Newidiadau i Ganllawiau'r Cynulliad

Cyhoeddwyd 04/01/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 04/01/2013

Cytunodd y Cynulliad yn ddiweddar i newid ei Reolau Sefydlog i'w gwneud yn haws i Aelodau fod yn Gadeiryddion dros dro yn absenoldeb y Llywydd neu'r Dirprwy Lywydd. Yn flaenorol, dim ond am gyfnodau byr y gallai Cadeirydd dros dro fod yn y gadair, a dim ond swyddogaethau cyfyngedig y gallai eu cyflawni. Mewn achosion lle'r oedd y Llywydd yn absennol am gyfarfod cyfan, roedd yn rhaid i'r Cynulliad ethol Llywydd Dros Dro a allai gyflawni'r swyddogaethau angenrheidiol. Gan fod y swyddogaethau hyn yn cynnwys defnyddio pleidlais fwrw pan geir pleidlais gyfartal, ni allai Aelod a etholwyd yn Lywydd Dros Dro ddefnyddio ei bleidlais ei hun ar y diwrnod hwnnw. Gan fod y Cynulliad wedi'i rannu'n hafal rhwng y Llywodraeth a'r gwrthbleidiau, gallai hyn gael effaith sylweddol. Bydd y newidiadau yn galluogi Cadeirydd Dros Dro i gyflawni rhagor o swyddogaethau'r Llywydd, gan gynnwys cadeirio eitemau dilynol ac addasu'r agenda lle bo angen. Fodd bynnag, ni fydd y Cadeirydd Dros Dro yn gallu defnyddio ei bleidlais fwrw, ac felly bydd yn cadw ei allu i bleidleisio. Bydd yn rhaid i'r Cynulliad ethol Llywydd Dros Dro o hyd ar gyfer cyfarfodydd lle nad yw'r Llywydd na'r Dirprwy Lywydd yn gallu bod yn bresennol i oruchwylio'r Cyfnod Pleidleisio. O dan y Rheolau Sefydlog, gall unrhyw Aelod fod yn Gadeirydd Dros Dro ar gais y Llywydd neu gael ei ethol fel Llywydd Dros Dro gan y Cynulliad. Fodd bynnag, yr arfer sydd wedi datblygu yw fod y pedwar Comisiynydd, un o bob plaid, yn cymryd eu tro i fod yn Lywydd Dros Dro.