Cynaliadwyedd

Cyhoeddwyd 08/12/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 18/03/2024   |   Amser darllen munudau

Mae'n amcan gan Senedd Cymru i fod yn esiampl o ran perfformiad amgylcheddol a chynaliadwyedd.  Fel un o'r sefydliadau cyhoeddus mwyaf blaenllaw yng Nghymru, rydym yn cydnabod ein cyfrifoldeb i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd ac rydym yn gweithredu mewn modd amgylcheddol gyfrifol ym mhob un o'n gweithgareddau.

 

Hwyl fawr i Garbon

Croeso i'n trydedd Strategaeth Lleihau Carbon. Rydym yn gobeithio mai hon fydd ein holaf.

Dyna ni, rydym ni wedi'i ddweud, ac rydym ni wedi ein cyffroi. Cyffrous i adeiladu ar y gwaith blaenorol rydym ni wedi'i wneud a nodi pen ein taith. Rydym wedi cael dwy strategaeth lwyddiannus cyn yr un hon, ac rydym yn gweithredu ar hanner yr ôl troed carbon a oedd gennym pan ddechreuon ni, ond ni allwn fynd ymlaen am byth. Efallai y byddwn yn diweddaru'r Strategaeth hon trwy gydol ei hoes wrth i dechnolegau a blaenoriaethau newydd godi, ac yn sicr byddwn yn gosod nodau cynaliadwyedd ar ôl iddi orffen, ond ni allwn barhau i leihau carbon am byth.

Strategaeth Carbon Niwtral, pdf

 

 

Hadroddiad Blynyddol ar Gynaliadwyedd

Mae ein Hadroddiad Blynyddol ar Gynaliadwyedd yn trafod perfformiad amgylcheddol y flwyddyn ddiwethaf, cynnydd yn erbyn targedau, a beth rydym wedi’i gynllunio ar gyfer y dyfodol.

Hadroddiad 2022-23

Hadroddiad 2021-22

Hadroddiad 2020-21

Hadroddiad 2019-20

 

Ein hadeiladau

Mae Senedd a Chomisiwn y Senedd yn gweithredu mewn pedwar adeilad – Tŷ Hywel, y Senedd ac adeiladau'r Pierhead ym Mae Caerdydd a swyddfa fach ym Mae Colwyn.  Mae'r adeiladau hyn yn gymysgedd o asedau y mae'r Cynulliad yn berchen arnynt yn llwyr neu sydd ar brydles.  Adeiladwyd Tŷ Hywel ddechrau'r 1990au ac mae'n adeilad ar gynllun agored yn bennaf, sy'n darparu swyddfeydd i tua 700 o staff ar y pum llawr.  Mae adeilad eiconig y Senedd yn cynnwys siambr y Cynulliad ac mae wedi'i adeiladu i fodloni safonau Rhagorol BREAAM, gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnolegau ynni adnewyddadwy ar gyfer gwresogi, cywain dŵr glaw a systemau awyru naturiol cymysg ar gyfer oeri.  Mae'r Pierhead yn adeilad rhestredig Gradd 1 a adeiladwyd yn 1897, ac mae'n un o dirnodau hanesyddol mwyaf cyfarwydd Caerdydd.

Tystysgrifau Ynni i'w harddangos

Mae ein hadeiladau wrth galon ein strategaeth lleihau carbon ac maent yn rhan o bortffolio bach ond heriol.  Mae'r ffordd yr ydym yn defnyddio, cynnal a gwella'r adeiladau yn greiddiol i sicrhau llwyddiant parhaus ac i feithrin amgylcheddau gwaith mwy cynaliadwy.  Yn wir, mae dyfodol lle caiff adnoddau eu defnyddio'n effeithlon yn dibynnu ar gael mwy o'n hadeiladau gan ddefnyddio llai.  Gallwch weld ein Tystysgrifau Ynni ar gyfer pob adeilad isod.

Tystysgrif Tŷ Hywel

Tystysgrif y Senedd

Tystysgrif y Pierhead 

 

Gwneud iddo ddigwydd

Rydym yn gwybod na allwn gyflawni ein gweledigaeth ar ein pen ein hun.  Mae angen i ni wrando a dysgu oddi wrth ein holl randdeiliaid gan y bydd y rhai sy'n defnyddio'n hystâd a'r rhai sy'n ymweld â hi, fel ei gilydd, yn meithrin Senedd amgylcheddol gynaliadwy'r dyfodol. Rydym eisiau i'n gweithwyr a'n hymwelwyr fod yn falch o weithio mewn Cynulliad ac ymweld â Senedd sy'n gyfrifol ac sy'n gofalu am yr amgylchedd yn ogystal â sicrhau bod ein gwerthoedd ac agweddau cyffredin, o ran adnabod a rheoli ein heffeithiau mwyaf, yn cael eu cyfrif.   

 

Rhoi gwybodaeth i chi

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad agored a thryloyw.  O ystyried ein sefyllfa a'n dylanwad fel corff democrataidd allweddol, mae disgwyl i ni arwain drwy esiampl wrth adrodd yn gyhoeddus ac yn dryloyw ar ein gweithgareddau i hyrwyddo ymgysylltiad ac mae gennym ddyletswydd i fod yn atebol am ein perfformiad o ran cynaliadwyedd.

Mae ein Cynaliadwyedd Adroddiad Blynydd diweddaraf ynghyd â'r holl adroddiadau blaenorol ar gael i'w llwytho, ac maent yn rhoi trosolwg cynhwysfawr ar ein dull o reoli pob un o'n heffeithiau amgylcheddol allweddol, manylion am ein perfformiad a chrynodeb o'n hymrwymiadau yn y dyfodol.

Mae ein polisïau cynaliadwyedd yn rhoi ymrwymiad ar lefel uchel i sicrhau ein bod yn defnyddio adnoddau'n ddoeth, yn hybu gwelliant ac yn cyflawni ein nodau strategol.

 

 Ein heffeithiau

Ynni, o bell ffordd, yw ein heffaith amgylcheddol uniongyrchol fwyaf.  Yn wir, mae'n cyfrif am 80% o gyfanswm ein hôl troed carbon.  Mae hyn wedi rhoi ffocws clir i ni, a thros y blynyddoedd, rydym wedi cymryd camau breision i leihau ein defnydd a'r carbon cysylltiedig, gan arbed arian ar yr un pryd.  Nid yw hynny i ddweud ein bod wedi anghofio am yr effeithiau eraill, o bell ffordd.  Rydym yn gweithio'n galed i sicrhau nad ydym yn anfon gwastraff i safleoedd tirlenwi (ac mae'r nod hwnnw o fewn cyrraedd) ac rydym yn ysgogi effeithlonrwydd mewn teithio cynaliadwy. Rydym yn ymwybodol iawn y gallwn wneud rhagor i ddeall effeithiau ein cynnyrch a'n gwasanaethau drwy ymgysylltu â'n cadwyn gyflenwi.  Fodd bynnag, yn anad dim, rydym yn canolbwyntio ar sicrhau y gallwn ddarparu ystâd rhagorol, cynaliadwy ar gyfer y Cynulliad a fydd yn ysbrydoli eraill i ddysgu, ymgysylltu a hyrwyddo ein gwaith.

 

Gwobrau cynaliadwyedd

Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi bod yn falch o'r gydnabyddiaeth a gawsom am fynd i'r afael â lleihau ein hôl troed carbon uniongyrchol.  Mae tystiolaeth o hynny mewn nifer o anrhydeddau a restrir isod:

Gwobrau Rheoli Cyfleustodau Cynaliadwy 2010
Enillydd – Sefydliad sector cyhoeddus mwyaf cynaliadwy – Llywodraeth

Gwobrau Cynaliadwyedd y Sector Cyhoeddus 2011
Yn Ail - Sefydliad sector cyhoeddus mwyaf cynaliadwy – Llywodraeth

14
Enillydd - Sefydliad sector cyhoeddus mwyaf cynaliadwy – Llyeth

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am waith cynaliadwyedd y Senedd, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion isod:

Y Rheolwr Cynaliadwyedd
Comisiwn Senedd Cymru
Tŷ Hywel
Caerdydd
CF99 1SN

Ffôn: 0300 200 7396
E-bost: cynaliadwyedd@senedd.cymru