Lleoliad gwaith Stonewall Cymru yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyhoeddwyd 02/12/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 02/12/2014

blog2 Bûm yn ffodus i gael lleoliad profiad gwaith yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, Caerdydd, fel rhan o Gynllun Lleoliadau Gwaith Stonewall Cymru. Mae'r cynllun yn ceisio rhoi'r profiad i bobl gael gweithio mewn gweithleoedd sy'n gyfeillgar i'r gymuned Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol. Mae'r Cynulliad yn esiampl i eraill, ar ôl ennill ei le ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall fel y cyflogwr Sector Cyhoeddus gorau yng Nghymru. Fore Llun, ar ôl cael blas ar 'fyw fel oedolyn' (y daith foreol i'r gwaith ym Mae Caerdydd!), cefais groeso cynnes gan Craig, fy mentor am yr wythnos a Chadeirydd OUT-NAW (rhwydwaith LGBT y Cynulliad), cyn cael gwibdaith o labyrinth Tŷ Hywel, y Senedd a'r Pierhead. Ar ôl cael fy ngwynt ataf, cefais gyfarfod â'r Llywydd, y Fonesig Rosemary Butler AC, gan eistedd yn rhai o'i chyfarfodydd ac arsylwi ar ei chyfraniad i waith y Cynulliad. Yn gynharach yn y mis, cyflwynodd hi araith wych i Gynhadledd Gweithleoedd Stonewall Cymru (sy'n gyfle i sefydliadau rannu arfer gorau eu gwaith cydraddoldeb) a phwysleisiodd bwysigrwydd diffuantrwydd yn y gweithle, a sut y mae pobl ar eu gorau pan gallant fod yn driw i bwy ydyn nhw: ethos y mae'r Cynulliad, o dan arweiniad y Llywydd, yn llwyr ymrwymedig iddo. Ar ôl cinio, cwrddais â Natalie Drury-Styles, Pennaeth y Swyddfa Breifat a chyfaill LGBT, a thrafod rôl ei thîm wrth gefnogi gweledigaeth y Llywydd. Yna, cefais fod yn bresennol yn ogystal â chyfrannu i gyfarfod tîm digwyddiadau'r Swyddfa Breifat, a oedd yn edrych ar Ymgyrch y Llywydd 'Menywod Mewn Bywyd Cyhoeddus'(neu #POWiPL i chi drydarwyr!), sy'n edrych yn strategol ar rôl bwysig y cyfryngau cymdeithasol wrth ymgysylltu â'r cyhoedd. Yna, disgrifiodd y tîm gwasanaethau cyfreithiol, dan arweiniad Elisabeth Jones, i mi yn fras sut y gwneir deddfwriaeth yng Nghymru. Yn hytrach nag ailadrodd hynny, gallwch gael rhagor o wybodaeth am y broses yma: Canllaw i'r broses ddeddfu (peidiwch â phoeni, mae'n syml iawn!). Wrth gwrs, all deddfwriaeth ddim gweithio ar ei phen ei hun, ac mae angen rhaglenni addysg a pholisi ehangach i gefnogi ei gweithrediad a'i heffaith, pwynt a bwysleisiwyd gan Elisabeth a'r tîm yn ystod fy amser yn y Cynulliad. Yn ogystal â threulio amser gyda'r tîm Gwasanaethau Cyfreithiol, roeddwn hefyd yn bresennol yn ail ddarlleniad Bil Addysg Uwch (Cymru) a Chwestiynau'r Prif Weinidog. Gadewais y Cynulliad gyda dealltwriaeth gliriach o sut y gwneir deddfwriaeth, sut mae'r Comisiwn yn cefnogi'r Cynulliad yn hyn, a sut gall y cyhoedd gymryd rhan. Er enghraifft, wyddoch chi mai dim ond deg llofnod sydd ei angen ar ddeiseb cyn y gellir gofyn i bwyllgor ei hystyried? Yr hyn nad yw'r cyhoedd yn ei weld yw'r adnoddau a'r ymdrech sydd yn mynd at y gwaith y tu ôl i'r llenni. Mae Aelodau'r Cynulliad yn cael cefnogaeth gan y tîm Cymorth Busnes i Aelodau a thîm Datblygu Proffesiynol yr Aelodau. Mae'r timau hyn yn darparu hyfforddiant a chymorth i Aelodau'r Cynulliad a'u staff cymorth er mwyn sicrhau bod ganddynt bopeth sydd ei angen arnynt i ymgymryd â dyletswyddau heriol iawn. Mae cydraddoldeb ac amrywiaeth, yng ngwir ystyr y geiriau hynny, yn ganolbwynt pwysig i'r Cynulliad. Mae'n allweddol i gyflawni gweledigaeth y Cynulliad; ac mae'r Tîm Cydraddoldebau yn gweithio'n strategol i sicrhau bod adrannau wastad yn meddwl am y materion hyn. Yn benodol, ar gyfer cydweithwyr LGBT, roedd yn wych gweld y Cynulliad yn ymfalchïo cymaint yn ei safle ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall; yn arwain drwy esiampl i weddill y sector cyhoeddus. Uchafbwynt olaf fy wythnos oedd gweithio gyda'r tîm cyfathrebu. Yn y bore, bûm mewn symposiwm gyda Non Gwilym, Pennaeth Cyfathrebu a Chyfaill LGBT, a phenaethiaid adrannau cyfathrebu Senedd yr Alban, Cynulliad Gogledd Iwerddon a Thŷ'r Cyffredin. Bwriad y symposiwm oedd rhannu arfer da wrth gyfathrebu mewn ffordd gydweithredol a chyfannol. Treuliais y prynhawn yn trafod defnyddioldeb a phwysigrwydd y cyfryngau cymdeithasol gyda Julian Price, Rheolwr Cyfryngau Cymdeithasol, a amlinellodd sut y mae'r cyfryngau cymdeithasol yn effeithio ar y modd y mae'r Cynulliad yn cyfathrebu â'r cyhoedd. Daeth fy wythnos yn y Cynulliad i ben â chyfarfod gyda Mari Gooberman, y Rheolwr Addysg, pan fuom yn trafod datblygiadau cyffrous iawn ar gyfer pobl ifanc, ddaw yn gliriach yn ystod yr wythnosau nesaf. Cadwch eich llygaid ar agor! Os na allwch ddweud eisoes, cefais wythnos wych yn y Cynulliad Cenedlaethol. Mae pawb y cefais gyfarfod â nhw, pob sgwrs, pob cyfarfod a phob sesiwn yr es iddi wedi bod o fudd personol i mi mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. Dylai pob aelod o staff fod yn falch o awyrgylch ac ethos y sefydliad, ac ar ddiwedd yr wythnos roeddwn yn drist o orfod dychwelyd fy mhàs a gadael Tŷ Hywel am y tro olaf (diolch yn fawr i'r staff diogelwch hyfryd a'm croesawodd gyda gwên bob dydd, ac a ddymunodd y gorau i mi yn y dyfodol wrth adael brynhawn dydd Gwener!). Dewisodd Stonewall Cymru y Cynulliad Cenedlaethol i fod yn beilot ar gyfer ei gynllun lleoliadau gwaith am mai dyma gyflogwr sector cyhoeddus gorau'r gymuned LGBT yng Nghymru, ac nid ydwyf yn credu y gallai fod wedi dod o hyd i enghraifft well o weithle lle mae pobl yn cael bod yr hyn y maen nhw'n dymuno ei fod, dathlu gwahaniaethau a chyflawni canlyniadau gwych: mae'r argraff honno'n amlwg o'r eiliad y cerddwch i mewn i Dŷ Hywel, lle gwelwch dystysgrif Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall Cymru wedi'i harddangos yn falch ar y wal. Fydd y blog byr hwn fyth yn ddigon hir i mi allu ymhelaethu ar yr amser gwych a gefais yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, ond rwy'n gobeithio i mi wneud yr ymdrech orau er mwyn i chi weld pa mor wych oedd yr amser a gefais yno. Alla i ddim â diolch digon i bob aelod o staff fu mor groesawgar, anogol, diddorol ac ysbrydoledig - bydd y profiad yma'n ffurfiannol yn fy ngyrfa a'm datblygiad personol: diolch yn fawr iawn, mi welai chi gyd yn y dyfodol. Rhagor o wybodaeth am Gynulliad Cenedlaethol Cymru Oes gennych ddiddordeb cael profiad gwaith gydag un o Hyrwyddwyr Amrywiaeth Stonewall Cymru? Anfonwch e-bost at dîm gweithle Stonewall Cymru. Mae Christian yn trydar ar @MrChristianWebb. Mae'n llysgennad ar gyfer Step Up to Serve, yn wirfoddolwr gyda Stonewall Cymru, ac mae'n hyrwyddwr cyfranogiad ar gyfer Brook, elusen iechyd rhyw i bobl ifanc. blog1