Gardd ar ystâd y Senedd

Gardd ar ystâd y Senedd

"Hwyl fawr, garbon” Sut y mae’r Senedd yn amcanu i fod yn ddi-garbon net erbyn 2030

Cyhoeddwyd 24/11/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 24/11/2021   |   Amser darllen munudau

Mae’r Senedd yn arwain y ffordd ymysg cyrff seneddol yn y DU o ran ein cynaliadwyedd a’n perfformiad amgylcheddol.

Fel un o’r sefydliadau cyhoeddus mwyaf blaenllaw yng Nghymru, rydym yn cydnabod ein cyfrifoldeb i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd ac rydym yn gweithredu mewn modd amgylcheddol gyfrifol ym mhob un o'n gweithgareddau.

Rydym yn bwrw golwg yma ar yr hyn y mae Comisiwn y Senedd yn ei wneud yn erbyn rhai o’r targedau a nodwyd gan COP26 a’r hyn rydym yn gobeithio’i gyflawni erbyn 2030.

Mae’r gynhadledd COP26 wedi nodi’r hyn sydd angen digwydd i gyflawni’r targedau yng Nghytundeb Paris a Chonfensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd.

Roedd tua 300,000 o gynrychiolwyr a 200 o arweinwyr y byd yn bresennol yn y gynhadledd yn Glasgow, ac ystyriwyd y trafodaethau fel y cyfle olaf i gyflawni’r ymrwymiadau i gadw’r cynnydd yn nhymheredd y byd i 1.5-2°C.

Roedd yr uwchgynhadledd yn trafod amrywiaeth o themâu, gan gynnwys trafnidiaeth, natur, ynni, rhywedd, addasu'r hinsawdd a grymuso ieuenctid, ond roedd ganddi bedwar prif nod:

  1. Lliniaru: Sicrhau net sero byd-eang erbyn canol y ganrif a chadw 1.5 gradd o fewn cyrraedd
    Addasu: addasu ar frys i amddiffyn cymunedau a chynefinoedd naturiol
  2. Cyllid: Er mwyn cyflawni’r ddau nod cyntaf, mae’n rhaid i wledydd datblygedig gadw eu haddewid i roi o leiaf $100bn o gyllid hinsawdd y flwyddyn ar waith erbyn 2020.
  3. Cydweithredu: dim ond drwy gydweithio y mae modd wynebu heriau’r argyfwng hinsawdd.

Arwain y ffordd o ran lleihau carbon

Rydym newydd lansio ein trydedd Strategaeth Carbon Niwtral, Hwyl fawr i Garbon, gydag ymrwymiad uchelgeisiol i fod yn garbon niwtral net erbyn 2030, y corff seneddol cyntaf yn y DU i wneud hynny.
Gan adeiladu ar lwyddiant ein dwy strategaeth gyntaf – mae ein hôl-troed carbon bellach hanner y maint yr oedd ar y dechrau – mae Hwyl fawr i Garbon yn amlinellu ein targedau tymor byr, canolig a hir.
Dyma rai o’n cerrig milltir allweddol.

Targedau tymor byr (2021-2023)

Byddwn yn arbed tua 240 o dunelli o garbon drwy wneud arbedion effeithlonrwydd yn gynnar yn y broses. Maent yn cynnwys y mesurau a ganlyn:

  • Newidiadau i ymddygiad staff a chynnal a chadw da
  • Gwelliannau i’n tri adeilad: Tŷ Hywel, y Senedd a’r Pierhead
  • Offer mesur a meddalwedd monitro ychwanegol
  • Goleuadau LED: parhau i ailosod ac adolygu rheolaethau

Targedau tymor canolig

Arbed 331 o dunelli o garbon y flwyddyn, yn ôl amcangyfrif, a hynny drwy:

  • Adnewyddu’r unedau trin aer
  • Cysylltu â rhwydwaith gwresogi ardal Caerdydd
  • Symud Tŷ Hywel yn ôl i awyru goddefol
  • Gosod paneli solar ar y Senedd a Thŷ Hywel

Targedau tymor hir (erbyn 2030)

Arbed 10-92 o dunelli o garbon y flwyddyn, yn ôl amcangyfrif, a hynny drwy’r canlynol:

  • Gosod pympiau gwres ffynhonnell aer ar gyfer ein cyflenwad dŵr poeth
  • Newid ein hawliadau teithio a chynhaliaeth i flaenoriaethu teithio mewn cerbydau trydan.

Gallwch ddarllen y strategaeth lawn yma: Strategaeth Carbon Niwtral: 2021 - 2030

 

Gwella bioamrywiaeth ar ein hystâd

Er ein bod yn gyfyngedig iawn gyda gofod awyr agored o amgylch yr ystâd seneddol, rydym wedi gwneud gwelliannau sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf i wella bioamrywiaeth.

Rydym wedi cael llain gardd, blychau adar a choed ffrwythau ers cryn amser, ond yn ddiweddar rydym wedi gwella ardal yr ardd i'w gwneud yn fwy deniadol i beillwyr ac wedi ychwanegu pwll bach i gynnal infertebratau. Rydym wedi newid y ffordd yr ydym yn rheoli'r llain o dir ochr yn ochr â'r Senedd i annog tyfiant blodau gwyllt - mae bellach hyd yn oed yn cefnogi tegeirianau.

Rydym ni wedi ychwanegu blychau gwenoliaid du i do Tŷ Hywel i ddarparu cartref i'r adar pwysig hyn sy'n bwydo ar bryfed dros Fae Caerdydd, a bellach mae gennym dri chwch gwenyn llewyrchus ar do'r Pierhead. Yn dilyn cefnogaeth gan RSPB a Bug Life, rydym hyd yn oed wedi dod yn safle Urban Buzz.

Buddsoddi yn ein hadeiladau

Mae Senedd a Chomisiwn y Senedd yn gweithredu mewn pedwar adeilad – Tŷ Hywel, y Senedd ac adeiladau'r Pierhead ym Mae Caerdydd a swyddfa fach ym Mae Colwyn. Mae'r adeiladau hyn yn gymysgedd o asedau y mae'r Senedd yn berchen arnynt yn llwyr neu sydd ar brydles. Adeiladwyd Tŷ Hywel ddechrau'r 1990au ac mae'n adeilad ar gynllun agored yn bennaf, sy'n darparu swyddfeydd i tua 700 o staff ar y pum llawr.

Mae adeilad eiconig y Senedd yn cynnwys y siambr drafod ac mae wedi'i adeiladu i fodloni safonau Rhagorol BREAAM, gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnolegau ynni adnewyddadwy ar gyfer gwresogi, cywain dŵr glaw a systemau awyru naturiol cymysg ar gyfer oeri. Mae'r Pierhead yn adeilad rhestredig Gradd 1 a adeiladwyd yn 1897, ac mae'n un o dirnodau hanesyddol mwyaf cyfarwydd Caerdydd.

Mae ein hadeiladau wrth galon ein strategaeth lleihau carbon. Mae'r ffordd yr ydym yn defnyddio, cynnal a gwella'r adeiladau yn greiddiol i sicrhau llwyddiant parhaus ac i feithrin amgylcheddau gwaith mwy cynaliadwy. Mae’r buddsoddiad yn ein hadeiladau i gyflawni hyn i’w weld yn y targedau tymor byr, canolig a hir uchod.

Gwneud i bethau ddigwydd

Rydym yn gwybod na allwn gyflawni ein gweledigaeth ar ein pen ein hun. Mae angen i ni wrando a dysgu oddi wrth ein holl randdeiliaid gan y bydd y rhai sy'n defnyddio'n hystâd a'r rhai sy'n ymweld â hi, fel ei gilydd, yn meithrin Senedd amgylcheddol gynaliadwy'r dyfodol.

Rydym eisiau i bobl fod yn falch o weithio mewn Senedd ac ymweld â Senedd sy'n gyfrifol ac sy'n gofalu am yr amgylchedd, yn ogystal â sicrhau bod ein gwerthoedd ac agweddau cyffredin, o ran adnabod a rheoli ein heffeithiau mwyaf, yn cael eu cyfrif.

Beth nesaf? Rhannu’r diweddaraf â chi

Rydym yn ymrwymedig i fod yn sefydliad agored a thryloyw. O gofio ein safle a’n dylanwad fel corff democrataidd allweddol, mae disgwyl i ni arwain drwy esiampl o ran adrodd yn gyhoeddus ac yn dryloyw ar ein gweithgareddau i hyrwyddo ymgysylltu, ac mae rhwymedigaeth arnom i fod yn atebol am ein perfformiad o ran cynaliadwyedd.

I gael rhagor o wybodaeth am gynaliadwyedd yng Nghomisiwn y Senedd Commission, gweler: https://senedd.cymru/comisiwn/cynaliadwyedd/


Mae ein Hadroddiad Blynyddol ar Gynaliadwyedd yn trafod perfformiad amgylcheddol y flwyddyn flaenorol, cynnydd yn erbyn targedau, a’r hyn rydym yn ei gynllunio ar gyfer y dyfodol.


Mae ein trydedd Strategaeth Lleihau Carbon, Hwyl fawr i Garbon, yn adeiladu ar ein gwaith blaenorol ac yn datgan beth yw ein hamcan terfynol.


Mae ein polisïau cynaliadwyedd yn gosod ymrwymiad lefel uchel i sicrhau ein bod yn defnyddio adnoddau’n ddoeth, yn sicrhau gwelliant ac yn cyflawni ein nodau strategol.


Mae rhagor o wybodaeth yma am waith ein Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith.

Mae rhagor o wybodaeth am COP26 yn erthygl ein Gwasanaeth Ymchwil: COP26: Nawr yw’r Amser i Weithredu.