Mae’r Hawl i Brynu yng Nghymru yn newid

Cyhoeddwyd 03/05/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 03/05/2017

R2B ELGC Keyring 2 CY Fi yw John Griffiths AC (@JGriffithsLab), Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau. 27889494760_3afbddf86e_m Gwybodaeth am y Bil Diddymu’r Hawl i Brynu Ar 13 Mawrth, cyflwynodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant AC, y Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) gerbron y Cynulliad. Nod y Llywodraeth ar gyfer y gyfraith arfaethedig yw diogelu'r cyflenwad o dai cymdeithasol yng Nghymru drwy roi diwedd ar bob amrywiad o'r hawl i brynu a'r hawl i gaffael. Beth mae'r newidiadau arfaethedig yn ei olygu? Byddai'r hawl i brynu ar gyfer tenantiaid awdurdodau lleol a landlordiaid cofrestredig yn cael ei ddiddymu ar ôl cyfnod o flwyddyn o leiaf ar ôl cyflwyno'r gyfraith. Drwy gyflwyno'r gyfraith arfaethedig, nod Llywodraeth Cymru yw diogelu stoc tai cymdeithasol Cymru rhag gostwng ymhellach, gan sicrhau y darperir tai diogel a fforddiadwy i bobl nad ydynt yn gallu cael mynediad i'r farchnad dai i brynu neu rentu cartref. Mae rhai awdurdodau lleol, gan gynnwys Sir y Fflint, Sir Gaerfyrddin ac Ynys Môn eisoes wedi atal y cynllun hawl i brynu. Byddai'r gyfraith arfaethedig yn rhoi diwedd ar y cynllun hawl i brynu yn holl awdurdodau lleol Cymru. Sut gallai'r newidiadau effeithio arnaf i? Wrth sicrhau bod tenantiaid presennol yn ymwybodol o'r newidiadau, mae'r gyfraith arfaethedig yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gyhoeddi gwybodaeth am ei heffeithiau cyn i'r diddymu ddigwydd, ac mae hefyd yn rhaid i landlordiaid cymdeithasol yn eu tro ddarparu'r wybodaeth honno i'r holl denantiaid y mae hyn yn effeithio arnynt o fewn dau fis wedi i'r gyfraith arfaethedig ddod i rym. Ar ôl cyfnod o flwyddyn o leiaf wedi i'r gyfraith ddod i rym, bydd yr holl hawliau'n cael eu diddymu. Mae hyn yn golygu y gall pob tenant y mae hyn yn effeithio arno arfer ei hawl i brynu o fewn y cyfnod hwnnw, ond nid wedi hynny. Yr hawl i brynu ar draws y DU Mae Llywodraeth yr Alban eisoes wedi rhoi terfyn ar yr hawl i brynu a hawliau cysylltiedig yn yr Alban, ond mae Llywodraeth y DU yn gweithredu'n wahanol yn Lloegr. Mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno ei chynlluniau ei hun i ymestyn y polisi hawl i brynu i fwy o gartrefi. R2B2 Gwaith y Pwyllgor Mae Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn grŵp o wyth Aelod Cynulliad o bob cwr o Gymru sy’n cynrychioli cyfansoddiad gwleidyddol y Cynulliad. Ein gwaith ni yw craffu ar benderfyniadau Llywodraeth Cymru ar faterion yn ein cylch gwaith i sicrhau eu bod er budd gorau Cymru a'i chymunedau. Gan fod pwnc y gyfraith arfaethedig yn dod o fewn cylch gwaith y Pwyllgor, gofynnwyd inni edrych ar ei 'egwyddorion cyffredinol' neu'r prif nodau. Gelwir hyn yn 'Gyfnod 1', ac rydyn ni'n defnyddio'r rhan hon o'r broses i glywed tystiolaeth ac i lunio adroddiad a fydd yn gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru am newidiadau i'r gyfraith arfaethedig os oes angen. Mae gennym tan 7 Gorffennaf i wneud hyn. Cymryd rhan Ym mis Mai, mae'r Pwyllgor yn bwriadu cynnal sesiynau ymgysylltu â'r cyhoedd ledled Cymru i glywed barn tenantiaid am y gyfraith arfaethedig a'r goblygiadau iddyn nhw. Bydd y safbwyntiau hyn yn helpu i lywio ymchwiliad y Pwyllgor, ynghyd â'r dystiolaeth ysgrifenedig a llafar a ddaw i law. Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y sesiynau hyn, neu os hoffech i ni ymweld, anfonwch e-bost at celyn.cooper@cynulliad.cymru. Mae tudalen wê DialogueApp hefyd ar agor i chi gael mynegi eich barn a rhannu eich syniadau ar y Bil. Y wybodaeth ddiweddaraf I gael yr holl wybodaeth a'r datblygiadau diweddaraf, gallwch: R2B ELGC Homes 1 CY