Hynt a helynt prosiect Cylchffordd Cymru a'r penderfyniadau a wnaed yn ei gylch gan Lywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd 23/05/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 23/05/2018

Cyfweliad â Nick Ramsay AC, Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn cyhoeddi ei adroddiad ar ei ymchwiliad i gyllid cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiect Cylchffordd Cymru. Beth sbardunodd y Pwyllgor i ymchwilio i'r mater penodol hwn? Cafwyd tipyn o ddadlau ynghylch y cyllid cychwynnol a ddarparwyd ar gyfer prosiect Cylchffordd Cymru, a mynegwyd safbwyntiau gwahanol ar y ddwy ochr ynghylch a oedd y prosiect yn syniad da ai peidio. Penderfynodd yr Archwilydd Cyffredinol gynnal ei ymchwiliad ei hun i'r modd y cafodd yr arian ei wario, ac fe dynnodd ei adroddiad sylw at nifer o bryderon a nifer o feysydd yr oedd angen ymchwilio iddynt yn fwy manwl, yn ei farn ef. Yn sgil hynny, penderfynodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ei bod yn werth ymchwilio i'r prosiect. Canolbwyntiodd ymchwiliad y Pwyllgor ar y modd y gwnaed penderfyniadau o ran cyllido'r prosiect, ac nid ar egwyddorion prosiect Cylchffordd Cymru ei hun. Ym marn y Pwyllgor, pe bai'r prosiect wedi mynd yn ei flaen, byddai wedi bod yn ffynhonnell o botensial mawr i Gymru ac i'r broses o ddatblygu'r economi. Yn sicr, roedd agweddau ar y prosiect yr oeddem yn teimlo y gallent fod wedi sbarduno gweithgarwch datblygu economaidd a chreu swyddi i bobl mewn rhai o'r mannau tlotaf yng Nghymru. Felly, nid oeddem yn gwrthwynebu'r prosiect yn ei hanfod mewn unrhyw ffordd. Nid rôl y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yw dweud wrth Lywodraeth Cymru beth ddylai neu na ddylai ei wneud. Yn y pendraw, caiff y Llywodraeth ei hethol gan bobl Cymru, ac mae nifer o faterion sy'n benderfyniadau polisi i'r Llywodraeth eu gwneud, yn hytrach na phenderfyniadau i'r Pwyllgor. Fodd bynnag, rôl y Pwyllgor yw sicrhau ei bod yn bosibl cyfiawnhau unrhyw benderfyniad a wneir gan Lywodraeth Cymru i weithredu polisi penodol, a bod y gost o weithredu'r polisi yn cynrychioli gwariant effeithlon o'r arian hwnnw. Rydym hefyd yn ystyried materion ehangach sy'n gysylltiedig â'r penderfyniadau polisi a wneir gan weision sifil o dan arweiniad y Gweinidog.   Beth oedd y themâu allweddol a ddaeth i'r amlwg yn ystod yr ymchwiliad? Cawsom ein synnu gan ddull Llywodraeth Cymru o weithredu'r prosiect. Cafodd y broses hon ei gweithredu dros gyfnod sylweddol o amser, ac roedd y modd y cafodd y tir ei dynnu o dan draed y cwmni mor hwyr yn y broses yn syndod inni. Gwnaed y penderfyniad hwn ar sail cwestiynau technegol yn hytrach nag ar sail y broses diwydrwydd dyladwy y mae gofyn i'r Llywodraeth ei dilyn. Yn ystod ein hymchwiliad, gwnaethom ystyried pwy yn rhengoedd Llywodraeth Cymru wnaeth y penderfyniadau dan sylw ar adegau penodol, a phwy wnaeth awdurdodi'r penderfyniadau hynny. Er enghraifft, mewn perthynas â phrynu FTR (cwmni beiciau modur a oedd wedi'i leoli yn Swydd Buckingham), nid oeddwn yn gallu canfod proses benderfynu briodol mewn perthynas â rheoli gwariant yr arian hwnnw, ar y prosiect hwnnw, yn y blynyddoedd diwethaf.   Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi sicrwydd inni ar sawl achlysur fod gwersi wedi'u dysgu o ran rheoli arian cyhoeddus Cymru mewn modd effeithiol, ac mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi craffu ar sawl achos yn y gorffennol lle mae arian cyhoeddus wedi cael ei golli. Yn sgil prosiect Cylchffordd Cymru, lle gwariwyd mwy na £9 miliwn mewn arian cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru cyn iddi roi terfyn ar ei chefnogaeth, a yw'r Pwyllgor o'r farn bod Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau bod y gwersi hyn yn cael eu dysgu a'u hymgorffori? Roedd y ffaith bod arian cyhoeddus wedi cael ei wario ar y fath raddfa cyn i Lywodraeth Cymru wneud penderfyniad i roi terfyn ar ei chefnogaeth wedi peri pryder inni. Pe bai'r prosiect wedi dwyn ffrwyth, a phe bai wedi arwain at fuddion yn y pendraw, byddai wedi bod yn bosibl cyfiawnhau gwario'r arian hwnnw. Fodd bynnag, yn amlwg, fel y mae pethau'n sefyll ar hyn o bryd, nid yw'n bosibl cyfiawnhau gwario'r arian hwnnw. Credwn fod Llywodraeth Cymru wedi dysgu gwersi o ganlyniad i'r hyn a ddigwyddodd, ac mae wedi rhoi sicrwydd inni na fydd sefyllfa o'r fath yn codi eto yn y dyfodol. Credwn fod angen tynhau'r llinellau cyfathrebu yn sylweddol. Er enghraifft, daeth i'r amlwg bod sefyllfaoedd wedi datblygu lle nad oedd modd i swyddogion ddweud a oedd Edwina Hart, Gweinidog yr Economi ar y pryd, yn ymwybodol o'r penderfyniadau ariannu a oedd yn cael eu gwneud. Nawr, nid yw hyn yn golygu nad oedd hi'n ymwybodol ohonynt, ond nid oedd llwybr papur ar gael i brofi hynny. Mewn unrhyw sefydliad, mae angen llwybr papur sy'n dilyn hynt yr arian sy'n cael ei wario. Wrth wario arian cyhoeddus, yn enwedig ar y raddfa hon, mae hynny'n bwysig iawn.   Mae'r adroddiad ei hun yn cynnwys 13 o argymhellion, ond beth yw'r maes pwysicaf y mae angen canolbwyntio arno, yn eich barn chi? Pryd bynnag y bydd prosiect yn cael ei gymeradwyo, mae proses a elwir yn broses diwydrwydd dyladwy yn cael ei chynnal yn y cyfnod cychwynnol. Er enghraifft, ar hyn o bryd mae proses o'r fath yn digwydd—neu'n mynd i ddigwydd dros yr haf—mewn perthynas â ffordd liniaru yr M4. Pan mae penderfyniad a wnaed gan Lywodraeth Cymru yn destun ymchwiliad cyhoeddus, mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn cynnal ymarfer diwydrwydd dyladwy weddol swmpus er mwyn penderfynu a yw'r swm o arian sy'n cael ei wario ar y prosiect dan sylw yn briodol ai peidio. Yn achos Cylchffordd Cymru, cynhaliwyd proses diwydrwydd dyladwy. Fodd bynnag, pan wnaeth y Llywodraeth benderfyniad terfynol i wrthod y prosiect, ni soniodd am y broses diwydrwydd dyladwy. Yn hytrach, dywedodd mai mater cyfrifo technegol oedd wrth wraidd y penderfyniad. Hanfod y mater hwn oedd y ddadl a ganlyn: pe bai'r Llywodraeth yn rhoi gwarant i'r cwmni ar y raddfa yr oedd yn ei dymuno, byddai hynny'n golygu y byddai'r swm hwnnw ar fantolen y Llywodraeth. Yn ei dro, byddai hyn yn effeithio ar wariant Llywodraeth Cymru ar bob math o brosiectau eraill yn sgil y ffaith bod y swm hwn mor fawr. Fodd bynnag, byddai Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymwybodol o'r sefyllfa hon o'r cychwyn cyntaf. Nid oedd y Pwyllgor yn deall pam y caniatawyd i Gwmni Datblygu Blaenau'r Cymoedd fynd drwy'r felin, blwyddyn ar ôl blwyddyn, pan nad oedd y prosiect byth yn mynd i fod yn hyfyw yn y pendraw yn sgil y mater cyfrifo technegol hwn. Nid oeddem yn ddeall sut yr oedd yn bosibl cael proses diwydrwydd dyladwy ar y naill law, a mater cyfrifo ar y llaw arall, ond bod dim cysylltiad rhyngddynt. Yn y dyfodol, credwn y dylai Llywodraeth Cymru, wrth ofyn i gwmnïau wneud ceisiadau am brosiectau, ac am arian ar gyfer prosiectau hynny, sicrhau nad yw'r cwmnïau hynny'n gwastraffu eu hamser. Os nad yw prosiect yn mynd i fynd yn ei flaen, mae angen gwneud y penderfyniad hwnnw'n gynnar yn y broses yn hytrach na gwastraffu amser pawb.   Pam mae gwaith craffu o'r math hwn yn bwysig i bobl Cymru? Mae'n hollbwysig. Credaf fod llawer o bobl yn edrych ar Gynulliad Cymru ac yn tybio ei fod fel San Steffan. Mae pobl yn gweld Jeremy Corbyn a Theresa May yn San Steffan, ac maent yn tybio mai dyna beth yw gwleidyddiaeth. Wel, wrth gwrs, mae'r hyn sy'n digwydd yn Siambr y Cynulliad yn bwysig, ac mae'r trafodion hynny'n fodd o gael sylw i faterion yn y cyfryngau. Fodd bynnag, y tu ôl i'r llenni, mae gweithgarwch y Llywodraeth yn digwydd o ddydd nad yw'n aml yn destun gwaith craffu. Mae'n ddyletswydd ar grwpiau trawsbleidiol fel y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i ddal swyddogion i gyfrif. Mae Gweinidogion yn gwneud penderfyniadau polisi, ac yna mae Gweision Sifil yn symud prosiectau yn eu blaenau. Os nad ydym ni'n gwneud y gwaith craffu hwn, pwy arall fydd yn ei wneud? Mae'r Swyddfa Archwilio ac Archwilydd Cyffredinol Cymru yn gwneud gwaith gwerthfawr o ran tynnu sylw at faterion yn y man cyntaf, ond y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus sydd â'r dasg o graffu ar fanylion rhai o'r materion hyn a sicrhau eu bod yn cael sylw gan y cyfryngau, a hynny er mwyn sicrhau bod gwaith craffu tryloyw yn digwydd. Rydym yn Bwyllgor trawsbleidiol. Felly, nid yw'r awyrgylch yn un gwleidyddol lle mae'r Llywodraeth yn dweud: 'Rydym am wario'r arian hwn ar brosiect, ond nid ydych chi am i ni wneud hynny'. Rydym yma i wneud yn siŵr bod yr arian cyhoeddus hwnnw'n cael ei wario'n briodol.  
Darllen yr adroddiad llawn: Cyllid Cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer Prosiect Cylchffordd Cymru (PDF, 949 KB)
  Mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn gyfrifol am graffu ar y modd y mae'r holl arian cyhoeddus yng Nghymru yn cael ei wario. Gall y Pwyllgor gynnal ei ymchwiliadau eu hun. Fel arall, gall ddilyn cyfarwyddiadau a roddir iddo gan Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru. Mae'n friff weddol eang, gan ei bod yn bosibl iddo graffu ar bob agwedd ar gyllid, gan gynnwys iechyd, addysg, awdurdodau lleol a datblygu economaidd, fel sydd wedi digwydd gydag adroddiad diweddaraf y Pwyllgor ar gyllid cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiect Cylchffordd Cymru. Gallwch lawrlwytho'r adroddiad llawn ar gyllid cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiect Cylchffordd Cymru a chael rhagor o wybodaeth am Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad yma: www.cynulliad.cymru/SeneddPAC. Yn ogystal, gallwch ddilyn y Pwyllgor ar Twitter: @SeneddArchwilio.