Mis Hanes Pobl Dduon: Nid yw Salwch Meddwl yn oes Gwahaniaethu

Cyhoeddwyd 10/10/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/10/2016

Gan Abi Lasebikan, Swyddog Amrywiaeth a Chynhwysiant a Chydlynydd a Chyd-gadeirydd Rhwydwaith Cydraddoldeb yn y Gweithle'r Cynulliad ar Hil, Ethnigrwydd a Threftadaeth Ddiwylliannol world-mental-health-day-300x300Mae Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd (WMHD) yn cael ei nodi bob blwyddyn ar 10 Hydref. Amcan cyffredinol y diwrnod yw codi ymwybyddiaeth ynghylch materion iechyd meddwl ledled y byd a hyrwyddo ymdrechion i gefnogi pobl o ran eu hiechyd meddwl.   bhm-logoMis Hydref yw Mis Hanes Pobl Dduon (BHM) hefyd, pan fydd unigolion a digwyddiadau ysbrydoledig sy'n gysylltiedig â chymunedau Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig (BME) yn cael eu dathlu, eu cydnabod a'u gwerthfawrogi. Yn yr erthygl hon, defnyddir y term BME i ddisgrifio pobl o bob tras nad ydynt yn wyn. Bydd salwch meddwl yn effeithio ar un o bob pedwar ohonom yn ystod unrhyw flwyddyn benodol. Nid yw eich oed, eich rhyw, eich crefydd neu gred, eich cyfeiriadedd rhywiol, eich hil, y ffaith eich bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil, y ffaith eich bod yn disgwyl plentyn neu fod gennych blentyn, na'r ffaith bod gennych anabledd yn berthnasol yma. Nid yw salwch meddwl yn gwahaniaethu. Fodd bynnag, mae yna faterion penodol sy'n berthnasol i grwpiau â nodweddion penodol. Felly, hoffwn fanteisio ar y ffaith bod Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd yn cael ei nodi yn ystod Mis Hanes Pobl Dduon i sôn am gymhlethdodau'r materion y mae rhai pobl BME sydd â phroblemau iechyd meddwl yn eu hwynebu. Mae nifer o astudiaethau gan y Sefydliad Iechyd Meddwl, MIND, Diverse Cymru ac Ethnos Research and Consultancy, er enghraifft, wedi dangos bod pobl o grwpiau BME sy'n byw yn y DU, yn gyffredinol, yn fwy tebygol o:
  • gael diagnosis o broblemau iechyd meddwl;
  • dioddef argyfwng, cael diagnosis a chael eu hanfon i'r ysbyty;
  • profi canlyniadau gwael o ran triniaeth;
  • ymddieithrio eu hunain o wasanaethau iechyd meddwl prif ffrwd, gan arwain at allgau cymdeithasol a dirywiad yn eu hiechyd meddwl;
  • wynebu gwahaniaethu oherwydd bod ganddynt broblem iechyd meddwl, gan gynnwys cael eu trin yn llai ffafriol gan eu cymunedau eu hunain oherwydd eu salwch meddwl, yn sgil amrywiaeth o resymau cymdeithasol a diwylliannol;
Mae'n bosibl priodoli'r gwahaniaethau hyn i nifer o ffactorau, gan gynnwys:
  • tlodi a hiliaeth;
  • methiant gan wasanaethau iechyd meddwl prif ffrwd i ddeall sefyllfaoedd gwahanol ac i ddarparu gwasanaethau sy'n dderbyniol ac yn hygyrch i gymunedau Prydeinig nad ydynt yn wyn ac sy'n diwallu eu hanghenion diwylliannol penodol a'u hanghenion eraill;
  • y ffaith bod pobl mewn rhai grwpiau ethnig lleiafrifol yn amharod i ymgysylltu â gwasanaethau iechyd prif ffrwd neu'n gyndyn i ofyn am gymorth am nifer o resymau gwahanol, fel tabŵs yn eu cymunedau, eu defnydd o feddyginiaethau traddodiadol neu iacháu sy'n seiliedig ar ffydd, neu eu hofn (er enghraifft, ofn y stigma, cywilydd neu sgil-effeithiau cymdeithasol a all ddeillio o'r sefyllfa i'r unigolyn a'r teulu).
  • Mae yna gydnabyddiaeth bod salwch meddwl yn parhau i fod yn dabŵ mewn cymdeithas yn gyffredinol. Nid yw cymunedau BME yn wahanol o ran eu hymateb tuag at salwch meddwl, sydd yn aml yn negyddol. Gan fod pobl yn tueddu i fyw eu bywydau pob dydd o fewn eu cymunedau eu hunain i raddau helaeth, mae'n bwysig ein bod yn mynd i'r afael â gwahaniaethu a chanfyddiadau negyddol ynghylch salwch meddwl ym mhob rhan o'n cymdeithas, gan gynnwys cymunedau BME.
Dyna pam yr wyf o'r farn ei bod mor bwysig siarad â'r unigolyn, gan gofio bob amser fod yna berson y tu ôl i'r salwch meddwl hwnnw. Peidiwch â gadael i'r afiechyd meddwl ddiffinio'r person. Yn hytrach, ceisiwch ganolbwyntio ar yr unigolyn a'i anghenion. Ceisiwch osgoi rhagdybiaethau. Yn hytrach, ceisiwch gael sgwrs gyda phobl am eu hanghenion a'u dymuniadau, a cheisiwch fod yn hyblyg o ran darparu cymorth. Drwy ganiatáu i bobl siaradmental-health-awareness-day-2016 am eu hiechyd meddwl, gallwn chwalu ystrydebau, gwella perthnasau, cefnogi'r broses o roi cymorth a dileu'r stigma sy'n gysylltiedig â rhywbeth sy'n effeithio ar bob un ohonom. I ddarllen mwy am yr ymgyrch Amser i Newid, sy'n herio stigma a gwahaniaethu, ewch i wefan yr ymgyrch. Rwy'n falch bod y Cynulliad wedi llofnodi addewid ymgyrch Amser i Newid yng Nghymru i herio stigma ac i gefnogi staff sy'n dioddef o salwch meddwl. Rwyf hefyd yn falch y bydd y Cynulliad yn cynnal digwyddiad ar y cyd ar gyfer y rhwydweithiau cydraddoldeb yn y gweithle ar 13 Hydref 2016, lle bydd unigolion o wahanol rwydweithiau'r Cynulliad yn siarad naill ai am eu profiadau personol eu hunain neu'r materion y mae eu cymunedau yn eu hwynebu. I gael rhagor o wybodaeth am ein rhwydweithiau, darllenwch y blog a gyhoeddwyd gennym ym mis Gorffennaf eleni.