Hwyl yr Haf yn y Senedd

Cyhoeddwyd 06/09/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/09/2016

 

Gareth Coombes, rheolwr teithiau tywys yn y Senedd, yn sôn am bleserau a heriau’r gwaith o drefnu penwythnos o Hwyl i’r Teulu yn y Senedd, cartref Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mae Caerdydd.

Y peth cyntaf a ddaw i’r meddwl, mae’n debyg, wrth feddwl am y Senedd yw’r Cyfarfod Llawn, y cyfarfod lle mae’r 60 o Aelodau’r Cynulliad yn gwneud deddfau yng Nghymru, yn trafod materion Cymru, yn holi’r Prif Weinidog ac yn gwneud yn siwr bod Llywodraeth Cymru yn gwneud ei gwaith. Yr ail beth y byddech yn meddwl amdano, o bosibl, yw’r tywysydd golygus sy’n gweithio yno (haha!), ond efallai mai’r peth olaf y byddech yn ei ddychmygu yw y gallai’r Senedd hefyd droi’n fan chwarae enfawr ar gyfer plant a phobl ifanc. Capture   Wel, dyna’n union a ddigwyddodd y penwythnos diwethaf! I ddathlu Gŵyl Harbwr Bae Caerdydd ac fel parhad o ddathliadau 10fed pen-blwydd y Senedd eleni, cynhaliwyd penwythnos o Hwyl i’r Teulu i gyd. Roedd y gweithgareddau’n cynnwys chwarae meddal, gorsaf Lego, sgitls, paentio wynebau ac ardal gwneud crefftau. Y diwrnod cynt, roeddwn i’n nerfus iawn, yn meddwl na fyddai neb yn dod i’r digwyddiad ac y byddwn i’n chwarae Lego ar fy mhen fy hun drwy’r dydd! Bûm yn cadw’n brysur drwy osod yr holl weithgareddau, gwneud yn siŵr bod y teganau yn y lle cywir, bod gan y paentwyr wynebau fyrddau a bod y cacennau cri yn ddigon blasus (cymerais y swydd hon yn ddifrifol iawn, a blasu llawer ohonynt, dim ond i wneud yn siŵr eu bod yn iawn wrth gwrs!) a bod popeth arall yn iawn. Y noson cynt, pan oedd pawb bron wedi mynd adref, cerddais o gwmpas i gael cip olaf yr hyn yr oeddem wedi’i greu yn yr adeilad, a theimlwn yn gyffrous am y dyddiau a oedd i ddod. Dechreuodd y penwythnos yn dawel, ac roedd y tywydd yn ddigon diflas. Cyn gynted ag y daeth yr haul i’r golwg, fodd bynnag, gwyddwn y byddai Bae Caerdydd yn prysuro, ac wrth gwrs, fe ddaeth heidiau o bobl yma! FullSizeRender (2) Un o’r gweithgareddau mwyaf poblogaidd dros y penwythnos (ac am reswm da) oedd y pwll peli yng nghanol yr ystafell. Un o’n cyfrifoldebau ni’r staff oedd sicrhau nad oedd y peli yn rholio’n rhy bell, a’u rhoi’n ôl yn y pwll peli. Gwaith digon anodd ac ailadroddus, cofiwch! Ar ddiwrnod ola’r penwythnos, fe es ati i dacluso’r pwll peli am y tro olaf, a rhoi dwy neu dair pêl ar y tro yn ôl yn eu priod le, pan welais, o gornel fy llygaid, fachgen bach yn rhedeg mor gyflym ag y gallai tuag at y man chwarae meddal o ben draw’r ystafell. Roedd popeth, ar yr adeg hon, yn digwydd fel cyfres o symudiadau araf. Roedd y bachgen bach yn agosáu, nid oedd dim y gallwn i ei wneud, a chyn y gallwn ymateb o gwbl, fe neidiodd, mor uchel ag y gallai, a glanio, fel neidiwr mewn cystadleuaeth naid hir yn y Gemau Olympaidd, yng nghanol y pwll peli. Eto, fel pe baent mewn ffilm wedi’i harafu, gwelwn oddeutu 50 o beli yn tasgu allan o’r pwll i bob cyfeiriad posibl ar y llawr llechi Cymreig, a chan wybod fy mod wedi colli’r frwydr, ‘doedd dim i’w wneud ond rhoi fy mhen yn fy nwylo, gorffwys ar y man chwarae meddal, a chwerthin! IMG_3520Ar gyfer hunluniau amrywiol, defnyddiwyd #SeneddSelfie ar Twitter ac Instagram drwy gydol y penwythnos, fel y gallai ein gwesteion rannu eu profiadau gyda ni a phawb. Tynnwyd lluniau gwych, ac roedd yn hyfryd gweld pawb yn gwenu’n braf ynddynt. Dringodd nifer o bobl i’r gadair lan môr enfawr y tu allan i’r Senedd, a gwelwyd lluniau gwych o blant gyda’u hwynebau wedi’u paentio, yn Llewod a glöynnod byw rif y gwlith! Yn gyffredinol roedd y penwythnos yn llwyddiant mawr, gyda thros 3,500 o bobl yn ymweld â’r Senedd dros y tri diwrnod! Roedd yn ymddangos bod pawb yn mwynhau cymaint ag y gwnes i. Hoffwn ddiolch yn fawr i bawb am ddod draw – welwn ni chi eto y flwyddyn nesaf!  
Y Senedd yw cartref Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae ar agor i’r cyhoedd saith diwrnod yr wythnos, ac mae ei dyluniad unigryw a’i phensaernïaeth anhygoel yn denu ymwelwyr o bob cwr o’r byd, ac yn 2015 dyfarnwyd Tystysgrif Rhagoriaeth Trip Advisor i’r adeilad. Mae teithiau o amgylch y Senedd ar gael am ddim bob dydd, ac mae dewis o ddiodydd a lluniaeth ar gael i’w prynu o Gaffi’r Oriel. Gallwch hefyd gael gwybod pwy yw eich Aelodau Cynulliad a sut y maent yn cynrychioli eich buddiannau yn y Senedd. Os byddwch yn ymweld yn ystod yr wythnos byddwch hyd yn oed yn gallu gwylio’r gweithgareddau gwleidyddol yn datblygu, fel y maent yn digwydd, o Oriel Gyhoeddus y Siambr, sef siambr drafod y Senedd. Os hoffech drefnu taith (ni allaf warantu mai gyda Gareth y bydd y daith), ffoniwch 0300 200 6565, anfonwch neges e-bost at cysylltuâ@cynulliad.cymru neu galwch heibio’r Senedd i gael rhagor o fanylion.

Mae’r Senedd ar agor:

Dyddiau’r wythnos – yn ystod tymor y Cynulliad Dydd Llun a dydd Gwener 09.30 – 16:30, dydd Mawrth a dydd Mercher 8.00 – tan ddiwedd busnes Dyddiau’r wythnos – yn ystod y toriad Dydd Llun i ddydd Gwener 9.30 – 16.30 Dydd Sadwrn, dydd Sul a Gwyliau Banc (drwy’r flwyddyn) 10:30-16:30.  (Noder, bydd yr ymwelwyr olaf yn dod i mewn 30 munud cyn yr amser cau) Mae rhagor o wybodaeth i ymwelwyr, gan gynnwys gwybodaeth i rai â chyflwr ar y sbectrwm awtistig i’w gweld ar ein gwefan. Tudalen Trip Advisor ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Tudalen Facebook y Senedd. Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg