O safbwynt y Llywydd: democratiaeth ar waith

Cyhoeddwyd 16/07/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/07/2026

Croeso, bawb, i Siambr Senedd Cymru!


Yn y Siambr y bydd Aelodau o'r Senedd yn ymgynnull i gynrychioli cymunedau Cymru benbaladr. Mae'n rhywle ar gyfer trafod a chraffu. Bydd anghydweld ar adegau, ond yn aml bydd ymdeimlad o bwrpas cyffredin wrth i benderfyniadau gael eu gwneud sy'n llunio bywyd yng Nghymru. 

Fy rôl i fel Llywydd yw sicrhau bod y cyfarfodydd hyn yn digwydd mewn modd hwylus, teg a pharchus. Yn syml iawn, rwyf yma i sicrhau bod modd i ddemocratiaeth weithio.


Cadair y Llywydd


O’m sedd i, mae gen i olygfa unigryw. Gallaf weld y dadleuon yn datblygu, cyfnewid geiriau ac ymatebion, ac eiliadau o gytuno ac anghytuno.

Yn y Senedd fe welwch chi drafod go iawn, trafod angerddol. Gall fod yn fywiog! Mae’r Aelodau'n siarad ag arddeliad, yn herio ei gilydd, yn cwestiynu ac yn perswadio. Mae hyn i gyd yn rhan o ddemocratiaeth iach. 

Mae pob un o’r Aelodau yma oherwydd dewisiadau’r cyhoedd a’u hyder ynddynt i gynrychioli eu cymunedau. Fy rôl i yw cadw trefn a sicrhau bod gan bawb yr un cyfleoedd i gyfrannu.

Hyd yn oed pan fydd gwahaniaeth barn amlwg, mae disgwyliad clir: dylai'r drafodaeth fod yn agored, yn deg, ac yn barchus. 

Mae cynnal y safonau hyn yn cynnal ffydd y cyhoedd yn y Senedd fel sefydliad ac yn sicrhau trafodaeth ystyrlon ar ran pobl Cymru.


Dal y ddysgl yn wastad


Ffordd ddefnyddiol o ddeall rôl y Llywydd yw ei gweld yn debyg i rôl dyfarnwr. Bydd dyfarnwr da yn gadael i'r gêm lifo, gan gadw llygad barcud ar bethau, a dim ond pan fydd angen y bydd yn ymyrryd. 

Yn yr un modd, rhaid i’r Llywydd aros yn ddiduedd. Ni fyddaf yn cymryd rhan yn y dadleuon nac yn cefnogi un ochr ar draul ochr arall. Yn hytrach, byddaf yn hwyluso trafodaeth sy’n deg ac yn adeiladol.

Weithiau, bydd y rôl yn golygu gwneud dyfarniadau, yn aml ar adegau o ddwyster mawr. Mae dyfarniadau o’r fath yn cael eu llywio     gan lyfr rheolau'r Senedd (ein Rheolau Sefydlog). Mae'r rheolau cyffredin hyn yn golygu ein bod yn gallu parhau i gynnal trafodaethau agored, parchus ac adeiladol ar faterion pwysig sy'n effeithio ar Gymru gyfan.


Tu ôl i’r llenni


Yn ogystal â thrafodion y Siambr, mae llawer yn digwydd y tu ôl i'r llenni.

Rhaid parchu’r amserlen a rheoli’r meicroffonau, a bydd y tîm o gyfieithwyr ar y pryd yn sicrhau bod modd defnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg yn ddiffwdan ac yn llawn. Byddaf yn eistedd ym mlaen y Siambr, ond mae gen i gymorth staff y Senedd sy’n gweithio'n broffesiynol yn y cefndir i sicrhau bod popeth yn mynd yn iawn.


Rhywbeth gwahanol bob dydd


Mae pob sesiwn yn y Siambr yn wahanol. Bydd pob un yn dod â chyfleoedd a heriau newydd. Bydd adegau o ddwyster, adegau o fyfyrio, achlysuron pan fydd yr Aelodau’n dod at ei gilydd ag ymdeimlad o bwrpas cyffredin, ac weithiau ddogn o hiwmor hefyd.

Mae taro’r cydbwysedd iawn yn rhan hanfodol o waith y Llywydd. Mae'r rôl yn gofyn am ddoethineb, ymwybyddiaeth, a dealltwriaeth o’r ffaith mai rhywun sy'n cynrychioli eraill sydd y tu ôl i bob cyfraniad.


Cyfrifoldeb ar y cyd


Mae'r Senedd yn perthyn i'r bobl y mae'n eu gwasanaethu, nid i unigolyn nac i rôl benodol.

Fy nhasg i fel Llywydd yw gwarchod y lle sy’n dwyn eu lleisiau ynghyd. A sicrhau tegwch a pharch, yn enwedig pan fydd y dadlau’n chwyrn. 

Dyna yw bod yn Llywydd.


---

Sut y gallaf wylio dadleuon y Senedd?


Bydd yr Aelodau i gyd yn cwrdd yn wythnosol yn y Cyfarfod Llawn. Yno y byddant yn siarad ar eich rhan, yn holi Gweinidogion Llywodraeth Cymru, yn trafod materion o bwys a phleidleisio arnynt, ac yn pasio deddfau sy’n effeithio ar bawb yng Nghymru.

Fel arfer, caiff y Cyfarfod Llawn ei gynnal ar ddydd Mawrth a dydd Mercher yn ystod y tymor.

Mae croeso i'r cyhoedd ddod i’r Senedd i wylio’r trafodion yn y fan a’r lle, neu gallwch wylio ar-lein ar Senedd.tv. Gallwch hefyd ddarllen popeth sy’n cael ei ddweud yn y Cyfarfod Llawn drwy chwilio Cofnod y Trafodion.