Gwyliwch: barn am brentisiaethau yng Nghymru

Cyhoeddwyd 28/06/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 28/06/2012

[youtube=http://www.youtube.com/watch?v=sCuXCzCrFU4&feature=youtu.be]Mae fideo newydd wedi cael ei gynhyrchu sy’n dangos cyflogwyr, prentisiaid, colegau a darparwyr hyfforddiant yn mynegi eu barn am brentisiaethau yng Nghymru. Cynhyrchwyd y fideo gan Dîm Allgymorth Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac fe’i dangoswyd i Bwyllgor Menter a Busnes y Cynulliad, sydd wedi bod yn ymchwilio i ba mor dda y mae’r system brentisiaeth yn gweithio yng Nghymru. Cafodd 43 o bobl eu cyfweld ar gyfer y fideo, a chodwyd nifer o’r pwyntiau a wnaethpwyd ganddynt gyda Jeff Cuthbert AC, Y Dirprwy Weinidog Sgiliau. Ymhlith y rhai a gafodd eu cyfweld oedd Arthur Norton, sydd ar hyn o bryd yn ymgeisio i fod yn brentis drwy ACO Training yn Abertawe, a John Lewis, prentis gyda Tata Steel ym Mhort Talbot. Dywedodd Arthur: “Credaf ei fod yn dda bod y Cynulliad yn ceisio cael adborth gan bobl, oherwydd dyma’r lle i gael dweud eich dweud, ar ddiwedd y dydd.” Roedd y fideo hefyd yn cynnwys cyfraniad gan John Lewis, prentis sy’n dysgu ei grefft gyda Tata Steel ym Mhort Talbot. Roedd John am i ysgolion ganolbwyntio mwy ar hybu cynlluniau prentisiaeth: “Ni soniodd yr ysgol am brentisiaethau fel y cyfryw. Efallai y byddai rhai o’m ffrindiau ysgol wedi bod yn fwy addas ar gyfer prentisiaethau pe byddent wedi cael eu hybu’n fwy yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’n debygol mai fi yw un o’r unig rai o’r ysgol i wneud prentisiaeth gyda Tata.” Rhagor o wybodaeth am ymchwiliad y Cynulliad i brentisiaethau: http://www.senedd.cynulliadcymru.org/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=3281