Penodiadau Gweinidogol: Gwrandawiadau cyn penodi

Cyhoeddwyd 12/04/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 12/04/2017

Simon ThomasGwnaeth Simon Thomas AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, ddatganiad yn y Cyfarfod Llawn ar 5 Ebrill 2017 ar ran y Pwyllgor, yn amlinellu profiad y Pwyllgor hwn o'i wrandawiad cyn penodi ar gyfer Cadeirydd Awdurdod Cyllid Cymru.

Bydd Awdurdod Cyllid Cymru yn cael ei sefydlu i gasglu a rheoli trethi datganoledig Cymru a bydd yn weithredol o fis Ebrill 2018. Adran anweinidogol Llywodraeth Cymru yw Awdurdod Cyllid Cymru. Roedd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn credu y byddai gwrandawiad cyn penodi yn fuddiol o ystyried y statws a'r trefniadau llywodraethu unigryw ar gyfer Cadeirydd Awdurdod Cyllid Cymru. [youtube https://www.youtube.com/watch?v=BuS1fJJDsIY&w=560&h=315] Cafodd y Pwyllgor ei galonogi gan ymrwymiad yr Ysgrifennydd Cabinet i dryloywder ac atebolrwydd wrth recriwtio penodiadau cyhoeddus, a chroesawodd y cyfle i helpu i wella'r weithdrefn hon ar gyfer gwrandawiadau cyn penodi yn y dyfodol. Cydnabu'r Pwyllgor ymrwymiad yr Ysgrifennydd Cabinet i wrandawiadau cyn penodi; yn wir, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cabinet erthygl yn 2012 lle cydnabu bwysigrwydd gwrandawiadau cyn penodi. Mae'r Cadeirydd yn cydnabod bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi cymryd y camau cyntaf i dynnu arferion y Cynulliad yn unol â chyrff seneddol eraill sydd eisoes wedi sefydlu proses mewn perthynas â gwrandawiadau cyn penodi. Yn natganiad y Pwyllgor, bu’r Cadeirydd yn manylu’r canlyniadau adeiladol a gafwyd o'r gwrandawiad, gan gynnwys rhoi cyfle i'r ymgeisydd wynebu craffu seneddol mewn lleoliad cyhoeddus, sy'n rhywbeth y mae angen i'r sawl a benodir i swydd ar y lefel hon fod yn barod amdano. Yn y datganiad, dywedodd y Cadeirydd fod lle i wella fel yn achos unrhyw weithdrefn newydd. Amlinellodd awgrymiadau'r Pwyllgor Cyllid ar gyfer gwrandawiadau cyn penodi yn y dyfodol, sy'n cynnwys:
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet yn amlinellu pam mae'r Gweinidog/Ysgrifennydd y Cabinet yn credu bod yr ymgeisydd yn addas ar gyfer y swydd.
  • Amser adrodd ychwanegol yn yr amserlen.
  • Gosod rhestr benodol o benodiadau cyhoeddus lle y mae'n rhaid cynnal gwrandawiad cyn penodi.
  • Gweledigaeth y Cadeirydd ar gyfer gwrandawiadau cyn penodi yn y dyfodol yw eu bod yn cryfhau tryloywder ac atebolrwydd penodiadau gweinidogol, a fydd yn gwneud y cyhoedd yn fwy hyderus ynghylch y penderfyniadau a wneir gan Lywodraeth Cymru a'r Cynulliad fel ei gilydd.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael am Bwyllgor Cyllid y Cynulliad yn cynulliad.cymru/seneddcyllid. Gallwch hefyd ddilyn y Pwyllgor ar Twitter @SeneddCyllid.