Llais Cryfach i Gymru mewn Prydain sy’n Newid

Cyhoeddwyd 02/08/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 02/08/2017

Nid oes angen i chi fod yn arbenigwr cyfansoddiadol i gael dweud eich dweud ar faterion cyfansoddiadol. Mae Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn edrych ar sut y mae Cymru yn gweithio gyda seneddau a llywodraethau eraill: y berthynas rhyngddynt, pa mor dda y maent yn cydweithio ac yn rhannu syniadau. Drwy ddeall y berthynas bresennol a'r berthynas yn y gorffennol, byddai'r Pwyllgor yn gallu argymell y model gorau o ran gweithio yn y dyfodol. Different legislature buildings Ond pa fath o berthynas y mae pobl Cymru am i'n sefydliad ei chael â seneddau a llywodraethau eraill? Bydd Huw Irranca-Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor, yn cynnal trafodaeth ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn canolbwyntio ar yr heriau cyfansoddiadol mwyaf dwys, yn ei marn ef, mae pobl Cymru wedi eu hwynebu ers sawl cenhedlaeth, fel gwlad – Cymru – ac fel teulu o wledydd yn y Deyrnas Unedig. Bydd y ffordd mae Cymru yn ymateb i'r heriau hynny yn brawf diffiniol o'n cenhedlaeth ni. Mae'r Eisteddfod Genedlaethol, wrth gwrs, yn ddathliad o ddiwylliant Cymreig traddodiadol, y celfyddydau a'r iaith, ond mae hefyd yn fan lle caiff hunaniaeth Cymru a’i phobl ei dychmygu dro ar ôl tro. Mae hefyd yn fan lle mae gwleidyddiaeth a chyfansoddiad Cymru – a Chymru o fewn y Deyrnas Unedig – wedi cael eu trafod a'u dadlau'n frwd dros y degawdau, ar y Maes ac oddi arno. Mae’r Deyrnas Unedig yn ceisio trafod ffordd allan o'r Undeb Ewropeaidd. Mae Lloegr wedi drysu ynghylch ei hunaniaeth – neu’r sawl hunaniaeth sydd ganddi – ac maen arbrofi â ffurfiau gwahanol o ddatganoli yn Llundain a bellach yn ei dinasoedd metropolitan a rhanbarthau mawr. Pleidleisiodd yr Alban mewn un refferendwm i aros yn rhan o'r Deyrnas Unedig, mae ei llywodraeth yn chwarae â'r syniad o gael ail refferendwm, ond wedi rhoi’r syniad i’r neilltu – am y tro o leiaf. Ac mae sefydliadau Gogledd Iwerddon yn ei hunfan yn stond ac yn wynebu’r bygythiad o Reolaeth Uniongyrchol. Mae gan Gymru Fodel Cadw Pwerau yn debyg i'r Alban o'r diwedd, ond mae rhai sylwebwyr arbenigol – ac yn wir, Llywodraeth Cymru ei hun – yn dadlau bod perygl y bydd Deddf Cymru, ynghyd â Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael), yn gam yn ôl i’r broses ddatganoli. ‘Ni ddylai Cymru ofni arwain y ffordd o ran datblygu cyfraith glir, gryno a dealladwy’ Yn yr amgylchedd tymhestlog a newidiol hwn, mae'n gwbl briodol i ofyn y cwestiwn sylfaenol: sut y gallwn sicrhau llais cryf i Gymru nawr, a llais cryfach yn y dyfodol? Ymysg yr holl stŵr, mae'n gwbl angenrheidiol sicrhau’r llais cryfaf posibl i Gymru yn yr undeb hon o wledydd.

Ymunwch â ni yn yr Eisteddfod eleni

Dydd Llun 7 Awst

Pabell y Cymdeithasau 2

11.30 - 12.30

Bydd Huw Irranca-Davies AC, Cadeirydd Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn sôn am ymchwiliad y Pwyllgor, sef ‘Llais Cryfach i Gymru’. Yna, bydd cyfle i gyfarfod ag aelodau’r Pwyllgor i drafod y materion hyn a fydd yn arbennig o bwysig wrth i’r DU baratoi i adael yr UE.