Pa mor dda y mae Llywodraeth Cymru yn gwneud ei gwaith?

Cyhoeddwyd 24/06/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 24/06/2015

Mae hwn yn gwestiwn y bydd Aelodau yn y Cynulliad Cenedlaethol yn ei ofyn bob dydd, mewn cyfarfodydd pwyllgor, neu mewn  sesiynau’r Cyfarfod Llawn ym mhrif Siambr drafod y Senedd, ym Mae Caerdydd. Os mai swydd Llywodraeth Cymru yw "helpu i wella bywydau pobl yng Nghymru a gwneud ein gwlad yn lle gwell i fyw a gweithio", mae’n bwysig bod y Cynulliad yn clywed gan yr ystod eang o bobl yr effeithir arnynt gan y penderfyniadau y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud. Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw’r corff sy’n gyfrifol am ddadansoddi pa mor dda y mae Llywodraeth Cymru yn gwneud hynny, wedi’r cyfan. Mae’r modd y mae’r Cynulliad yn gwneud hyn wedi newid yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig o ran gwaith pwyllgorau’r Cynulliad. Mae pobl yn parhau i ymateb i wahoddiadau i ysgrifennu at y Cynulliad i roi tystiolaeth. Mae unigolion, sefydliadau ac elusennau yn parhau i ymweld â’r Senedd i gael eu holi gan Aelodau’r Cynulliad mewn cyfarfodydd ffurfiol, er bod angen dulliau gwahanol i glywed gan gynulleidfaoedd gwahanol bellach. Lluniau o Julie Morgan AC a Jocelyn Davies AC yn cymryd rhan mewn sgwrs ar y we gyda myfyrwyr ar Google Hangouts ar gyfer ymchwiliad y Pwyllgor Cyllid i Gyllido Addysg Uwch: Lluniau o Julie Morgan AC a Jocelyn Davies AC yn cymryd rhan mewn sgwrs ar y we gyda myfyrwyr ar Google Hangout ar gyfer ymchwiliad y Pwyllgor Cyllid i Gyllido Addysg Uwch Lluniau o Julie Morgan AC a Jocelyn Davies AC yn cymryd rhan mewn sgwrs ar y we gyda myfyrwyr ar Google Hangout ar gyfer ymchwiliad y Pwyllgor Cyllid i Gyllido Addysg Uwch Lluniau o Julie Morgan AC a Jocelyn Davies AC yn cymryd rhan mewn sgwrs ar y we gyda myfyrwyr ar Google Hangout ar gyfer ymchwiliad y Pwyllgor Cyllid i Gyllido Addysg Uwch Mae pobl ym mhobman yn byw bywydau cynyddol brysur, felly mae sicrhau bod cyfranogiad yng ngwaith y Cynulliad mor hawdd ac mor hygyrch â phosibl yn hanfodol ar gyfer ymgysylltu â’r amrywiaeth eang o bobl sy’n rhan o boblogaeth Cymru. Mae pwyllgorau’r Cynulliad wedi bod yn defnyddio sianelau digidol fwy a mwy i annog pobl i rannu eu barn gyda ni. Rydym wedi defnyddio Google Hangouts i siarad â myfyrwyr am sgiliau STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg) a Chyllido Addysg Uwch, wedi ffilmio aelodau o’r cyhoedd ar iPad a dangos y ffilm fel tystiolaeth mewn cyfarfodydd pwyllgor ffurfiol ac wedi defnyddio Twitter i gael gafael ar gwestiynau i’w gofyn i Carwyn Jones AC , y Prif Weinidog ac arweinydd Llywodraeth Cymru. Mae’r fideo a ganlyn yn dangos Rhun ap Iorwerth AC a Julie James AC yn cael eu cyfweld ar ôl cymryd rhan yn eu sgwrs gyntaf ar y we ar Google Hangout gyfer yr ymchwiliad i Sgiliau STEM: [youtube https://www.youtube.com/watch?v=fomBO9zuluU&w=560&h=315] Yn y misoedd diwethaf, rydym wedi defnyddio Loomio am y tro cyntaf, fel rhan o ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i edrych ar gamddefnyddio alcohol a sylweddau yng Nghymru. We-cais yw Loomio, sy’n cael i’w defnyddio i gynorthwyo grwpiau gyda phrosesau gwneud penderfyniadau cydweithredol. Rhan allweddol o’r ymchwiliad oedd siarad yn uniongyrchol â’r bobl yr effeithir arnynt gan y materion hyn, ond mae rhai pobl yn ei chael yn anodd mynd i gyfarfodydd pwyllgorau swyddogol. Hefyd nid yw pawb yr effeithir arnynt yn gallu mynegi eu meddyliau a’u teimladau yn ysgrifenedig i’r Pwyllgor. Roedd Loomio yn caniatáu i’r Pwyllgor siarad â phobl, heb i bawb orfod bod yn yr un ystafell. Defnyddiodd darparwyr gwasanaethau a chleientiaid y fforwm ar-lein i ddweud wrthym pa broblemau y maent wedi’u cael, a’r hyn y maent eisiau i Lywodraeth Cymru ei wneud i’w datrys. Dyma lun sy'n dangos rhai o'r cyfraniadau cawsom y drafodaeth: Loomio: Dyma lun sy'n dangos rhai o'r cyfraniadau cawsom y drafodaeth Ar ddiwedd y broses o gasglu tystiolaeth, ar ôl i’r Pwyllgor ystyried popeth y mae pobl wedi’i ddweud wrtho, bydd fel arfer yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru. Mae hyn er mwyn egluro pa gamau yr hoffai’r Pwyllgor weld Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella bywydau pobl yng Nghymru, ar sail y dystiolaeth a glywodd. Mae hyn yn tueddu i fod ar ffurf adroddiadau swyddogol, a all fod yn eithaf hir, ond rydym yn ystyried gwahanol ffyrdd o gyflwyno adroddiadau pwyllgorau, i’w gwneud yn fyrrach ac yn haws i’w deall yn gymharol gyflym. Mae’r fideo hwn yn enghraifft o un o’r fersiynau cryno hyn, ac fe’i gwnaed ar gyfer pobl a oedd yn cael eu ffilmio ar gyfer ymchwiliad i entrepreneuriaeth ymysg pobl ifanc:  [youtube https://www.youtube.com/watch?v=dl3pakdX6Y4&w=560&h=315] Yn fwy diweddar, rydym wedi defnyddio Adobe Slate i grynhoi adroddiad ar Dlodi yng Nghymru: https://slate.adobe.com/a/oZydK Mae defnyddio sianeli a llwyfannau digidol wedi caniatáu i ni ymgysylltu â phobl yn haws ac yn fwy effeithiol nag o’r blaen. Mae hefyd yn golygu y gall rhagor o bobl helpu’r Cynulliad i graffu ar berfformiad Llywodraeth Cymru, fel bod argymhellion y Cynulliad i Lywodraeth Cymru yn seiliedig ar y problemau a gaiff pobl yn eu bywydau bob dydd.