Kyffin yn y Senedd

Cyhoeddwyd 27/09/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/09/2018

  Image of Llanddwyn Beach/Traeth Llanddwyn by/gan Kyffin Williams private collection of Eryl Nikopoulos

Daw ein herthygl blog gan David Meredith, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Kyffin Williams, cyn lansio Arddangosfa Kyffin Williams yn y Senedd. 

Mae arddangosfa Kyffin yn y Senedd, drwy baentiadau a phrintiau, sy'n cynrychioli gwaith celfyddydol helaeth Kyffin, yn deyrnged addas i athrylith Syr John Kyffin Williams.

Yn paentio am dros 60 mlynedd, daeth Kyffin yn arbenigwr wrth ddefnyddio'r gyllell balet ar gyfer ei weithiau creadigol pwerus, ei dirluniau, ei forluniau a'i bortreadau mewn olew. Roedd hefyd yn baentiwr gogoneddus a sensitif mewn dyfrlliw fel y dangosir yn ei baentiad o flodau. Roedd Kyffin hefyd yn hoff iawn o brintiau.

Arlunydd, athro a dylanwadwr 

I Kyffin, roedd paratoi a phrintio printiau du a gwyn a rhai lliw o'i baentiadau olew - ynghyd â'i ddarluniau golch inc campus, yn arbennig o atyniadol - yn golygu bod cynifer o bobl â phosibl yn cael mynediad at gelf: roedd yr athro yn Kyffin bob amser yn y blaen. Cyn symud adref i Ynys Môn yng Nghymru ym 1974, roedd Kyffin wedi bod yr uwch-feistr celf yn Ysgol Highgate yn Llundain ers 30 mlynedd. Fel artist, sylweddolodd Kyffin yn gynnar yn ei yrfa nad dim ond rhoi delweddau ar bapur neu gynfas oedd paentio, ond bod cariad a hwyliau'n ymwneud â'r weithred o baentio.

Cymaint oedd dylanwad celfyddydol, statws ac apêl Kyffin, nad dim ond o orielau ac amgueddfeydd yw'r paentiadau a arddangosir yn y Senedd ond hefyd o swyddfeydd y Llywodraeth, o gartrefi unigolion mewn rhannau gwahanol o Gymru, o ganolfannau darlledu (ITV Cymru a BBC Cymru) ac o gasgliadau prifysgol (Prifysgol Aberystwyth). Gogoniant yr arddangosfa hon yw bod y rhan fwyaf o'r paentiadau a welir yma'n rhan o fywydau cyffredin pobl, paentiadau sydd o gwmpas pobl yn y gweithle ac yn y tŷ, yn ogystal ag yn y byd academaidd ac mewn orielau celf.

Kyffin Williams - Dr Huw T Williams portrait

Trysor cenedlaethol 

Roedd Syr Kyffin wir yn drysor cenedlaethol ac yn gymwynaswr mawr i Gymru, yn arlunydd a oedd, yn ôl ei gyfaddefiad ei hun, yn paentio yn Gymraeg!

Mewn cyfweliad teledu yn 2004, dywedodd Syr Kyffin ei fod wedi paentio miloedd o baentiadau. Ychydig o flynyddoedd ynghynt, roedd wedi'i feirniadu am baentio gormod, dim ond i ymateb i'w feirniaid gyda limrig nodedig:

‘They said that enough was enough, The output of work by old Kyff, So they finally put strictures On his output of pictures So the output of Kyffin was nothing!’

Roedd gan Kyffin synnwyr digrifwch rhyfeddol!

Yn ffodus i ni, parhaodd i baentio. Fel y dywedodd yr Athro Tony Jones, hefyd o Fôn a Chyfarwyddwr Sefydliad Celf Dinas Kansas:

'Mae ffordd Kyffin o baentio, golwg ac arddull ei waith, yn neilltuol, yn bersonol, yn unigryw – ond mae hefyd o fewn cyrraedd hawdd i gynulleidfa eang ... mae'n cofnodi'r hanfod, efallai hyd yn oed DNA tirwedd Cymru ac mae'n rhoi'r cyfan yn y paentiad.'

Unwaith, dywedodd Gareth Parry, ffrind Kyffin a'i gyd-artist, am ddefnydd rhyddfrydol Kyffin o baent ei fod yn ddigon da i'w fwyta! Roedd Gareth bob amser yn annog pobl i roi eu trwyn ynddo bron a gorfoleddu ym marciau cyllell balet Kyffin.

David Meredith

Gallwch ymweld ag Arddangosfa Kyffin Williams yn y Senedd rhwng 4 ac 31 Hydref 2018.

Gallwch ddysgu mwy am ymweld â'r Senedd yma

Kyffin Williams - "Cwmglas"