“Mae clywed y cyfieithwyr ar y pryd wrth eu gwaith yn anhygoel. Am sgìl!”

Cyhoeddwyd 20/07/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 20/07/2016

ffion-e1469025276972   Cafodd Ffion Pritchard ymuno â Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi’r Cynulliad am ddiwrnod yr wythnos diwethaf ar ôl ennill cystadleuaeth cyfieithu’r Urdd. Yma, mae’n sôn am ei phrofiad y tu ôl i’r llenni ac am y ffordd y mae’r Cynulliad yn hyrwyddo dwyieithrwydd. Ddydd Mawrth y 12fed o Orffennaf, ar ddiwrnod braf o haf, es i i Fae Caerdydd ar y trên i dreulio diwrnod o brofiad gwaith gydag Uned Gyfieithu y Cynulliad yn dilyn fy muddugoliaeth yng Nghystadleuaeth Cyfieithu yr Urdd.   Roedd diwrnod prysur iawn wedi’i drefnu ar fy nghyfer. Yn rhan o’r diwrnod, bues i’n cwrdd â phennaeth yr uned gyfieithu, Mair, a beirniad y gystadleuaeth, Mari Lisa, yn ogystal â dysgu am yr uned fusnes, llunio’r Cofnod, cyfieithu deddfwriaethol a’r grefft o gyfieithu ar y pryd. Diolch i Geth, Jodi, Llinos a Cai am eu holl gymorth. Dwi’n sicr y bydd yr wybodaeth a roeson nhw o gymorth mawr i mi yn y dyfodol! Yn ogystal â chwrdd a gweithio ochr yn ochr â chyfieithwyr a chofnodwyr yr Uned Gyfieithu, roedd cyfarfodydd wedi’u trefnu ar fy nghyfer â dau berson pwysig yn y Senedd. Yn y bore, cefais gyfle i gael sgwrs (a llun!) â’r Llywydd, ac yn y prynhawn, rhoddodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies, o’i amser i siglo’m llaw a chael sgwrs. Pobl brysur iawn ydyn nhw felly dwi’n gwerthfawrogi’r cyfle yn fawr! FfionandPO1 Roedd y cyflwyniad gan Gruff ar gyfieithu peirianyddol o fudd mawr. Mae’n dda cael gweld bod cwmnïau mawr fel Microsoft yn buddsoddi mewn technoleg sy’n fuddiol i’r diwydiant cyfieithu Cymraeg. O’i defnyddio’r gywir, mae’r dechnoleg yma’n cynyddu cynhyrchiant cyfieithwyr ac yn rhoi’r cyfle i siaradwyr di-Gymraeg ddeall yr iaith. Wrth gwrs, fydd peiriant cyfieithu byth yn well na chyfieithwyr go iawn, ond mae’n braf cael gweld bod adnoddau ar gael yn gefn i’n gwaith ni. ffion-a-gruff A minnau’n berson sy’n ymddiddori yn y byd gwleidyddol, yn ogystal â’r byd cyfieithu, da oedd gweld sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog yn y siambr. Roedd hi’n braf teimlo’n rhan o’r broses wleidyddol a chlywed y Gymraeg yn cael ei siarad gan weinidogion . Roedd clywed y cyfieithwyr ar y pryd yn arddangos eu doniau yn anhygoel. Dyna grefft a hanner! Diolch i’r Urdd, Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru a’r Cynulliad am drefnu’r diwrnod. A diolch o galon i Iona a Sarah am fod yn dywyswyr penigamp! Hoffwn erfyn ar y rheiny ohonoch chi sy rhwng 19 a 25 oed ac sydd â diddordeb mewn cyfieithu i gystadlu yng nghystadleuaeth yr Urdd y flwyddyn nesaf. Os byddwch chi’n fuddugol, dwi’n addo y bydd treulio diwrnod gydag uned gyfieithu y Cynulliad yn brofiad gwerth chweil!