'Methiant cenedl' i ddathlu a nodi cyfraniad merched - Y Llywydd, Elin Jones AC

Cyhoeddwyd 14/02/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/02/2018

Cyhoeddwyd yr ethygl hon yn wreiddiol ar BBC Cymru Fyw ar 6 Chwefror 2018. Mae'r erthygl wreiddiol ar gael yma. Mae gen i deimladau cymysg wrth nodi'r canmlwyddiant pwysig hwn. Cymysg yn yr ystyr ei bod hi'n dal i fod yn gwbl anghredadwy i mi mai dim ond canrif sydd ers i fenywod gael unrhyw lais yn y broses ddemocrataidd - a hyd yn oed wedyn, dim ond rhai menywod enillodd y bleidlais ym 1918. Mae'n fy rhyfeddu hefyd bod menywod yn dal yn gorfod brwydro a gwrthdystio dros gydraddoldeb yn y byd gwleidyddol. Mae datblygiadau cadarnhaol wedi bod wrth gwrs, a nifer yma yng Nghymru. Roedd yr egwyddor o sicrhau cyfleoedd cyfartal wrth wraidd sefydlu'n Cynulliad Cenedlaethol ym 1999, cymaint felly nes iddo gael ei ymgorffori yn neddfau a rheolau ein democratiaeth newydd. Yn 2003, ein Cynulliad ni oedd y ddeddfwrfa gyntaf yn y byd i ethol yr un nifer o fenywod a dynion, ac er bod nifer y menywod etholedig wedi lleihau rhywfaint ers hynny, mae'r Cynulliad wedi cynnwys cyfran uwch o aelodau benywaidd na Thŷ'r Cyffredin, Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon ar hyd y blynyddoedd. Rwy'n weddol sicr y byddai'r ymgeisydd seneddol benywaidd cyntaf yng Nghymru, Millicent Mackenzie, yn falch iawn ohonom. Millicent sefydlodd Cangen y Suffragettes yng Nghaerdydd, ac mi safodd, yn aflwyddiannus, fel ymgeisydd sedd Prifysgol Cymru ym 1918. Mae'n destun embaras i mi mai dim ond yn ddiweddar ges i wybod amdani, ond efallai bod hynny'n adlewyrchu ein methiant fel cenedl i ddathlu cyfraniad ein merched ar hyd yr oesoedd. Hyd yn oed nawr, yn oes newydd datganoli, pwy sy'n cofnodi neu'n ysgrifennu am gyfraniadau menywod i lywodraeth neu Senedd Cymru? Oes, mae gennym resymau dros ddathlu ac mae angen gwneud hynny'n amlach. Ond pam felly ydw i'n teimlo braidd yn ddigalon am elfennau o'n diwylliant gwleidyddol heddiw, o ran y modd y mae wedi esblygu a'r effaith y mae hynny'n ei gael ar fenywod sy'n gweithio yn y maes yn 2018? Yn un peth, mae'r hinsawdd wleidyddol ar lefel rhyngwladol wedi newid, a bellach, mae naratif cyhoeddus yn cael ei wthio gan rai carfanau gyda'r bwriad penodol o danseilio ymdrechion dros gydraddoldeb. Alla i ddim, ac ni ddylem anghofio am yr hyn ddigwyddodd i'r Aelod Seneddol Llafur, Jo Cox, gafodd ei llofruddio yn 2016, nag ychwaith am y bygythiadau o drais yn erbyn gwleidyddion benywaidd blaenllaw eraill - yma yng Nghymru a thu hwnt.

Ymgyrch Me Too

Ac yna mae'r broblem arall sydd wedi codi yn y penawdau'n ddiweddar - er nad problem newydd yw hi yn y byd gwleidyddol - sef achosion o aflonyddu, bwlio ac ymddygiad amhriodol. Mae gwaith sylweddol ar droed yn y Cynulliad Cenedlaethol ac yn San Steffan er mwyn sicrhau bod gweithdrefnau a pholisïau priodol mewn lle er mwyn delio â chwynion o'r fath. Ein nod fydd ceisio sicrhau a hyrwyddo parch ac urddas yn ein Seneddau, ond mae'n destun siom a rhwystredigaeth ein bod ni heddiw, yn yr unfed ganrif ar hugain, yn gorfod mynd i'r afael â hyn o gwbl. Digon yw digon oedd neges yr ymgyrch "fi hefyd" neu #metoo - datganiad pwerus gan fenywod o gyd gefnogaeth a gwrthwynebiad. Ac roedd ysbryd yr ymgyrch honno a'r brwdfrydedd dros sicrhau lle i fenywod yn ein Senedd yn bresennol yn y Siambr rhai wythnosau yn ôl hefyd mewn dadl ar gydraddoldeb yng ngwleidyddiaeth Cymru. Roedd hyn yn gyfle i Aelodau benywaidd a gwrywaidd fel ei gilydd i godi pen a chodi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd llais menywod yn ein gwleidyddiaeth genedlaethol. A dyna yr ydw i am ei ddathlu heddiw, sef parodrwydd rheini heddiw ac ar hyd y ganrif ddiwethaf i ddal ati a gweithredu'n gadarnhaol er mwyn gwrthsefyll anghyfiawnder a rhagfarn. Ac o wneud hynny, rydw i am achub ar y cyfle i ddiolch i fenywod o bob plaid a dim plaid - yr etholedig rai a'r rheiny na lwyddodd i gael eu hethol - am fod yn barod i roi eu henwau ar y papurau pleidleisio, i fod yn ymgeiswyr etholiad a gwneud gwahaniaeth yng ngwyneb lliaws o rwystrau. Mae angen mwy o fenywod ar ein llwyfannau cyhoeddus lleol a chenedlaethol i ddilyn yr esiampl osododd Millicent Mackenzie ganrif yn ôl a gwireddu ei dyhead hi o herio rhagfarn gyda dewrder er mwyn newid ein diwylliant gwleidyddol a sicrhau cydraddoldeb go iawn i genedlaethau'r dyfodol. Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru