Mae eich Senedd yn newid: Beth sydd angen ichi ei wybod?

Cyhoeddwyd 10/01/2025   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/01/2025

Y Senedd yw ble gwneir penderfyniadau ar y materion sy'n bwysig ichi.

 

O 2026, bydd rhai newidiadau i gryfhau sut mae’r Senedd yn eich cynrychioli chi a’ch cymuned.

Mae hyn yn cynnwys newidiadau i’r ffordd rydych chi’n ethol pwy sy’n eich cynrychioli, faint o Aelodau sy’n eich cynrychioli, a pha mor aml y caiff etholiadau eu cynnal i ddewis pwy sy’n eich cynrychioli.

Beth am edrych yn fanylach ar yr hyn sy'n newid.

Felly, beth y gallwch ei ddisgwyl?

 

96 o Aelodau o’r Senedd

O 2026 ymlaen, bydd gan y Senedd 96 o Aelodau yn lle 60.

Bydd hyn yn rhoi mwy o allu i’r Senedd herio cynlluniau Llywodraeth Cymru ar faterion pwysig fel gwasanaethau iechyd, addysg a thrafnidiaeth. Mae hyn yn golygu y bydd gan eich cymuned lais cryfach pan fydd penderfyniadau'n cael eu gwneud.

System bleidleisio newydd

Bydd gan bawb 16 oed a hŷn nawr un bleidlais i ddewis pwy sy’n cynrychioli eu cymuned yn y Senedd.

Nod y newid hwn yw gwneud y broses bleidleisio yn symlach ac yn fwy cynhwysol.

Etholaethau newydd

Bydd gan Gymru 16 o etholaethau newydd, yn lle 40.

Rheolau newydd i ymgeiswyr

Bydd yn rhaid i unrhyw un sy'n sefyll mewn etholiad fod yn byw yng Nghymru.

Mae hyn yn gwneud yn siŵr y bydd gan y rhai sy’n eich cynrychioli gysylltiad gwirioneddol â Chymru, ac y byddant yn deall ac yn helpu gyda materion lleol yn well.

Etholiadau mwy aml

Bydd etholiadau’r Senedd yn cael eu cynnal bob pedair blynedd.

Mae hyn yn golygu y byddwch yn gallu dwyn eich Aelodau i gyfrif yn amlach. 

Pam ddylai hyn fod o bwys ichi?

 

Mae’r newidiadau hyn yn digwydd i helpu’r Senedd i gynrychioli a gwasanaethu pobl Cymru yn well, gan arwain at wneud penderfyniadau mwy effeithiol i chi a’ch cymuned.

  • Llais cryfach: mae mwy o Aelodau yn golygu y bydd pryderon eich cymuned yn cael mwy o sylw.
  • Llunio Cymru gyda'n gilydd: mae'r system newydd yn sicrhau bod eich pleidlais yn cyfrif yn fwy nag erioed.
  • Mwy o gynrychiolaeth: ni waeth ble rydych yn byw yng Nghymru, bydd chwe Aelod yn eich cynrychioli chi a’ch cymuned yn y Senedd.
  • Mwy o atebolrwydd: mae etholiadau amlach yn golygu y gallwch ddwyn eich cynrychiolwyr i gyfrif yn amlach.
  • Gwell penderfyniadau: mae mwy o Aelodau yn galluogi gwell heriau i benderfyniadau Llywodraeth Cymru ar eich rhan.