Menywod Cymru a'r Rhyfel Byd Cyntaf

Cyhoeddwyd 29/10/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 29/10/2018

  Blog gwadd gan Dr Dinah Evans [caption id="attachment_3288" align="alignnone" width="257"]Dr Dinah Evans Dr Dinah Evans[/caption] Eleni bydd y Cynulliad yn croesawu Dr Dinah Evans i gyflwyno ein Darlith Goffa flynyddol ar bwnc 'Ymateb Menywod Cymru i'r Rhyfel Byd Cyntaf'. Roedd Dr Dinah Evans yn dysgu Hanes Modern a Chyfoes ym Mhrifysgol Bangor tan 2016. Mae'n aelod o bwyllgor Archif Menywod Cymru ac mae ganddi ddiddordeb arbennig yn effaith y ddwy ryfel byd ar Gymru a'i chymdeithas. Cyhoeddwyd ei gwaith ymchwil ar effaith y Rhyfel Byd Cyntaf ar fenywod Cymru yn un o benodau'r llyfr 'Creithiau' yn 2016, ac ar hyn o bryd mae'n paratoi i gyhoeddi gwaith ymchwil yn gynnar yn 2019 ar ailadeiladu Abertawe ar ôl y rhyfel. Yma mae'n cyflwyno rhai o'r materion a drafodir yn ei darlith, gan edrych ar rôl a chyfraniad menywod Cymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, gan nodi canmlwyddiant rhoi'r bleidlais i fenywod.
Mae'n hynod o bwysig ein bod ni'n deall y rhan a chwaraewyd gan ddynion a menywod yn y Rhyfel Byd Cyntaf, gan mai dim ond wedyn y gallwn ni werthfawrogi mawredd eu hymdrech a'u haberth. Mae'r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn gyfle i lawer o bobl ledled y wlad ganolbwyntio ar erchyllterau'r Rhyfel Byd Cyntaf. Penderfynodd nifer o ysgolion fynd â'u disgyblion i Ffrainc a Gwlad Belg i ymweld â mynwentydd enfawr yno fel y gallent werthfawrogi maint yr aberth a wnaed. Mae realiti creulon y rhyfel hefyd wedi'i gyflwyno'n fanwl mewn arddangosfeydd, rhaglenni dogfen a ffilmiau. Mae seremonïau wedi cael eu cynnal ac mae arddangosfeydd mawr i gynrychioli’r caeau o babis wedi cael eu codi ledled y wlad. Mae llawer o'r sylw wedi canolbwyntio ar brofiad dynion yn ystod y rhyfel; roedd llawer ohonynt prin yn fwy na bechgyn ar y pryd. Ond roedd gan y milwyr, y morwyr a'r awyrluwyr hyn famau, gwragedd, chwiorydd a merched, ac mae eu hanes hwy yn ystod y rhyfel yn bwysig iawn hefyd. Er gwaetha rhwystrau'r adeg o ran dosbarth cymdeithasol a grŵp oedran, chwaraeodd menywod eu rhan yn yr ymgyrch hefyd. Roedd rhai yn gweithio er mwyn rhyddhau'r dynion i fynd i'r gad ac eraill yn trefnu ysbytai ategol neu'n codi arian.  Yn achos nifer o fenywod, roedd eu profiad o waith yn ystod y rhyfel yn beryglus iawn. Roedd miloedd o fenywod a merched yn gweithio mewn ffatrïoedd arfau ledled Cymru, gan beryglu eu hiechyd a'u bywydau wrth lenwi sieliau â ffrwydron (fel arfer â llaw). Hyfforddwyd menywod ifanc eraill o Gymru fel nyrsys, gan deithio wedyn i gadfeysydd ledled Ewrop mor bell ag Alexandria yn yr Aifft a Mesopotamia (Irac heddiw), lle roeddent yn nyrsio milwyr a oedd yn sâl ac yn marw, yn aml o dan amodau erchyll a chan beryglu eu bywydau. Dim ond drwy ddeall y rhan a chwaraewyd gan ddynion a menywod ym mhob agwedd ar ymgyrch y rhyfel y gallwn ni werthfawrogi mawredd eu hymdrech a'u haberth, ar faes y gad ac yma yng Nghymru.
[caption id="attachment_3289" align="alignnone" width="1024"]O’r chwith i’r dde: Cynghrair Rhyddid i Fenywod, cangen Caerydd; Gorymdaith Fawr y Swffragetiaid, Llundain 1918 O’r chwith i’r dde: Cynghrair Rhyddid i Fenywod, cangen Caerydd; Gorymdaith Fawr y Swffragetiaid, Llundain 1918[/caption] Ar ôl y Ddarlith Goffa bydd sesiwn holi ac ateb wedi'i chadeirio gan Dr Elin Royles. Mae Dr Elin Royles yn Uwch-ddarlithydd yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth. Bydd yr Adran yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2019 hefyd, gan iddi gael ei sefydlu’n fuan ar ôl diwrnod y cadoediad fel ffordd o ymateb i drais eithafol y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae'r ddarlith yn rhad ac am ddim i’w mynychu ond bydd angen cofrestru i gadw lle. Ewch i'r dudalen Eventbrite neu ffoniwch 0300 200 6565. Bydd derbyniad byr a chyfle i weld y ddwy arddangosfa sy'n ategu ein Darlith Goffa: [youtube https://www.youtube.com/watch?v=97TyNtgsE68&w=560&h=315] Arddangosfa 'Y Mudiad i roi'r Bleidlais i Fenywod yng Nghymru' a 'The Soldier's Own Diary' gan Scarlet Raven a Marc Marot. [caption id="attachment_3287" align="alignnone" width="750"]"A Soldiers Own Diary" "A Soldiers Own Diary"[/caption]