Cyhoeddwyd 01/03/2013
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/03/2013
Clwb Rygbi Llewod Caerdydd 15 – 31 Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Daeth Mis Hanes Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol i ben gyda gornest rygbi rhwng tîm y Cynulliad Cenedlaethol a'r tîm rygbi cyntaf o chwaraewyr hoyw, a'r unig dîm hyd y gwyddom, yng Nghymru.
Roedd tîm rygbi'r Cynulliad ar faes y gad ddydd Sadwrn, 23 Chwefror mewn gêm rygbi elusen yn erbyn
Clwb Rygbi Llewod Caerdydd. Cynhaliwyd y gêm i godi arian ar gyfer
Bowel Cancer UK.
Roedd hi'n gêm gyfeillgar a hwyliog. Gan mai ychydig iawn o gemau y mae'r Llewod wedi'u colli dros y pum mlynedd ddiwethaf, gwyddai ein tîm ni fod yn rhaid iddynt fod ar eu gorau i ennill y gêm hon. Enillwyd y gêm ar ôl ymdrech galed, a dangoswyd digon o sgiliau amddiffynnol a symudiadau ymosodol o safon uchel yn ystod y chwarae.
Bydd Llewod Caerdydd yn awyddus i ddatblygu'r sgiliau a ddysgwyd yn y gêm hon ar gyfer eu gêm nesaf yn erbyn tîm cwmni Cardiff Bus. Pob lwc i'r Llewod yn y gêm honno.
Edrychwn ymlaen at ein gêm nesaf yn erbyn y Llewod ym mis Ebrill, a fydd unwaith eto'n codi arian ar gyfer
Bowel Cancer UK.
Cardiff Lions RFC:
Facebook a
Twitter