#HoliLlywydd - Y Llywydd, Elin Jones AC, yn ateb eich cwestiynau

Cyhoeddwyd 27/07/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/07/2016

Ar 2 Awst, bydd Elin Jones AC, y Llywydd, yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn sgwrsio â’r newyddiadurwraig Catrin Hâf Jones am yr heriau a chyfleoedd unigryw y mae’n eu hwynebu yn y Pumed Cynulliad. Bydd y Llywydd hefyd yn ateb cwestiynau’r gynulleidfa a chwestiynau a ofynnir drwy’r cyfryngau cymdeithasol. 1W Gellir gofyn cwestiwn ymlaen llaw neu ar y diwrnod, naill ai drwy ddefnyddio #HoliLlywydd / #AskLlywydd ar Twitter, neu drwy gyfathrebu ar dudalen Facebook y Cynulliad, lle y caiff y sesiwn ei darlledu’n fyw am 11.00.

Sut gallaf wylio?

Os byddwch yn yr Eisteddfod, gallwch wylio’r cyfweliad yn fyw am 11.00 ym mhabell y Cymdeithasau 1. Os na allwch fod yn bresennol, byddwn yn darlledu’r cyfweliad yn fyw yn Gymraeg a Saesneg ar ein cyfrifon Facebook: Facebook Cynulliad Cymru Facebook Assembly Wales Hefyd, gallwch wylio’r cyfweliad llawn ar Senedd.tv ar ôl y digwyddiad, ynghyd â thrawsgrifiadau.

Sut gallaf gyflwyno cwestiwn?

Mae sawl ffordd o ofyn cwestiwn i’r Llywydd:
  • Ar Twitter - Dilynwch @CynulliadCymru ar Twitter ac ateb unrhyw drydariadau sy’n ymwneud â’r pwnc hwn, neu defnyddiwch y hashnod #HoliLlywydd. Hefyd, mae croeso i chi anfon Neges Uniongyrchol atom os hoffech ei chadw yn gyfrinachol.
  • Ar Facebook - Hoffwch Dudalen Facebook y Cynulliad a gadael sylw ar statws perthnasol. Os na allwch weld statws perthnasol, gadewch sylw ar y dudalen gyda’r hashnod #HoliLlywydd.
  • E-bost - Gallwch anfon eich cwestiynau drwy’r e-bost at: cyfathrebu@cynulliad.cymru
  • Ar Instagram - Os gallwch fynegi barn mewn ffordd weledol a chreadigol, byddem wrth ein bodd o’i gweld. Tagiwch gyfrif Instagram y Senedd yn eich llun neu defnyddiwch yr hashnod #HoliLlywydd. Fel arall, gadewch sylw ar un o’n heitemau ar Instagram, eto gyda’r hashnod #HoliLlywydd
  • Ar YouTube - Beth am i chi ffilmio eich hunan yn gofyn eich cwestiwn ac yna anfon y linc atom drwy un o’r sianeli uchod?
  • Sylwadau - Gallwch adael sylw ar y blog hwn yr eiliad hon!

Angen syniadau?

Gall Cynulliad Cymru ddeddfu mewn 21 o feysydd datganoledig:
  • Amaethyddiaeth, coedwigaeth, anifeiliaid, planhigion a datblygu gwledig
  • Henebion ac adeiladau hanesyddol
  • Diwylliant
  • Datblygu economaidd
  • Addysg a hyfforddiant
  • Yr amgylchedd
  • Gwasanaethau tân ac achub a diogelwch rhag tân
  • Bwyd
  • Iechyd
  • Priffyrdd a thrafnidiaeth
  • Tai
  • Llywodraeth leol
  • Cynulliad Cenedlaethol Cymru
  • Gweinyddiaeth gyhoeddus
  • Lles cymdeithasol
  • Chwaraeon a hamdden
  • Trethiant
  • Twristiaeth
  • Cynllunio gwlad a thref
  • Dŵr ac amddiffyn rhag llifogydd
  • Y Gymraeg
Dyma ragor o lincs a all fod yn ddefnyddiol: Materion o Bwys i’r Pumed Cynulliad - Yn y cyhoeddiad hwn mae detholiad o faterion sy’n debygol o fod o bwys yn y Pumed Cynulliad, o’r diwydiant dur i ddyfodol deddfu yng Nghymru. Cymru a’r UE: Beth mae’r bleidlais i adael yr UE yn ei olygu i Gymru? - Mae ein Gwasanaeth Ymchwil yn egluro’r hyn a all ddigwydd yng Nghymru yn dilyn y bleidlais i Adael. Comisiwn newydd y Cynulliad yn cychwyn arni gyda strategaeth ar gyfer y Pumed Cynulliad - Erthygl newyddion am y strategaeth newydd ar gyfer y Pumed Cynulliad. Swyddogaeth y Llywydd - Gwybodaeth am swyddogaeth y Llywydd.

Rhagor am Elin Jones AC, y Llywydd

Elin Jones AC yw Llywydd presennol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Y Llywydd yw’r awdurdod pennaf yn y Cynulliad. Mae’n cadeirio cyfarfod y 60 Aelod Cynulliad yn y Cyfarfod Llawn, gan aros yn wleidyddol ddiduedd bob amser. Mae’r Llywydd hefyd yn weithredol o ran cynrychioli buddiannau’r Cynulliad a buddiannau Cymru yn genedlaethol, yn y DU ac yn rhyngwladol. Y Llywydd yw cadeirydd Comisiwn y Cynulliad, sef y corff sy’n sicrhau bod gan Aelodau’r Cynulliad y staff a’r adnoddau sydd eu hangen arnynt i gyflawni eu rolau yn effeithiol ar ran pobl Cymru. Prif swyddogaethau y Llywydd yw:
  • cadeirio’r Cyfarfod Llawn;
  • penderfynu ar faterion ynglŷn â dehongli neu gymhwyso Rheolau Sefydlog;
  • cynrychioli’r Cynulliad mewn trafodaethau ag unrhyw gyrff eraill, pa un a ydynt y tu mewn i’r Deyrnas Unedig neu’r tu allan iddi, mewn perthynas â materion sy’n effeithio ar y Cynulliad.
Gweler hefyd: Y Llywydd yn rhoi tystiolaeth i Bwyllgor y Cynulliad - Newidiadau y mae’r Llywydd yn awyddus i’w gwneud i Fil Cymru. Elin Jones yn egluro’r hyn y mae am ei gyflawni fel Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol - Cyfweliad â Wales Online ar yr hyn y mae’r Llywydd am ei gyflawni dros y pum mlynedd nesaf.

Y camau nesaf

Ar ôl casglu eich holl gwestiynau ynghyd, caiff rhai eu dewis i’r Llywydd eu hateb ar y dydd. Byddwn yn coladu’r rhain ac yn eu rhannu â Catrin Hâf Jones cyn y cyfweliad. Bydd hi yn ei thro yn eu defnyddio yn ei sgwrs ag Elin Jones AC, y Llywydd. Os byddwch yn yr Eisteddfod, gallwch ddod i wylio’r cyfweliad yn fyw; fel arall gallwch ei wylio yn fyw ar ein tudalennau Facebook. Wedyn, bydd y sgwrs ar gael ar-lein ar Senedd.TV. Byddwn yn rhoi gwybod i chi os caiff eich cwestiwn ei ateb. Cynhelir sgwrs rhwng y Llywydd a Catrin Hâf Jones ar 2 Awst am 11.00 yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Fenni. Edrychwn ymlaen at glywed oddi wrthych! Os byddwch yn yr Eisteddfod, gallwch wylio’r cyfweliad yn fyw am 11.00 ym mhabell y Cymdeithasau 1. Os na allwch fod yn bresennol, byddwn yn darlledu’r cyfweliad yn fyw yn Gymraeg a Saesneg ar ein cyfrifon Facebook: Facebook Cynulliad Cymru Facebook Assembly Wales Hefyd, gallwch weld y cyfweliad llawn ar Senedd.tv ar ôl y digwyddiad, ynghyd â thrawsgrifiadau. Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg