Hyrwyddo Gweithle sy'n Ystyriol o Deuluoedd

Cyhoeddwyd 04/07/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 04/07/2019

Wythnos Amrywiaeth a Chynhwysiant Yr wythnos hon, rydym yn dathlu Amrywiaeth a Chynhwysiant. Yma yn y Cynulliad, rydym yn gweithio'n ddiflino tuag at ddatblygu polisïau a gweithdrefnau sy'n cefnogi ein nod o fod yn gyflogwr cynhwysol, sy'n ein helpu i ddatblygu diwylliant sefydliadol lle gallwch fod fel chi eich hunain, ond gallwch hefyd ffynnu a chyflawni eich potensial. Rydym yn gweithio gyda'n Rhwydweithiau Cydraddoldeb yn y Gweithle i sicrhau y gall ein staff siarad â phobl o'r un anian. Gall staff sydd â nodwedd warchodedig ddod at ei gilydd a chefnogi ei gilydd, yn ogystal â chynnig cyngor ar sut y gallwn ddod yn gyflogwr mwy cynhwysol. Rydym yn cydnabod ei bod yn mynd yn anos anos cadw'r ddysgl yn wastad rhwng gwaith a bywyd bob dydd, felly rydym yn falch o allu cynnig ystod o drefniadau gweithio hyblyg, yn cynnwys oriau hyblyg, gweithio rhan amser, gweithio gartref, cyfleoedd rhannu swydd, a seibiannau gyrfa. Mae ein trefniadau gweithio hyblyg yn golygu ein bod yn gyson ar restr y 30 o Gyflogwyr Gorau ar gyfer Teuluoedd sy'n Gweithio. TEULU yw ein rhwydwaith cydraddoldeb yn y gweithle i rieni a gofalwyr sy'n gweithio, a'i bwrpas yw:
  • codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r anghenion a'r rhwystrau i gynhwysiant yn y gweithle;
  • dylanwadu ar ystod o bolisïau, gwasanaethau a hyfforddiant ar faterion a allai effeithio ar rieni a gofalwyr sy'n gweithio, a'u datblygu;
  • hyrwyddo hawliau a chyfranogiad rhieni a gofalwyr sy'n gweithio ym mhob agwedd ar bolisïau, arferion a gweithdrefnau yng Ngwasanaethau Seneddol y Cynulliad;
  • cyfrannu'n weithredol at y gwaith o ddatblygu ac adolygu polisïau perthnasol trwy asesiadau effaith cydraddoldeb; a
  • chasglu a hyrwyddo gwybodaeth am amrywiaeth o faterion sy'n berthnasol i rieni a gofalwyr sy'n gweithio