynulliad o’r pleidiau gwahanol. Mae’r pwyllgorau’n edrych yn fanwl ar faterion amrywiol, h.y. iechyd, addysg a diwylliant. Maent yn gwneud hyn drwy ofyn am safbwyntiau’r cyhoedd a chasglu tystiolaeth gan arbenigwyr, elusennau a sefydliadau eraill. Ewch i’r adran Pwyllgorau ar ein gwefan i weld pa faterion sy’n cael eu trafod ar hyn o bryd.

Creu neu lofnodi deiseb

Mae deiseb yn ffordd o ofyn i’r Cynulliad Cenedlaethol ystyried unrhyw fater, problem neu gynnig y mae gan y Cynulliad neu Lywodraeth Cymru y pŵer i wneud rhywbeth amdano. Cewch weld y deisebau cyfredol neu greu deiseb newydd drwy ddefnyddio ein Gwasanaeth Deisebau.

Ymweld â’r Senedd a mynd ar daith 

Dewch i Fae Caerdydd i weld gwleidyddiaeth ar waith drosoch chi’ch hun! Gallwch wylio cyfarfod pwyllgor neu’r Cyfarfod Llawn o’r orielau cyhoeddus, mynd ar daith am ddim neu fwynhau diod yn ein caffi. Dysgwch fwy am ymweld â’n hystâd.

Addysg ac ymgysylltu â phobl ifanc

Drwy gysylltu pobl ifanc Cymru â gwaith y Cynulliad, rydym yn darparu cyfleoedd i blant, disgyblion, myfyrwyr a phobl ifanc sy’n ymwneud â grwpiau ieuenctid (o bob math) ddysgu am wleidyddiaeth Cymru a thrafod materion sy’n effeithio arnynt, drwy amrywiaeth o ddulliau cyfranogol a chynhwysol.Trefnwch ymweliad Allgymorth ar gyfer eich ysgol, coleg neu grŵp ieuenctid.
Dilyn y Cynulliad ar-lein