Menywod duon a lleiafrifoedd ethnig arloesol: Menywod duon a lleiafrifoedd ethnig sydd wedi gosod llwybr i eraill ei ddilyn

Cyhoeddwyd 30/10/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 30/10/2015

Black History Month Wales logoMis Hydref yw Mis Hanes Pobl Dduon, yr adeg o'r flwyddyn pan fydd diwylliant, hanes a llwyddiannau cymunedau Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig (BME) yn cael eu cydnabod a'u dathlu.

Mae pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig wedi gallu cyfrannu at ddatblygiad cymdeithas, technoleg, yr economi a diwylliant ym Mhrydain drwy gyfraniad y dynion a'r menywod dewr hynny a osododd lwybr iddynt. Nhw arweiniodd y ffordd i bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig eraill, fel modelau rôl ac esiamplau o'r hyn yr oedd modd ei gyflawni.

Mae Cymdeithas Hanes Pobl Dduon Cymru, mewn partneriaeth â'r Ganolfan Gymunedol Affricanaidd, Canolfan Mileniwm Cymru, Unsain Cymru, Radio Cardiff a'r Prince's Trust Cymru, wedi cyhoeddi mai'r thema eleni fydd 'Menywod Duon Dylanwadol, Ddoe a Heddiw'. Yn unol â'r thema honno, dyma 12 o fenywod duon a lleiafrifoedd ethnig arloesol sydd wedi gosod y llwybr i eraill ei ddilyn:

1.  Mary Prince: Y fenyw ddu gyntaf i ysgrifennu a chyhoeddi  hunangofiant 'The History of Mary Prince: A West Indian Slave',  hanes am erchyllterau bywyd o gaethwasiaeth ar y planhigfeydd,  a gyhoeddwyd ym Mhrydain oddeutu 1831. Mary Prince oedd y fenyw gyntaf hefyd i  gyflwyno deiseb gwrth-gaethwasiaeth i'r Senedd. 2.  Una Marson: Darlledwraig fenywaidd ddu gyntaf y BBC o 1939  i 1946. 3.  Elisabeth Welch: Un o'r bobl dduon gyntaf i gael chyfres radio ei hun ar y BBC  ym 1935, 'Soft  Lights and Sweet Music’, a'i gwnaeth hi'n  enw cyfarwydd iawn ym Mhrydain. 4.  Sislin Fay Allen: WPC du cyntaf Prydain, gan ymuno â'r Heddlu Metropolitan  ym 1968. 5.  Lilian Bader: Un o'r menywod cyntaf yn yr Awyrlu Brenhinol i gymhwyso i  atgyweirio offerynnau, ar ôl ymuno â'r Awyrlu Ategol i Fenywod. Ewch i  flog  y Weinyddiaeth Amddiffyn i gael gwybod mwy am bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yn y lluoedd arfog. 6.  Moira Stuart, OBE: Y ddarllenwraig newyddion gyntaf o dras Affricanaidd-Caribïaidd  ar deledu Prydain. 7. Diane Abbott, AS: Yr Aelod Seneddol benywaidd du cyntaf adeg ei hethol i Dŷ'r Cyffredin yn etholiad cyffredinol 1987. 8.  Betty Campbell: Yn yr 1970au, hi oedd pennaeth du cyntaf y wlad, a hynny yn Ysgol Gynradd Mount Stuart yn Nhre-biwt, Caerdydd. 9/10.  Y Farwnes Valerie Amos: Y gweinidog cabinet benywaidd du gyntaf a'r   fenyw ddu gyntaf     i fod yn arglwyddes, ochr yn ochr â'r Farwnes Patricia Scotland. 11. Y Fonesig Jocelyn Barrow: Y fenyw ddu gyntaf i fod yn un o Lywodraethwyr y BBC. 12. Claudia Jones:  Sylfaenydd papur newydd wythnosol du cyntaf Prydain "The   West Indian Gazette", oedd hefyd yn cael eu hadnabod fel mam Carnifal Notting Hill .