Mis Hanes Pobl Dduon 2018: Eleni bydd 50 mlynedd ers i Ddeddf Cysylltiadau Hiliol 1968 ddod i rym

Cyhoeddwyd 22/10/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 22/10/2018

[caption id="attachment_3028" align="alignnone" width="1024"]Map cy Logo Mis Hanes Pobl Dduon Cymru[/caption] Mae eleni’n arwyddocaol, gan y bydd yn nodi 50 mlynedd ers i Ddeddf Cysylltiadau Hiliol 1968 ddod i rym.   [caption id="attachment_3284" align="alignright" width="252"]no_irish_no_blacks Llun o arwydd 'No irish no blacks no dogs' mewn ffenestr tŷ[/caption] Roedd Deddf 1968 yn olynu Deddf Cysylltiadau Hiliol 1965, y ddeddfwriaeth Cysylltiadau Hiliol gyntaf erioed, a oedd yn ei gwneud yn drosedd sifil, ond nid yn drosedd, i wahaniaethu "ar sail lliw, hil, neu darddiad ethnig neu genedlaethol" mewn mannau cyhoeddus fel gwestai a bwytai, tafarndai, llyfrgelloedd, ar drafnidiaeth gyhoeddus ac ati. Roedd hefyd yn deddfu ar gyfer cosbi am ysgogi casineb hiliol. Nid oedd Deddf 1965 yn berthnasol i wahaniaethu o fewn cyflogaeth na thai, sef dau faes amlwg lle'r oedd gwahaniaethu’n gyffredin. Roedd yr arwyddion enwog "Dim pobl dduon, dim cŵn, dim Gwyddelod" yn dal i fod yn gyfreithlon ar ôl Deddf Cysylltiadau Hiliol 1965. Sefydlodd Deddf 1965 y Bwrdd Cysylltiadau Hiliol i orfodi'r Ddeddf. Fodd bynnag, unig rym y Bwrdd oedd cyfeirio'r mater at y Twrnai Cyffredinol ac ni allai yntau wedyn wneud dim mwy na cheisio gwaharddeb llys sirol i atal gwahaniaethu yn y dyfodol. Am y rhesymau hyn, barnwyd fod Deddf 1965 yn aneffeithiol ac yn rhy gul. Ehangodd Deddf 1968 gwmpas deddfwriaeth gwrth-wahaniaethu i gynnwys tai, cyflogaeth a darparu gwasanaethau. Rhoddodd rym i’r Bwrdd Cysylltiadau Hiliol ei hun ofyn am iawndal yn y llys sirol. Gallai iawndal hefyd gynnwys dyfarnu iawndal yn ogystal â gwaharddebau i atal gwahaniaethu yn y dyfodol. Fel cyflogwr, rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth a chynhwysiant ac rydym wedi ymrwymo i ddatblygu a chynnal diwylliant sefydliadol cynhwysol. "Rwy'n credu ei bod yn bwysig bod y Cynulliad yn arwain y ffordd o ran hyrwyddo diwylliant sefydliadol cynhwysol, a’i fod yn gorff seneddol modern a hygyrch y gall pobl o ystod amrywiol o gefndiroedd, ryngweithio yn hawdd ac yn ystyrlon ag ef. Mae’n ddyletswydd arnom ni yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i arwain yn hyn o beth, i rannu ein profiadau, ac i sicrhau bod gwerthoedd cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn cael eu parchu a’u harfer gan bawb,” Elin Jones AC, Llywydd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Felly, byddai'n ymddangos yn rhyfedd i gofio Mis Hanes Pobl Dduon a pheidio â myfyrio ar y Ddeddf Cysylltiadau Hiliol, darn o ddeddfwriaeth a oedd yn rhagflaenydd i Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae gennym ddyletswydd gyffredinol o dan y Ddeddf i ddileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erlid anghyfreithlon ar sail nodweddion gwarchodedig[1]. Rydym yn falch o fod yn gyflogwr hygyrch, sy'n denu ac yn cadw ystod eang o dalent, yn ogystal â bod yn ddarparwr gwasanaeth hygyrch. Rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi amrywiaeth, hyrwyddo cynhwysiant a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau, nid yn unig oherwydd:
  • fel corff cyhoeddus sydd heb ei ddatganoli, mae gennym ddyletswydd gyffredinol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i: ddileu gwahaniaethu, aflonyddu, erlid; hybu cyfle cyfartal a meithrin perthynas dda rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phobl nad ydynt yn ei rhannu;
  • bod tystiolaeth ymchwil yn dangos bod sefydliadau cynhwysol, sy'n denu ac yn datblygu unigolion o'r pwll mwyaf eang o dalent, yn perfformio'n well yn gyson;
ond oherwydd mai dyna yw’r peth iawn i'w wneud yn foesol, fel y dywedodd y Farwnes McGregor-Smith CBE, yn adolygiad McGregor-Smith[2]: "We should live in a country where every person, regardless of their ethnicity or background, is able to fulfil their potential at work”. Rydym yn ymwybodol ein bod yn sicrhau nad oes lle i wahaniaethu yn y broses recriwtio ac mae polisi dim goddefgarwch ar gyfer gwahaniaethu sy’n cael ei brofi gan unrhyw un o'n gweithwyr. Mae gennym nifer o bolisïau cefnogol ar gyfer staff, fel ein:
  • 'Polisi Urddas a Pharch' - sydd wedi'i ategu gan gysyniadau tegwch, urddas a pharch,
  • 'Strategaeth pobl' - sy'n cydnabod bod pob aelod o staff, waeth beth fo'i gefndir, yn haeddu’r cyfle i wireddu ei botensial llawn a llwyddo yn ei yrfa,
  • 'Polisi recriwtio' - sy'n amlinellu ein hymrwymiad i recriwtio ar sail teilyngdod, tegwch a gonestrwydd.
[caption id="attachment_1364" align="alignright" width="300"]REACH logo Logo rhwydwaith gweithle Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig y Cynulliad[/caption] Mae gennym rwydwaith cydraddoldeb yn y gweithle Hil, Ethnigrwydd a Threftadaeth Ddiwylliannol gweithgar a elwir yn REACH. Mae’n gweithio'n agos gyda’r rheolwyr i ddatblygu diwylliant sefydliadol cynhwysol. Rydym yn ddiolchgar iawn i'n staff am y gwaith a wnânt i'n helpu i fod yn sefydliad cynhwysol. Gwyddom mai ein staff yw ein hased gorau ac rydym am sicrhau eu bod yn gweithio mewn amgylchedd cefnogol a diogel.   Rydym eisiau parhau i fod yn sefydliad sy'n esiampl i eraill o ran rhoi gwerth ar amrywiaeth, hyrwyddo cynhwysiant ac ymgorffori cydraddoldeb, fel cyflogwr ac fel sefydliad seneddol. Ein gweledigaeth yw bod yn sefydliad sy'n hygyrch ac sy'n ymgysylltu â phobl Cymru ac yn eu parchu. Rydym yn ymgysylltu ag ystod mor amrywiol o grwpiau â phosibl yn y gred y gall hyn ond arwain at well sefydliad democrataidd a deddfwrfa sy’n darparu’n effeithiol ar gyfer holl bobl Cymru. I gael rhagor o wybodaeth am weithio i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ewch i'n tudalennau Recriwtio. Mae rhagor o wybodaeth am ein hymrwymiad i Amrywiaeth a Chynhwysiant wedi'i nodi yn ein Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant 2016-21. [1] Nodweddion gwarchodedig: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd a chred, rhyw a thueddfryd rhywiol. [2] Mae'r Amser i Siarad drosodd. Nawr yw'r amser i weithredu. Hil yn y gweithle '